Enwi a chychwyn1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Bwrdeistref Sirol Conwy) 2006 a daw i rym ar 1 Medi 2006.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “yr ardal barcio” (“the parking area”) yw'r ardal a ddynodir yn ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig gan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19844; ac
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Traffig Ffyrdd 1991.
Cymhwyso3
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Fwrdeistref Sirol Conwy yn gyfan ac eithrio'r A55 ar ei hyd, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno a'i ffyrdd ymadael, o fewn y fwrdeistref sirol.
Dynodi ardal barcio a ganiateir ac ardal barcio arbennig4
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol drwy hyn yn dynodi'r ardal y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddi—
a
yn ardal barcio a ganiateir; a
b
yn ardal barcio arbennig.
Addasu a chymhwyso Rhan II o Ddeddf 19915
Mae adrannau 66, 69 i 74, 78, 79 ac 82 o Ddeddf 1991 ac Atodlen 6 iddi yn gymwys mewn perthynas â'r ardal barcio ac yn unol â'r cymhwysiad hwnnw maent yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
Addasu Deddf 19846
Caiff Deddf 1984 ei haddasu mewn perthynas â'r ardal barcio fel a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.