Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Reoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgolion newydd yng Nghymru a fydd, yn y flwyddyn ysgol y byddant yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf, yn ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig neu'n ysgolion gwirfoddol.
3
Nid yw rheoliadau 5, 6 a 7 yn gymwys i ysgol newydd pan fo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol o'r fath, a sefydlwyd mewn cysylltiad â chynigion sy'n cynnwys cau ysgol arall a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, yn penderfynu bod y trefniadau derbyn cychwynnol i fod yr un fath â rhai'r ysgol a gaewyd.