Pwerau swyddogion pysgod môr Prydain i atafaelu pysgod15.
(1)
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw gwch pysgota yng Nghymru.
(2)
Lle bo'r rheoliad hwn yn gymwys, bydd hawl gan unrhyw swyddog pysgod môr Prydain i atafaelu unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy'n dal pysgod) y mae gan y swyddog achos rhesymol dros amau y cyflawnwyd trosedd mewn cysylltiad â hwy o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddarpariaeth gywerth.