Dyletswydd rheolwr i gymryd camau diogelwch4
1
Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob modd i ddianc rhag tân yn y tŷ amlfeddiannaeth—
a
yn cael ei gadw'n rhydd rhag rhwystr; a
b
yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da.
2
Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod unrhyw gyfarpar diffodd tân a larymau tân yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da ac sy'n gweithio.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob hysbysiad sy'n dangos y modd i ddianc rhag tân yn cael eu harddangos mewn mannau yn y tŷ amlfeddiannaeth sy'n sicrhau bod y meddianwyr yn gallu eu gweld yn glir.
4
Rhaid i'r rheolwr gymryd y mesurau hynny sy'n rhesymol ofynnol i ddiogelu meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth rhag niwed, gan roi sylw i—
a
dyluniad y tŷ amlfeddiannaeth;
b
cyflyrau yn y tŷ amlfeddiannaeth o ran strwythur; ac
c
nifer y meddianwyr yn y tŷ amlfeddiannaeth.
5
Wrth gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (4) rhaid i'r rheolwr yn benodol—
a
o ran unrhyw do neu falconi nad yw'n ddiogel, naill ai sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn ddiogel neu gymryd pob cam rhesymol i rwystro mynediad atynt cyhyd ag y maent yn anniogel; a
b
o ran unrhyw ffenestr y mae ei sil ar lefel y llawr neu'n agos ato, sicrhau bod bariau neu gyfarpar diogelu arall o'r fath fel a all fod yn ofynnol yn cael ei ddarparu i ddiogelu'r meddianwyr rhag perygl damweiniau a allai ddigwydd mewn cysylltiad â'r ffenestri hynny.
6
Nid yw'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (3) yn gymwys os oes gan y tŷ amlfeddiannaeth bedwar meddiannydd neu lai.