- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 9
1. Mae darpariaethau canlynol y Deddfau Addysg, sef—
(a)adrannau 324(5)(b), 324(5A) a 439 o Ddeddf Addysg 1996;
(b)adrannau 1, 84, 85A, 86, 87, 89B, 89C, 92, 94, 95 i 99, 101, 102 a 103(3) o Ddeddf 1998;
(c)unrhyw Reoliadau a wneir o dan unrhyw un o'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b) uchod,
yn gymwys i ysgol newydd ond maent yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r addasiadau a bennir ym mharagraffau 2 i 8 isod.
2. Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 1 at ysgol yn un o'r categorïau canlynol, sef—
(a)ysgol a gynhelir;
(b)ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol;
(c)ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol,
i'w ddehongli fel cyfeiriad at ysgol newydd a ddaw'n ysgol newydd o'r categori hwnnw pan fydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf.
3. Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at gorff llywodraethu ysgol i gael effaith fel petai'n gyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro neu (pan fo'r cyd-destun yn caniatáu hynny) at unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am dderbyn disgyblion o dan y trefniadau derbyn cychwynnol.
4. Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at drefniadau derbyn i'w ddehongli fel cyfeiriad at drefniadau derbyn cychwynnol fel y'u diffinnir yn rheoliad 3.
5. Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at awdurdod derbyn i gael effaith fel petai'n gyfeiriad at awdurdod derbyn fel y'i diffinnir yn rheoliad 3.
6 Mae adran 101(1) o Ddeddf 1998 i gael effaith fel petai “the year in which pupils are first to be admitted to a new school” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “any year”.
7. Mae adran 103(3) o Ddeddf 1998 i gael effaith fel petai'r geiriau “(whether authorised by section 100 or section 101)” wedi'u hepgor.
8. Nid yw Rhan 4 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(1) i fod yn gymwys i unrhyw ysgol newydd, y mae dyddiad agor yr ysgol honno rhwng 15 Ebrill ac 1 Awst mewn unrhyw flwyddyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: