- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd Gorchymyn Cychwyn sy'n cael ei wneud o dan Ddeddf Tai 2004 (“y Deddf”) ac mae'n dwyn i rym yng Nghymru ddarpariaethau pellach sydd yn y Deddf, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a wneir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn.
Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 16 Mehefin 2006 ddarpariaethau amrywiol Deddf 2004 a restrir o dan erthygl 2.
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym y rhan fwyaf o'r darpariaethau yn y Rhannau canlynol o'r Deddf ar 16 Mehefin i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym:
Rhan 1, sy'n cyflwyno system newydd i awdurdodau tai lleol ar gyfer asesu amodau tai a gorfodi safonau tai. Mae Rhan 1 yn disodli Rhan 6 o Ddeddf Tai 1985 (hysbysiadau trwsio) ac yn diwygio Rhan 9 o'r Deddf honno (chwalu slymiau).
Rhan 2, sy'n darparu bod yr awdurdodau hynny yn trwyddedu tai amlfeddiannaeth ac sy'n disodli Rhan 11 o Ddeddf Tai 1985.
Rhan 3, sy'n darparu bod yr awdurdodau hynny yn trwyddedu'n ddetholus letyau preswyl eraill.
Rhan 4, sy'n darparu ar gyfer rheolaeth ychwanegol gan yr awdurdodau hynny mewn perthynas â lletyau preswyl drwy wneud gorchmynion rheoli a gorchmynion rheoli anheddau gwag a chyflwyno gorchmynion gorlenwi.
Rhan 7, sy'n darparu ar gyfer tribiwnlysoedd eiddo preswyl ac sy'n cynnwys darpariaethau atodol a therfynol at ddibenion y Deddf.
Mae Erthygl 2 yn dwyn i rym y darpariaethau sy'n weddill yn Rhannau 2 i 4 a'r rhai sy'n ymwneud â thramgwyddau yn Rhannau 2 a 3, y broses o wneud gorchmynion ad-dalu rhent o ganlyniad i weithredu mangre y mae'n ofynnol ei thrwyddedu o dan y Rhannau hynny ond nad yw wedi'i thrwyddedu ac i'r ffaith bod tribiwnlys eiddo preswyl wedi awdurdodi gwneud gorchymyn interim i reoli annedd wag o dan Bennod 2 o Ran 4. Mae Erthygl 2 yn dwyn i rym hefyd fân ddiwygiadau neu ddiwygiadau canlyniadol yn Atodlen 15, a diddymiadau yn Atodlen 16 i'r Deddf a'r rhain yn gysylltiedig â'r darpariaethau eraill sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: