Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Rhan 3Penderfyniadau ar Wrthwynebiadau ac Effaith Penderfyniadau

Cyhoeddi penderfyniadau

9.—(1Rhaid cyhoeddi penderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r rhesymau drostynt o dan adran 90(7)—

(a)drwy hysbysu'n ysgrifenedig y partïon i'r gwrthwynebiad a'r holl gyrff eraill yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori â hwy o dan adran 89(2), neu y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, heblaw am adran 89(2A), ymgynghori â hwy ynghylch y trefniadau derbyn arfaethedig; a

(b)yn achos penderfyniad ar wrthwynebiad yn ymwneud â—

(i)trefniadau derbyn sydd eisoes yn bodoli o fewn ystyr rheoliad 7(2), neu

(ii)nifer derbyn sy'n is na'r nifer derbyn a nodir

(pa un a gyfeiriwyd gwrthwynebiadau o'r fath gan riant ai peidio) drwy gyhoeddi'r wybodaeth ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.gwybodaeth.cymru.gov.uk o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddwyd y penderfyniad a'r rhesymau drosto.

(2Yr wybodaeth i'w chyhoeddi o dan is-baragraff (1)(b) yw—

(a)enw'r awdurdod derbyn a'r ysgol (os yw'n wahanol) y mae'r trefniadau dethol yn gymwys iddynt; a

(b)disgrifiad byr o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto.

Cyfyngu ar wrthwynebiadau diweddarach

10.—(1Pan fo gwrthwynebiad ynghylch trefniadau derbyn ysgol benodol ar gyfer blwyddyn ysgol benodol wedi'i benderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol ni chaniateir cyfeirio unrhyw wrthwynebiad dilynol (gan y person neu'r corff a wnaeth y gwrthwynebiad neu gan unrhyw un arall) ynghylch—

(a)y trefniadau hynny; neu

(b)trefniadau'r ysgol honno ar gyfer y flwyddyn ysgol ganlynol,

a hwnnw'n wrthwynebiad sy'n codi'r un mater neu fater sy'n sylweddol yr un fath.

(2Nid yw paragraff (1)(b) yn rwystro gwrthwynebiad rhag cael ei gyfeirio ynghylch trefniadau ysgol—

(a)pan fo'r penderfyniad a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi cadarnhau gwrthwynebiad i drefniadau derbyn yr ysgol; a

(b)pan mai sylwedd y gwrthwynebiad y ceisir yn awr ei gyfeirio yw bod trefniadau derbyn yr ysgol, a benderfynwyd gan yr awdurdod derbyn ar gyfer y flwyddyn ysgol ganlynol, i'r graddau y maent yn berthnasol, yr un fath â'r rhai y cyfeiriwyd y gwrthwynebiad cynharach yn eu herbyn neu'n sylweddol yr un fath â hwy.

Pŵer i newid trefniadau yn sgil penderfynu gwrthwynebiad

11.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud penderfyniad sy'n cadarnhau, i unrhyw raddau, wrthwynebiad i drefniadau derbyn a benderfynwyd gan awdurdod derbyn; a

(b)bydd yn rhesymol i awdurdod derbyn perthnasol fod o'r farn bod y trefniadau y mae wedi eu penderfynu, i'r graddau y mae'n berthnasol—

(i)yr un fath â'r trefniadau hynny; neu

(ii)yn ddigon tebyg i'r un penderfyniad fod wedi'i wneud yn eu herbyn pe bai gwrthwynebiad wedi'i wneud.

(2Mewn achos pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff yr awdurdod derbyn perthnasol adolygu ei drefniadau derbyn drwy wneud y newidiadau hynny sydd, ym marn resymol yr awdurdod, yn angenrheidiol er mwyn bod yn gyson â'r penderfyniad, a chaiff benderfynu ei drefniadau ar y ffurf honno sy'n ffurf wedi'i hadolygu.

(3Ni chaniateir gwneud penderfyniad o'r fath ond—

(a)os gwneir trefniadau o'r fath o fewn deufis i'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto yn unol â rheoliad 9(1)(a); a

(b)os yw'r awdurdod derbyn perthnasol wedi hysbysu pob corff derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori ag ef o dan adran 89(2) ynghylch y trefniadau derbyn y mae'n yn ceisio'u hadolygu o dan y rheoliad hwn, neu y byddai, heblaw am adran 89(2A), wedi bod yn ofynnol iddo ymgynghori ag ef.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod derbyn perthnasol” (“relevant admission authority”) yw awdurdod derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori o dan adran 89(2) â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, neu y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, heblaw am adran 89(2A), ymgynghori â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, a hynny cyn iddo benderfynu'r trefniadau derbyn y mae'n dymuno eu hadolygu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources