xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydain mewn cysylltiad â chychod pysgota

13.—(1At ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaethau cywerth, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydain arfer y pwerau a gyflwynir gan yr erthygl hon mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota o fewn Cymru.

(2Bydd hawl gan y swyddog i fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a aseiniwyd i gynorthwyo gyda dyletswyddau'r swyddog hwnnw, a chaiff ofyn am stopio'r cwch a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso un ai mynd ar fwrdd y cwch neu ddod oddi arno.

(3Caiff y swyddog fynnu fod y meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn dod ger ei fron a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymholiad sy'n angenrheidiol yn ôl ei farn ef at y diben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) y rheoliad hwn ac, yn arbennig–

(a)bydd hawl ganddo i chwilio am bysgod neu daclau pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys y taclau pysgota, a bydd hawl ganddo i fynnu fod personau ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r swyddog i hwyluso'r archwiliad;

(b)bydd hawl ganddo ofyn i unrhyw berson ar fwrdd y cwch ddangos unrhyw ddogfen yn ymwneud â'r cwch, yn ymwneud ag unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol at hynny neu i'r personau ar y bwrdd sydd yng nghadwraeth neu berchnogaeth y person hwnnw;

(c)at ddibenion canfod a gyflawnwyd trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu ddarpariaethau cywerth, bydd hawl ganddo i chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a bydd hawl ganddo i fynnu fod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r swyddog er hwyluso'r archwiliad;

(ch)bydd hawl ganddo i archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a roddir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi ar y cwch;

(d)heb ragfarnu is-baragraffau (c) ac (ch), caiff fynnu fod y meistr ac unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cwch ar y pryd yn trosi pob dogfen o'r fath sydd ar system cyfrifiadur i ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu fod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chynhyrchu mewn ffurf gludadwy; a

(dd)pan fo'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm dros amau fod trosedd wedi'i gyflawni arno o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaethau cywerth, bydd hawl ganddo i atafaelu a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a roddir i'r swyddog ar y cwch at ddibenion gallu defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth o'r drosedd mewn achos;

ond nid oes dim yn is-baragraff (dd) uchod yn caniatáu atafaelu a chadw unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chario ar y cwch yn ôl y gyfraith ac eithrio tra bo'r cwch yn cael ei gadw'n gaeth mewn porthladd.

(4Pan fo'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydain fod trosedd wedi'i chyflawni o dan y Rheoliadau hyn neu ddarpariaethau cywerth ar unrhyw adeg, bydd hawl gan y swyddog i–

(a)ofyn i feistr y cwch mewn cysylltiad â'r hwn y digwyddodd y drosedd, neu caiff y swyddog, fynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf; a

(b)chadw neu fynnu fod y meistr yn cadw'r cwch yn gaeth yn y porthladd;

a lle bo swyddog o'r fath yn cadw cwch yn gaeth, neu'n mynnu fod cwch yn cael ei gadw'n gaeth rhaid i'r swyddog gyflwyno rhybudd ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y cedwir y cwch yn gaeth neu ei bod yn ofynnol ei gadw'n gaeth hyd nes bydd y rhybudd yn cael ei ddiddymu trwy gyflwyno rhybudd ysgrifenedig pellach i'r meistr wedi'i lofnodi gan swyddog pysgodfeydd môr Prydain.