Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1701 (Cy.163)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

27 Mehefin 2006

Yn dod i rym

30 Mehefin 2006

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “gwasanaeth cyn-allforio” (“pre-export service”) yw unrhyw arolygiad neu archwiliad iechyd planhigion, gan gynnwys cymryd samplau, y mae'n ofynnol eu cyflawni er mwyn bodloni gofynion ffytoiechydol trydedd wlad, heblaw unrhyw wasanaeth o'r fath sy'n ofynnol ar gyfer dyroddi tystysgrif o dan y Gorchymyn hwn;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer” ) yw—

(a)

person a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn neu Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(2) neu

(b)

unrhyw swyddog arall o'r Cynulliad Cenedlaethol;

mae i “trydedd wlad” yr un ystyr yn Gorchymyn hwn ag sydd i “third country” yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993(3);

ystyr “tystysgrif” (“certificate”), o ran cais a gaiff ei wneud yn unol â'r Gorchymyn hwn, yw naill ai tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, yn ôl y digwydd;

ystyr “tystysgrif ffytoiechydol” (“phytosanitary certificate”) yw tystysgrif a gafodd ei chwblhau'n briodol yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1 neu mewn ffurf debyg arall y gellir cytuno arni rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r drydedd wlad y bwriedir i'r dystysgrif fodloni ei gofynion ffytoiechydol; ac

ystyr “tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio” (“phytosanitary certificate for re-export”) yw tystysgrif a gafodd ei chwblhau'n briodol yn y ffurf a bennir yn Atodlen 2 neu mewn ffurf debyg arall y gellir cytuno arni rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r drydedd wlad y bwriedir i'r dystysgrif fodloni ei gofynion ffytoiechydol.

(2Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran unrhyw dystysgrif neu wasanaeth a ddarperir gan neu ar ran y Comisiynwyr Coedwigaeth.

Tystysgrifau ar gyfer allforio planhigion etc. i drydydd gwledydd

3.—(1Caiff person sy'n bwriadu allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydedd wlad wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am dystysgrif o dan y Gorchymyn hwn.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cais a wnaed o dan baragraff (1), rhaid i swyddog awdurdodedig:—

(a)cyflawni unrhyw rai o'r gwasanaethau a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 y mae o'r farn eu bod yn caniatáu iddo ddyroddi'r dystysgrif; a

(b)os yw wedi'i fodloni y dylid dyroddi tystysgrif, dyroddi'r dystysgrif ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Caiff swyddog awdurdodedig awdurdodi unrhyw berson yn ysgrifenedig i arolygu gronynnau pan fo arolygiad o'r fath yn ofynnol i alluogi'r swyddog hwnnw i ddyroddi'r dystysgrif.

Gwasanaethau cyn-allforio

4.—(1Caiff person sy'n bwriadu allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydedd wlad neu drydydd gwledydd wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am wasanaeth cyn-allforio o dan y Gorchymyn hwn.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cais a wnaed o dan baragraff (1), rhaid i swyddog awdurdodedig—

(a)cyflawni unrhyw rai o'r gwasanaethau cyn-allforio y mae'r swyddog awdurdodedig o'r farn eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a gafodd gofynion mewnforio'r wlad neu'r gwledydd ar gyfer allforio a bennir yn y cais eu bodloni; a

(b)rhoi i'r ceisydd ganlyniadau unrhyw arolygiad neu archwiliad a gynhaliwyd.

Ffioedd am ddyroddi tystysgrifau a darparu gwasanaethau

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid talu i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)o ran y gwasanaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn gyntaf Atodlen 3, y ffi a bennir gyferbyn yn ail golofn yr Atodlen honno; a

(b)o ran gwasanaeth cyn-allforio, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 4.

(2Rhaid i allforiwr bach dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a) o ran y gwasanaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn gyntaf Atodlen 3 naill ai—

(i)y ffi a bennir gyferbyn yn nhrydedd golofn Atodlen 3; neu

(ii)os yw cyfanswm y ffioedd o ran unrhyw wasanaethau o dan y Gorchymyn hwn y daeth yn atebol amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais ganddo yn fwy na £250, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 3; a

(b)o ran gwasanaeth cyn-allforio naill ai—

(i)y ffi a bennir yn nhrydedd golofn Atodlen 4; neu

(ii)os yw cyfanswm y ffioedd o ran unrhyw wasanaethau o dan Gorchymyn hwn y daeth yn atebol amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais ganddo yn fwy na £250, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 4.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “allforiwr bach” (“small exporter”) yw person, yn y flwyddyn ariannol pan wneir y cais—

(a)nad yw'n berson trethadwy at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994(4); neu

(b)nad yw'n cyflenwi'n drethadwy blanhigion, cynhyrchion planhigion, hadau, pridd neu beiriannau amaethyddol at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994; neu

(c)na wnaeth allforio yn y flwyddyn ariannol flaenorol nwyddau a thystysgrif gyda hwy yr oedd cyfanswm eu gwerth yn £5,000 neu fwy.

Tramgwyddau

6.—(1Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person, at ddibenion peri bod tystygrif yn cael ei dyroddi o dan y Gorchymyn hwn—

(a)yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn anwir mewn manylyn perthnasol;

(b)yn ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n anwir mewn manylyn perthnasol; neu

(c)yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mehefin 2006

Erthygl 2

ATODLEN 1FFURF AR DYSTYSGRIF FFYTOIECHYDOL

Erthygl 2

ATODLEN 2FFURF AR DYSTYSGRIF FFYTOIECHYDOL AR GYFER AILALLFORIO

Erthyglau 3 a 5

ATODLEN 3

Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifauFfiFfi(allforiwr bach)

(1Gwasanaethau am lwythi heblaw gronynnau:

Arolygiad a, phan fo angen, archwiliad mewn labordy£20.25 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £40.50£10.13 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £20.25
Archwiliad mewn labordy yn unig£20.00£10.00
Dyroddi tystysgrif pan nad oes angen arolygiad neu archwiliad mewn labordy£5.00£2.50

(2Gwasanaethau ar gyfer llwythi o ronynnau:

Monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3), a phan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig£45.00£22.50

Erthygl 5

ATODLEN 4

GwasanaethFfiFfi (allforiwr bach)
Gwasanaeth cyn-allforio£20.25 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £40.50£10.13 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o £20.25

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2006. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth i ddyroddi tystysgrifau ffytoiechydol a thystysgrifau ffytoiechydol ailanfon ar gyfer allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydydd gwledydd i fodloni gofynion rheoliadau ffytoiechydol y gwledydd hynny.

Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am ddyroddi tystysgrifau ffytoiechydol a thystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio.

Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am wasanaethau cyn-allforio a chyflawni'r gwasanaethau hynny gan swyddogion awdurdodedig.

Mae erthygl 5 ac Atodlenni 3 a 4 yn rhagnodi'r ffioedd sy'n daladwy gan geiswyr tystysgrifau ffytoiechydol, tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a thalu ffioedd am wasanaethau cyn-allforio.

Mae erthygl 6 yn darparu ei bod yn dramgwydd i wneud datganiad anwir gan wybod hynny neu gan fod yn ddi-hid o hynny neu yn fwriadol i fethu â datgelu gwybodaeth berthnasol er mwyn peri bod tystysgrif yn cael ei dyroddi.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi cael ei baratoi o ran Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48). O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac, o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)

O.S. [ ].