Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2014-11-28
PRIFFYRDD, CYMRU
Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 (“Rheoliadau 1992”) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”), Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) a Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) yn rhagnodi cynllun ar gyfer talu gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau strydoedd. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 1992, Rheoliadau 2001, Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2004 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru ac yn ailddeddfu'r Rheoliadau hynny i roi effaith i'r newidiadau a ganlyn:Diffinnir “uned arolygu am dâl”bellach, yn syml, fel arolygu ar hap lai na 10 y cant a dim mwy na 10.5 y cant o bob cyfnod o'r gwaith, a dim mwy na 30 y cant o gyfanswm nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn unrhyw flwyddyn: rheoliad 3(2).Ailddiffinnir “uned arolygu”, yn achos clystyrau o ddim mwy na 5 o ddarnau a gloddir (neu ddim mwy na 10 pan fo'r gwaith yn ymwneud â phibellau neu linellau cyswllt) fel y bo dau ofyniad, sef bod yr holl ddarnau a gloddir yn yr un stryd, a'u bod yn rhan o'r un gwaith, yn cael eu rhoi yn lle gofyniad blaenorol bod pob darn a gloddir yn yr achosion hyn yn ddarostyngedig i un hysbysiad o ddyddiad cychwyn: rheoliad 3(3).Yn lle'r pum “Cyfnod gwaith”a geir yn Rheoliadau 1992 ceir bellach dri: rheoliad 3(4).Yn lle “niferoedd amcangyfrifedig yr unedau arolygu”ceir “nifer cyfrifadwy yr unedau arolygu”, sef nifer cyfartalog yr unedau arolygu cyfrifadwy ar gyfer yr ymgymerydd hwnnw yn ystod y tair blynedd flaenorol: rheoliad 3(5). Mae rheoliadau 3(6) a (7) yn darparu bod ymgymerwyr newydd i amcangyfrif nifer yr unedau arolygu y maent yn arfaethu eu cynhyrchu yn y tair blynedd gyntaf.
Dirymiadau4
1
Dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) 19923i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
2
Dirymir y Rheoliadau canlynol:
a
Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 20014.
b
Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 20025.
c
Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 20046.