xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
21 Mehefin 2006
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006.
2. Mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005(3)yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:
Yn lle erthygl 5 rhodder yr erthyglau canlynol—
“5. Daw adran 44(4) i rym ar 23 Mehefin 2006.
5A. Daw adran 44(3) i rym ar 1 Medi 2006.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mehefin 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) 2005 (“Gorchymyn Rhif 2”) drwy roi dyddiad dod i rym newydd ar gyfer adran 44(4) o Ddeddf Addysg 2004 (sy'n trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol bŵer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 23 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i drosglwyddo neu ddirprwyo swyddogaethau cymorth myfyrwyr o dan reoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf honno).
Bydd yr is-adran honno, a oedd i ddod i rym ar 1 Medi 2006 o dan Orchymyn Rhif 2, yn awr yn dod i rym ar 23 Mehefin 2006.
Fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Addysg Uwch 2004, adran 52 (4).