2006 Rhif 1710 (Cy.172)

CLEFYDAU GWENYN, CYMRU

Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1 o Ddeddf Gwenyn 19801, ac a freiniwyd ynddo bellach, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006, daw i rym ar 1 Gorffennaf 2006 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

1

Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys unrhyw long, cwch, hofrenfad neu awyren.

  • ystyr “clefyd hysbysadwy” (“notifiable disease”) yw clefyd y gwenyn Americanaidd neu glefyd y gwenyn Ewropeaidd;

  • ystyr “cwch” (“hive”) yw unrhyw beth sy'n cynnwys, neu sydd wedi cynnwys ar unrhyw adeg, nythfa o wenyn;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan gydag adeiladau neu heb adeiladau;

  • ystyr “offer” (“appliances”) yw cynwysyddion neu unrhyw offer arall a ddefnyddir mewn perthynas â chadw neu gludo gwenyn;

  • ystyr “pecyn profi yn y maes” (“field test kit”) yw pecyn profi symudol a ddefnyddir i'r diben o gadarnhau presenoldeb clefyd heb fod angen anfon samplau i labordy;

  • ystyr “pla gwenyn” (“bee pest”) yw unrhyw chwilen, gwiddonyn neu organeb debyg a all fod yn niweidiol i wenyn ac sydd ar unrhyw gam yn ei gylchred bywyd;

  • ystyr “pla hysbysadwy” (“notifiable pest”) yw chwilen fach y cwch (Aethina tumida) neu unrhyw rywogaeth o'r gwiddonyn Tropilaelaps;

2

Mae hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn—

a

yn gorfod bod mewn ysgrifen;

b

yn gallu cael ei atal, ei ddiwygio neu ei ddirymu drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg;

c

yn gallu bod yn ddarostyngedig i amodau.

3

Nid yw paragraff (2)(c) yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad o dan erthygl 10.

4

Rhaid i drwydded o dan y Gorchymyn hwn fod mewn ysgrifen, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, caiff gynnwys amodau a gellir ei hatal, ei diwygio neu ei dirymu drwy hysbysiad ar unrhyw adeg.

5

Rhaid i drwydded gyffredinol a roddir o dan y Gorchymyn hwn gael ei dwyn i sylw'r personau hynny y mae'n debyg o effeithio arnynt drwy ei chyhoeddi ym mha bapurau newydd neu gyfnodolion bynnag neu ym mha ffordd bynnag arall sy'n ofynnol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

Hysbysu ynghylch amheuaeth o bresenoldeb clefyd neu bla3

1

Rhaid i berchennog neu'r person sy'n gyfrifol am gwch sy'n gwybod neu sy'n amau—

a

bod unrhyw wenyn o'r cwch wedi'u heintio â chlefyd hysbysadwy;

b

bod pla hysbysadwy yn bresennol yn y cwch; neu

c

bod pla hysbysadwy yn bresennol yn yr un fangre neu'r un cerbyd â'r cwch,

hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r ffaith honno.

2

Rhaid i unrhyw berson arall—

a

y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei ofal; neu

b

sy'n darganfod yng nghwrs ei waith,

bla gwenyn y mae'n gwybod neu'n amau ei fod yn bla hysbysadwy hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r ffaith honno.

Gwahardd symud4

1

Pan fo hysbysiad wedi'i roddi o dan erthygl 3, ni chaiff perchennog y cwch neu'r person sy'n gyfrifol amdano symud, neu ganiatáu symud, o'r fangre neu'r cerbyd lle mae'r cwch—

a

unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, malurion cwch neu offer; neu

b

unrhyw beth arall a allai ledaenu'r clefyd hysbysadwy neu'r pla hysbysadwy.

2

Caiff perchennog y cwch neu'r person sy'n gyfrifol amdano, er gwaethaf darpariaethau paragraff 4 o'r Atodlen, gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer eu profi mewn labordy samplau o—

a

unrhyw rannau o'r cwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu falurion cwch er mwyn penderfynu a ydynt wedi'u heintio â chlefyd hysbysadwy neu â phla hysbysadwy;

b

unrhyw bla gwenyn er mwyn penderfynu a yw'n bla hysbysadwy;

c

pridd o'r ardal o gwmpas y cwch er mwyn penderfynu a yw wedi'i heintio â phla hysbysadwy.

3

Os cyflwynir hysbysiad o dan erthygl 6(1) neu (2), bydd y gwaharddiad ar symud yn yr hysbysiad hwnnw'n gymwys yn lle'r gwaharddiad ar symud ym mharagraff 4 o'r Atodlen.

4

Os na chyflwynir hysbysiad o dan erthygl 6(1) neu (2), bydd y gwaharddiad ar symud ym mharagraff 4 o'r Atodlen yn gymwys hyd—

a

y bydd person awdurdodedig wedi cadarnhau drwy hysbysiad ei fod wedi'i fodloni nad yw'r gwenyn wedi'u heintio â'r clefyd hysbysadwy neu nad yw'r pla hysbysadwy yn bresennol yn y cwch neu yn y fangre neu'r cerbyd lle mae'r cwch; neu

b

y bydd perchennog y cwch neu'r person sy'n gyfrifol amdano wedi'i hysbysu fod canlyniadau profion ar samplau a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2) yn cadarnhau nad yw'r deunydd yn y samplau wedi'i heintio neu nad yw'n bla hysbysadwy.

5

Ni chaiff unrhyw berson sy'n rhoi hysbysiad o dan erthygl 3(2) symud neu ganiatáu symud unrhyw bla gwenyn neu unrhyw beth arall a allai ledaenu'r pla hysbysadwy o'r fangre neu'r cerbyd lle mae'r pla neu'r peth hwnnw.

6

Caiff unrhyw berson sy'n rhoi hysbysiad o dan erthygl 3(2), er gwaethaf darpariaethau paragraff (5), gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer eu profi mewn labordy samplau o—

a

unrhyw bla gwenyn er mwyn canfod a yw'n bla hysbysadwy;

b

unrhyw beth arall, yn cynnwys pridd, er mwyn canfod a yw wedi'i heintio â phla hysbysadwy.

7

Os cyflwynir hysbysiad o dan erthygl 6(1) neu (2), bydd y gwaharddiad ar symud yn yr hysbysiad hwnnw'n gymwys yn lle'r gwaharddiad ar symud ym mharagraff (5).

8

Os na chyflwynir hysbysiad o dan erthygl 6(1) neu (2), bydd y gwaharddiad ar symud ym mharagraff (5) yn gymwys hyd—

a

y bydd person awdurdodedig wedi cadarnhau drwy hysbysiad ei fod wedi'i fodloni nad yw'r pla hysbysadwy yn bresennol; neu

b

y bydd y person a roddodd hysbysiad o dan erthygl 3(2) wedi'i hysbysu fod canlyniadau'r profion ar samplau a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (6) yn cadarnhau nad yw'r deunydd yn y samplau yn bla hysbysadwy neu nad yw wedi'i heintio â phla hysbysadwy.

9

Rhaid pacio unrhyw sampl a gyflwynir o dan baragraff (2) neu (6) yn y fath fodd ag i osgoi hyd y mae'n bosibl y risg o ledaenu'r haint pan fydd yn cael ei gludo.

Marcio cychod ac offer5

1

Caiff person awdurdodedig farcio unrhyw gwch neu offer er diben ei adnabod.

2

Ni chaiff neb ymyrryd â marc adnabod a wnaed o dan baragraff (1) na chaniatáu ymyrryd â'r fath farc.

Hysbysiadau'n gwahardd symud6

1

Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros amau bod clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy yn bresennol mewn unrhyw fangre neu gerbyd, rhaid iddi gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am—

a

unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, falurion cwch neu offer sydd yn y fangre neu'r cerbyd; neu

b

unrhyw beth arall a allai ledaenu'r clefyd hysbysadwy neu'r pla hysbysadwy sydd yn y fangre neu'r cerbyd,

hysbysiad yn gwahardd eu symud ac yn gwahardd symud unrhyw blâu gwenyn sydd ynddynt neu sy'n effeithio arnynt, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

2

Os rhwystrir unrhyw berson awdurdodedig rhag gweithredu ei bwerau i gael mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf, caiff gyflwyno i'r person sy'n ymddangos i'r person awdurdodedig mai ef yw perchennog neu feddiannydd y fangre, neu mai ef yw perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am y cerbyd, hysbysiad sy'n gwahardd symud o'r fangre neu'r cerbyd—

a

unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, plâu gwenyn, malurion cwch neu offer; neu

b

unrhyw beth arall a allai ledaenu clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy.

3

Rhaid diddymu hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (2) os yw person awdurdodedig yn ddiweddarach yn gallu gweithredu'n ddirwystr ei bwerau i gael mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf yn y fangre neu'r cerbyd.

4

Yn yr erthygl hon, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwenyn 1980.

Mesurau rheoli clefyd7

1

Caiff person awdurdodedig gadarnhau presenoldeb clefyd hysbysadwy ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu ganlyniad prawf pecyn profi yn y maes.

2

Pan fydd presenoldeb clefyd y gwenyn Americanaidd wedi'i gadarnhau mewn cwch—

a

rhaid i berson awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa unrhyw wenyn, diliau neu gynhyrchion gwenyn sy'n dod o'r cwch yn unol â'r hysbysiad;

b

caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin y cwch, malurion o'r cwch ac unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd yn unol â'r hysbysiad;

c

caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.

3

Pan fydd presenoldeb clefyd y gwenyn Ewropeaidd wedi'i gadarnhau mewn cwch—

a

rhaid i berson awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin unrhyw wenyn, diliau neu gynhyrchion gwenyn sy'n dod o'r cwch yn unol â'r hysbysiad;

b

caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin y cwch, malurion o'r cwch ac unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd yn unol â'r hysbysiad;

c

caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.

4

Os, unwaith y bydd unrhyw driniaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan yr erthygl hon wedi ei chyflawni, y bydd person awdurdodedig yn cadarnhau ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu ganlyniad prawf pecyn profi yn y maes fod y clefyd hysbysadwy'n parhau'n bresennol, caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiadau pellach o dan yr erthygl hon.

Mesurau rheoli plâu8

1

Caiff person awdurdodedig gadarnhau presenoldeb pla hysbysadwy ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu archwiliad.

2

Pan fydd presenoldeb pla hysbysadwy wedi'i gadarnhau mewn cwch neu yn yr un fangre neu gerbyd ag y mae cwch—

a

rhaid i berson awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin y cwch, unrhyw wenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, plâu gwenyn neu falurion o'r cwch ac unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy yn unol â'r hysbysiad;

b

caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i feddiannydd y fangre lle mae'r cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid trin y pridd o gwmpas y cwch yn unol â'r hysbysiad;

c

caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.

3

Pan gadarnheir presenoldeb pla hysbysadwy mewn unrhyw fangre neu gerbyd arall, caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin unrhyw blâu gwenyn ac unrhyw bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy yn unol â'r hysbysiad—

a

i unrhyw berson sydd â phla gwenyn yn ei feddiant neu o dan ei ofal;

b

i berchennog neu i feddiannydd y fangre, neu i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cerbyd.

4

Os, unwaith y bydd unrhyw driniaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan yr erthygl hon wedi ei chyflawni, y bydd person awdurdodedig yn cadarnhau ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu archwiliad fod y pla hysbysadwy'n parhau'n bresennol, caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiadau pellach o dan yr erthygl hon.

Hysbysiadau a gyflwynir o dan erthygl 7 neu 89

Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 7 neu 8 ddynodi—

a

dull y difa neu'r driniaeth, a all, yn achos triniaeth, gynnwys defnyddio sylwedd arbennig neu unrhyw weithred arall i'r diben o reoli'r clefyd neu'r pla; a

b

y dyddiad erbyn yr hwn y mae'n rhaid i'r difa neu'r driniaeth ddigwydd, neu'r cyfnod yn ystod yr hwn y mae'n rhaid i'r driniaeth ddigwydd,

a chaiff ddynodi fod yn rhaid cyflawni'r difa neu'r driniaeth gan berson awdurdodedig, ym mhresenoldeb person awdurdodedig neu o dan arolygiaeth person awdurdodedig.

Datgan ardal heintiedig10

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad ddatgan fod ardal lle mae wedi'i fodloni fod pla hysbysadwy yn bresennol yn ardal heintiedig.

2

Caiff yr hysbysiad ddarparu fod y cyfan o'r darpariaethau a ddynodir yn yr Atodlen, neu unrhyw rai ohonynt, yn gymwys yn y cyfan neu unrhyw ran o'r ardal heintiedig, a bod darpariaethau gwahanol yn gymwys mewn gwahanol rannau o'r ardal heintiedig, yn ôl yr hyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ystyried sy'n angenrheidiol er mwyn atal lledaeniad y pla.

3

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ac unrhyw hysbysiad sy'n diwygio neu'n dirymu'r fath hysbysiad yn y fath fodd ag y tyb sy'n briodol er mwyn ei ddwyn i sylw'r personau sy'n debygol o gael eu heffeithio arnynt ganddo.

Gwenyn a fewnforir11

1

Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fewnforir gwenyn i mewn i'r Deyrnas unedig yn unol ag Erthygl 1(1) o Benderfyniad y Comisiwn 2003/881/EC sy'n ymwneud â'r amodau parthed iechyd anifeiliaid a'r tystysgrifau sy'n ofynnol yn achos mewnforio gwenyn (o'r rhywogaethau Apis mellifera a Bombus) o rai trydydd gwledydd, ac sy'n dirymu Penderfyniad 2000/462/EC2.

2

Pan fydd y gwenyn yn cyrraedd y wenynfa ar ben eu taith (fel y nodir ar y dystysgrif iechyd sy'n dod gyda'r gwenyn), rhaid i'r traddodai (fel y nodir ar y dystysgrif iechyd sy'n dod gyda'r gwenyn)—

a

trosglwyddo'r mamwenyn i gewyll newydd cyn eu cyflwyno i unrhyw nythfeydd gwenyn lleol;

b

anfon y cewyll y cludwyd y gwenyn ynddynt o wlad eu tarddiad, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a deunyddiau eraill a ddaeth gyda'r mamwenyn o wlad eu tarddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer eu harchwilio mewn labordy ar gyfer presenoldeb pla hysbysadwy.

3

Yn dilyn yr archwiliad y cyfeirir ato ym mharagraff 2(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu i'r cewyll, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a'r deunyddiau eraill y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw gael eu difa cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.

4

Pan fewnforir gwenyn o'r rhywogaeth Bombus i mewn i'r Deyrnas unedig yn unol ag Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn 2003/881/EC, rhaid i berchennog neu'r person sy'n gyfrifol am y gwenyn sicrhau bod y cynhwysydd yn yr hwn y cawsant eu cludo o wlad eu tarddiad a'r holl ddeunyddiau sy'n dod gyda'r gwenyn o wlad eu tarddiad yn cael eu difa un ai yn ystod oes y nythfa a fewnforiwyd neu yn syth ar ôl diwedd ei hoes.

Darparu cyfleusterau a dyletswyddau eraill12

1

Rhaid i berchennog neu berson sy'n gyfrifol am unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer a pherchennog neu feddiannydd unrhyw fangre a pherchennog neu berson sy'n gyfrifol am unrhyw gerbyd yr amheuir fod pla hysbysadwy yn bresennol yn unrhyw un o'r pethau hynny neu ar unrhyw un ohonynt—

a

sicrhau fod pa bynnag gyfleusterau ar gael, a

b

rhoi pa bynnag wybodaeth (yn cynnwys gwybodaeth ynghylch nifer, lleoliad ac unrhyw symud a fu ar gychod, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer sydd neu a fu yn ei feddiant neu o dan ei ofal a gwybodaeth ynghylch lleoliad unrhyw blâu gwenyn o fewn y fangre neu'r cerbyd),

i berson awdurdodedig ag y gall y person awdurdodedig hwnnw yn rhesymol eu mynnu er dibenion y Gorchymyn hwn.

2

Ni chaiff neb drin gwenyn gyda sylwedd a allai effeithio mewn ffordd sy'n celu presenoldeb clefyd hysbysadwy neu'n ei wneud yn anodd ei ganfod, oni bai ei fod hynny'n digwydd wrth iddo drin y gwenyn yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan erthygl 7.

3

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol drwy drwydded eithrio unrhyw berson o'r gwaharddiad a gynhwysir ym mharagraff (2).

4

Rhaid i unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo o dan y Gorchymyn hwn neu sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau hysbysiad sy'n datgan fod ardal yn ardal heintiedig o fewn ystyr erthygl 10 gydymffurfio â darpariaethau'r hysbysiad hwnnw.

Gweithredu yn achos methiant i gydymffurfio13

1

Os bydd unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd iddo o dan y Gorchymyn hwn, caiff person awdurdodedig gymryd pa gamau bynnag ag y tyb sy'n ofynnol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

2

Bydd y person y cyflwynir yr hysbysiad iddynt yn atebol am unrhyw gostau sy'n codi o dan baragraff (1).

3

Ni fydd unrhyw gamau a gymerir gan berson awdurdodedig o dan baragraff (1) neu unrhyw gamau ar gyfer adennill costau o dan baragraff (2) yn rhagfarnu unrhyw achos mewn perthynas â throsedd sy'n deillio o fethu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn hwn.

Cyflwyno hysbysiadau14

1

Bydd unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn wedi'i gyflwyno'n briodol i unrhyw berson os—

a

bydd wedi'i roi iddo'n bersonol;

b

bydd wedi'i adael yn ei gartref neu'r cyfeiriad busnes diweddaraf y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwybod amdano ar ei gyfer, neu ei bostio i un o'r llefydd hynny; neu

c

pan fo'r amodau ym mharagraff 14(2) wedi'u cyflawni, bydd wedi'i anfon ato drwy e-bost.

2

Ystyrir fod hysbysiad a gyflwynwyd i unrhyw berson drwy e-bost wedi'i gyflwyno'n briodol iddo os bydd y person hwnnw—

a

wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol mewn ysgrifen (a heb ddiddymu'r hysbysiad) ei fod yn fodlon derbyn cyflwyno hysbysiadau o dan y Gorchymyn hwn drwy e-bost; a

b

wedi darparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, mewn ysgrifen, gyfeiriad e-bost i'r diben hwnnw.

Eithriadau15

Gellir, drwy gyfrwng trwydded a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol, eithrio unrhyw berson sy'n cyflawni ymchwil neu'n dilyn cwrs hyfforddiant sy'n ymwneud â phlâu neu glefydau sy'n effeithio ar wenyn, o unrhyw rai o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, heblaw darpariaethau erthygl 11.

Dirymiadau16

Dirymir Gorchymyn Rheoli Clefydau Gwenyn 19823 a Gorchymyn Mewnforio Gwenyn 19974 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLENDarpariaethau a gaiff fod yn gymwys mewn ardal heintiedig

Erthygl 10

1

Caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, falurion cwch neu offer y darganfyddir iddynt fod yn agored i gael eu heintio gan y pla hysbysadwy, hysbysiad sy'n cydymffurfio ag erthygl 9, yn mynnu eu bod yn difa neu drin y pethau hynny yn unol â'r hysbysiad.

2

Caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i feddiannydd unrhyw fangre lle lleolir cwch y darganfyddir iddo fod yn agored i gael ei heintio hysbysiad sy'n cydymffurfio ag erthygl 9, yn mynnu fod y pridd o gwmpas y cwch yn cael ei drin yn unol â'r hysbysiad.

3

Ni chaiff neb symud, neu ganiatáu symud, unrhyw gwch, gwenyn, plâu gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, malurion cwch, offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy i mewn i'r ardal heintiedig neu allan ohoni, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

4

Ni chaiff neb symud, neu ganiatáu symud, unrhyw gwch, gwenyn, plâu gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, malurion cwch, offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy o'r fangre neu'r cerbyd lle maent, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

5

Rhaid i berchennog neu'r person sy'n gyfrifol am unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag sydd yn rhesymol ymarferol o'i enw a'i gyfeiriad a lleoliad unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer sydd yn ei feddiant neu y mae'n gyfrifol amdanynt.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Rheoli Clefydau Gwenyn 1982 (O.S. 1982/107). Mae hefyd yn dirymu Gorchymyn Mewnforio Gwenyn 1997 (O.S. 1997/310).

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer hysbysu ynghylch presenoldeb neu amheuaeth o bresenoldeb clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rhoi'r fath hysbysiad yn sbarduno gwaharddiad ar symud pethau a allai ledaenu'r clefyd neu'r pla (erthygl 4). O dan y Gorchymyn mae clefyd y gwenyn Americanaidd a chlefyd y gwenyn Ewropeaidd ill dau yn glefydau hysbysadwy, ac mae chwilen fach y cwch ac unrhyw rywogaeth o'r gwiddonyn Tropilaelaps yn blâu hysbysadwy.

Pan fydd gan berson awdurdodedig sail resymol dros amau presenoldeb clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud rhai eitemau penodol (erthygl 6). Os rhwystrir person awdurdodedig rhag gweithredu ei bwerau i gael mynediad, gall gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud rhai eitemau penodol (erthygl 6(2)).

Mae erthygl 7 yn pennu'r mesurau sy'n gymwys pan gadarnheir presenoldeb clefyd hysbysadwy. Mae erthygl 8 yn pennu'r mesurau sy'n gymwys pan gadarnheir presenoldeb pla hysbysadwy.

Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan drwy hysbysiad fod ardal yn ardal heintiedig os yw wedi'i fodloni fod pla hysbysadwy yn bresennol yn yr ardal honno (erthygl 10). Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu yn yr hysbysiad fod y cyfan neu unrhyw rai o ddarpariaethau'r Atodlen yn gymwys yn y cyfan o'r ardal heintiedig neu ran ohoni.

Mae erthygl 11 yn gweithredu darpariaethau Penderfyniad y Comisiwn 2003/881/EC (OJ Rhif L328, 17.12.2003, t.26) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/60/EC (OJ Rhif L25, 28.1.2005, t.64), sy'n gymwys ar gyfer gwenyn ar ôl iddynt gael eu mewnforio i mewn i'r Deyrnas Unedig o drydedd wlad. Mae Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536 (Cy.153) yn gweithredu'r amodau mewnforio a gynhwysir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2003/881/EC.

Mae erthygl 12 yn mynnu fod yn rhaid darparu cyfleusterau a rhoi gwybodaeth i bersonau awdurdodedig o dan rai amgylchiadau. Mae erthygl 12 hefyd yn gwahardd defnyddio sylweddau a allai gelu presenoldeb clefyd hysbysadwy neu'i wneud yn anodd ei ganfod, oni bai fod hynny'n digwydd yn unol â hysbysiad yn gofyn triniaeth o dan erthygl 7.

Mae erthygl 13 yn darparu, os bydd unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn, y caiff person awdurdodedig drefnu gweithredu i gydymffurfio â'r hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

Yn unol ag adran 1(7) o Ddeddf Gwenyn 1980 (p.12), mae torri unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn neu unrhyw amod a osodir mewn unrhyw drwydded a roddir o dan y Gorchymyn yn drosedd fydd yn arwain at gosb yn dilyn collfarn ddiannod o ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd).

Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Gorchymyn hwn, ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.