Cofrestru prynwyr pysgod7
1
At ddibenion Erthygl 22(2)(b) o'r Rheoliad CFP caiff unrhyw berson wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gofrestru'n brynwr pysgod, gan ddefnyddio'r ffurflen a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
2
Rhaid i gais i gofrestru'n brynwr pysgod gynnwys datganiad ynglŷn â'r cyfleusterau a'r dulliau arfaethedig y bwriada'r ymgeisydd eu defnyddio a'r man lle mae'r ymgeisydd yn bwriadu cadw'r cofnodion gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf.
3
Wrth ystyried cais rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried a yw'r datganiad ynglŷn â dulliau gweithredu arfaethedig yr ymgeisydd, a'r man lle mae'r ymgeisydd yn bwriadu cadw'r cofnodion prynu pysgod gwerthiant cyntaf yn gyfryw ag y byddant o gymorth i gydymffurfio gydag Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP a'r Rheoliadau hyn.
4
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ymgeisydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ynglŷn â chais a wnaed iddo'n unol â'r rheoliad hwn.
5
Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo cofrestriad bydd yn ddarostyngedig i Atodlen 3 ac yn gorfod pennu'r amodau a restrir ynddi.
6
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o brynwyr pysgod cofrestredig yn ôl fel y gwêl yn dda.
7
Gellir atal cofrestriad prynwr pysgod, pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r prynwr pysgod cofrestredig wedi–
a
cydymffurfio ag amod cofrestru; neu,
b
cynnal busnes mewn modd sy'n cydymffurfio gyda gofynion Erthygl 9, Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP neu'r Rheoliadau hyn.
8
Bydd unrhyw berson sy'n gwneud datganiad ffug yn ymwybodol neu'n fyrbwyll at ddibenion cais o dan y rheoliad hwn yn euog o drosedd.
9
Bydd unrhyw brynwr pysgod sy'n gwrthod cydymffurfio ag amod cofrestru'n euog o drosedd.