2006 Rhif 1701 (Cy.163)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(1), (4) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 19671, gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2006.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
1
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “gwasanaeth cyn-allforio” (“pre-export service”) yw unrhyw arolygiad neu archwiliad iechyd planhigion, gan gynnwys cymryd samplau, y mae'n ofynnol eu cyflawni er mwyn bodloni gofynion ffytoiechydol trydedd wlad, heblaw unrhyw wasanaeth o'r fath sy'n ofynnol ar gyfer dyroddi tystysgrif o dan y Gorchymyn hwn;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer” ) yw—
- a
person a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 20062 neu
- b
unrhyw swyddog arall o'r Cynulliad Cenedlaethol;
- a
mae i “trydedd wlad” yr un ystyr yn Gorchymyn hwn ag sydd i “third country” yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 19933;
ystyr “tystysgrif” (“certificate”), o ran cais a gaiff ei wneud yn unol â'r Gorchymyn hwn, yw naill ai tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, yn ôl y digwydd;
ystyr “tystysgrif ffytoiechydol” (“phytosanitary certificate”) yw tystysgrif a gafodd ei chwblhau'n briodol yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1 neu mewn ffurf debyg arall y gellir cytuno arni rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r drydedd wlad y bwriedir i'r dystysgrif fodloni ei gofynion ffytoiechydol; ac
ystyr “tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio” (“phytosanitary certificate for re-export”) yw tystysgrif a gafodd ei chwblhau'n briodol yn y ffurf a bennir yn Atodlen 2 neu mewn ffurf debyg arall y gellir cytuno arni rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r drydedd wlad y bwriedir i'r dystysgrif fodloni ei gofynion ffytoiechydol.
2
Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran unrhyw dystysgrif neu wasanaeth a ddarperir gan neu ar ran y Comisiynwyr Coedwigaeth.
Tystysgrifau ar gyfer allforio planhigion etc. i drydydd gwledydd3
1
Caiff person sy'n bwriadu allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydedd wlad wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am dystysgrif o dan y Gorchymyn hwn.
2
Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cais a wnaed o dan baragraff (1), rhaid i swyddog awdurdodedig:—
a
cyflawni unrhyw rai o'r gwasanaethau a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 y mae o'r farn eu bod yn caniatáu iddo ddyroddi'r dystysgrif; a
b
os yw wedi'i fodloni y dylid dyroddi tystysgrif, dyroddi'r dystysgrif ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
3
Caiff swyddog awdurdodedig awdurdodi unrhyw berson yn ysgrifenedig i arolygu gronynnau pan fo arolygiad o'r fath yn ofynnol i alluogi'r swyddog hwnnw i ddyroddi'r dystysgrif.
Gwasanaethau cyn-allforio4
1
Caiff person sy'n bwriadu allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydedd wlad neu drydydd gwledydd wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am wasanaeth cyn-allforio o dan y Gorchymyn hwn.
2
Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cais a wnaed o dan baragraff (1), rhaid i swyddog awdurdodedig—
a
cyflawni unrhyw rai o'r gwasanaethau cyn-allforio y mae'r swyddog awdurdodedig o'r farn eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a gafodd gofynion mewnforio'r wlad neu'r gwledydd ar gyfer allforio a bennir yn y cais eu bodloni; a
b
rhoi i'r ceisydd ganlyniadau unrhyw arolygiad neu archwiliad a gynhaliwyd.
Ffioedd am ddyroddi tystysgrifau a darparu gwasanaethau5
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid talu i'r Cynulliad Cenedlaethol—
a
o ran y gwasanaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn gyntaf Atodlen 3, y ffi a bennir gyferbyn yn ail golofn yr Atodlen honno; a
b
o ran gwasanaeth cyn-allforio, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 4.
2
Rhaid i allforiwr bach dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol—
a
o ran y gwasanaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 naill ai—
i
y ffi a bennir gyferbyn yn nhrydedd golofn Atodlen 3; neu
ii
os yw cyfanswm y ffioedd o ran unrhyw wasanaethau o dan y Gorchymyn hwn y daeth yn atebol amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais ganddo yn fwy na £250, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 3; a
b
o ran gwasanaeth cyn-allforio naill ai—
i
y ffi a bennir yn nhrydedd golofn Atodlen 4; neu
ii
os yw cyfanswm y ffioedd o ran unrhyw wasanaethau o dan Gorchymyn hwn y daeth yn atebol amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais ganddo yn fwy na £250, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 4.
3
Yn yr erthygl hon, ystyr “allforiwr bach” (“small exporter”) yw person, yn y flwyddyn ariannol pan wneir y cais—
a
nad yw'n berson trethadwy at ddibenion Deddf Treth ar Werth 19944; neu
b
nad yw'n cyflenwi'n drethadwy blanhigion, cynhyrchion planhigion, hadau, pridd neu beiriannau amaethyddol at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994; neu
c
na wnaeth allforio yn y flwyddyn ariannol flaenorol nwyddau a thystysgrif gyda hwy yr oedd cyfanswm eu gwerth yn £5,000 neu fwy.
Tramgwyddau6
1
Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person, at ddibenion peri bod tystygrif yn cael ei dyroddi o dan y Gorchymyn hwn—
a
yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn anwir mewn manylyn perthnasol;
b
yn ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n anwir mewn manylyn perthnasol; neu
c
yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.
2
Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985
ATODLEN 1FFURF AR DYSTYSGRIF FFYTOIECHYDOL
ATODLEN 2FFURF AR DYSTYSGRIF FFYTOIECHYDOL AR GYFER AILALLFORIO
ATODLEN 3
Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau | Ffi | Ffi(allforiwr bach) |
---|---|---|
| ||
Arolygiad a, phan fo angen, archwiliad mewn labordy | £20.25 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £40.50 | £10.13 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £20.25 |
Archwiliad mewn labordy yn unig | £20.00 | £10.00 |
Dyroddi tystysgrif pan nad oes angen arolygiad neu archwiliad mewn labordy | £5.00 | £2.50 |
| ||
Monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3), a phan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig | £45.00 | £22.50 |
ATODLEN 4
Gwasanaeth | Ffi | Ffi (allforiwr bach) |
---|---|---|
Gwasanaeth cyn-allforio | £20.25 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £40.50 | £10.13 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £20.25 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)