2006 Rhif 1705 (Cy.167)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(2), (4) a (5), 32(2) a (3), 34(1) a 66(1) o Ddeddf Plant 20041, a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol o ran rheoliad 5(2)(a) i (c), (dd) ac (e)2, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: