1.—(1) Bydd hysbysiad trwsio a gyflwynwyd o dan adran 189 neu 190 o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn yn peidio â bod yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw onid yw'n hysbysiad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i hysbysiad trwsio—
(a)sydd wedi dod yn weithredol yn y modd a grybwyllir yn adran 189(4) neu 190(4) o Ddeddf 1985 cyn y dyddiad cychwyn; neu
(b)y mae apêl ynglŷn ag ef wedi'i dwyn o dan adran 191 o'r Deddf honno cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ar 15 Mehefin 2007, ni fydd diddymu adrannau 189 i 208, 345, 398, 604 a 604A o Ddeddf 1985, ac Atodlen 10 iddi, yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(4) Pan fo—
(a)apêl ynglŷn â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei chaniatáu; a
(b)y barnwr yn cynnwys yn ei farn ddyfarniad fel a grybwyllir yn adran 191(3) o Ddeddf 1985,
rhaid i'r awdurdod tai lleol gymryd y dyfarniad i ystyriaeth os bydd wedyn yn ystyried cymryd camau o'r math a grybwyllir yn adran 5(2) neu 7(2) o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r fangre o dan sylw.
(5) Bydd hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn peidio â bod yn effeithiol ar 16 Mehefin 2007 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed mewn cysylltiad â'r hysbysiad cyn y dyddiad hwnnw.
(6) Ni fydd diddymu adran 191(3A)(b) o Ddeddf 1985 yn effeithiol mewn perthynas â gorchymyn a wnaed gan lys o dan y paragraff hwnnw cyn y dyddiad hwnnw.
(7) Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 4(2) o Atodlen 15 i Ddeddf 2004 (sy'n diwygio Deddf Iawndal Tir 1973) yn effeithiol mewn perthynas â hysbysiad trwsio y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo.