(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 yn darparu ar gyfer dynodi ardaloedd parcio a ganiateir ac ardaloedd parcio arbennig. Mae paragraff 1 (1) yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“Y Cynulliad Cenedlaethol”) ddynodi'r cyfan neu unrhyw ran o ardal cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn ardal barcio a ganiateir yn dilyn cais am orchymyn o dan yr is-baragraff. Mae paragraff 2(1) yn rhoi pŵer cyffelyb mewn perthynas ag ardaloedd parcio arbennig.

Gwneir y Gorchymyn hwn yn dilyn cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (“yr awdurdod lleol”) o dan baragraffau 1(1) a 2(1) uchod ac ymgynghoriad statudol gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru a'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd.

Effaith y Gorchymyn hwn yw dynodi'r cyfan o Fwrdeistref Sirol Conwy ac eithrio hyd cyfan yr A55, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno a'i ffyrdd ymadael, yn ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig (“Ardal y Gorchymyn”). O dan y Gorchymyn, mae'r rhan fwyaf o droseddau parcio ar-y-stryd nad ydynt yn ardystiadwy yn cael eu datgriminaleiddio o fewn Ardal y Gorchymyn. Mae eu gorfodi yn peidio â bod yn gyfrifoldeb yr heddlu ac yn dod yn gyfrifoldeb yr awdurdod lleol. Rhoddir pŵer i oruchwylwyr parcio a gyflogir gan yr awdurdod lleol (neu a gyflogir fel goruchwylwyr parcio gan berson y gwnaeth yr awdurdod lleol drefniant ag ef) osod rhybuddion tâl cosb ar gerbydau sy'n torri rheoliadau parcio a gallant, mewn achosion priodol, awdurdodi tynnu cerbydau ymaith neu osod llyffethair arnynt.

Yn rhinwedd y Gorchymyn, mae taliadau cosb yn Ardal y Gorchymyn i gael eu gosod gan yr awdurdod lleol gan roi ystyriaeth i ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Y maent i'w hadennill gan yr awdurdod lleol fel dyledion sifil. Gwneir darpariaeth ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol pan osodir tâl cosb neu pan gaiff cerbyd ei dynnu ymaith neu pan osodir llyffethair ar gerbyd mewn man parcio dynodedig. Mae dyfarnu pan ddigwydd anghytundebau i gael ei drin gan gyd-bwyllgor a sefydlir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.