Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydain ar dir14
1
At ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn neu ddarpariaethau cywerth, caniateir i unrhyw swyddog pysgodfeydd môr yng Nghymru–
a
fynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg resymol unrhyw fangre a ddefnyddir ar gyfer cynnal unrhyw fusnes mewn cysylltiad â gweithredu cychod pysgota neu weithgareddau cysylltiedig â hynny neu ategol at hynny neu gysylltiedig â thrin, storio, prynu neu werthu pysgod;
b
mynd ag unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r swyddog gydag ef ynghyd ag unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau;
c
archwilio unrhyw bysgod sydd yn y fangre a mynnu fod personau sydd yn y fangre'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r swyddog i hwyluso'r archwiliad;
ch
cynnal unrhyw archwiliadau neu brofion eraill o'r fath allai fod yn rhesymol angenrheidiol mewn mangre felly;
d
mynnu nad yw unrhyw berson yn symud pysgod neu'n peri i bysgod gael eu symud o fangre o'r fath am gyfnod angenrheidiol resymol at ddibenion sefydlu a gyflawnwyd trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaethau cywerth;
dd
mynnu fod unrhyw berson yn y fangre'n dangos unrhyw ddogfennau sydd yng ngofal neu berchnogaeth y person hwnnw mewn cysylltiad â dal, glanio, cludo, trawslwytho, gwerthu neu waredu unrhyw bysgod neu'n gysylltiedig ag unrhyw gwch pysgota'n mynd i mewn i unrhyw borthladd neu harbwr neu'n ymadael oddi yno;
e
at ddibenion cadarnhau a yw unrhyw berson yn y fangre wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaethau cywerth, chwilio'r fangre am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu fod unrhyw berson yn y fangre'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r swyddog er hwyluso'r chwiliad;
f
archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu a ddarganfyddir yn y fangre;
ff
mynnu fod unrhyw berson priodol neu gyfrifol yn trosi unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadur i ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu ei bod yn cael ei chynhyrchu mewn ffurf gludadwy; a
g
os oes rheswm gan y swyddog i amau fod trosedd wedi'i gyflawni o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaethau cywerth, i atafaelu a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog hwnnw neu a ddarganfuwyd yn y fangre fel y gellir defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ar gyfer y drosedd.
2
Mae darpariaethau paragraff (1) uchod hefyd yn gymwys gydag addasiadau angenrheidiol mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu yng nghyswllt unrhyw gerbyd neu gynhwysydd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydain achos rhesymol dros gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo cynhyrchion pysgodfeydd, fel y maent yn gymwys yn achos mangre ac, yn achos cerbyd, yn cynnwys yr hawl i fynnu fod y cerbyd yn aros ar unrhyw adeg ac, os oes angen cyfeirio'r cerbyd i rywle arall i hwyluso'r archwiliad.
3
Os yw ynad heddwch yn fodlon, ar sail gwybodaeth ar lw ysgrifenedig–
a
fod achos rhesymol dros gredu fod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr yr hawl i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn yn unrhyw fangre a bod eu harchwilio'n debygol o ddatgelu tystiolaeth fod trosedd wedi'i chyflawni o dan y Rheoliadau hyn neu ddarpariaethau cywerth; ac
b
un ai–
i
y gwrthodwyd mynediad i'r fangre neu'i bod yn debygol y'i gwrthodir a bod y deiliad wedi cael rhybudd o'r bwriad i wneud cais am warant; neu
ii
y byddai cais am fynediad neu roi rhybudd o'r fath yn gwadu pwrpas mynediad, neu fod y fangre'n wag, neu fod y deiliad yn absennol dros dro ac y gallai aros i'r deiliad ddychwelyd wadu pwrpas mynediad;
bydd hawl gan yr ynad, trwy warant a lofnodir ganddo, ac sy'n ddilys am un mis, i awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydain i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen, ac i'r swyddog fynd â'r bobl hynny yr ymddengys iddo eu bod yn angenrheidiol i'w ganlyn.