xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4CYMORTH ARIANNOL

Cyffredinol

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw—

(a)bod gan fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Ganolfan Bologna (“myfyriwr yng Nghanolfan Bologna”) hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw yn unol â darpariaethau Pennod 1;

(b)bod gan fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Goleg Ewrop (“myfyriwr yng Ngholeg Ewrop”) hawl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw i gael—

(i)grant at ffioedd a grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 2; a

(ii)grantiau atodol yn unol â Phennod 4; ac

(c)bod gan fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan y Sefydliad (“myfyriwr yn y Sefydliad”) hawl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—

(i)grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 3; a

(ii)grantiau atodol yn unol â Phennod 4.

(2Os yw'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu—

(a)nad oes gan y myfyriwr hawl i gael math neu swm penodol o gymorth mewn perthynas â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu

(b)nad oes gan y myfyriwr hawl i gael dim cymorth mewn perthynas â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.

(3Wrth benderfynu a ddylai fod gan fyfyriwr cymwys hawl i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i amgylchiadau'r achos ac yn benodol i'r rhesymau pam y gofynnwyd i'r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o'r blaen ond y mae'r Sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.

PENNOD 1GRANTIAU AT FFIOEDD I FYFYRWYR YNG NGHANOLFAN BOLOGNA

Grant at ffioedd

21.—(1Mae gan fyfyriwr yng Nghanolfan Bologna hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyrwyr mewn perthynas â bod yn bresennol ar y cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall mewn cysylltiad â bod yn bresennol arno.

(3Er gwaethaf paragraff (2), nid yw'r grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i fod yn fwy na 22,700 ewro.

PENNOD 2GRANTIAU I FYFYRWYR YNG NGHOLEG EWROP

Grant at ffioedd

22.—(1Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â bod yn bresennol ar y cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall mewn cysylltiad â bod yn bresennol arno.

(3Er gwaethaf paragraff (2), nid yw swm y grant at ffioedd i fod yn fwy na'r canlynol—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, 9,450 ewro; a

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, 10,250 ewro.

Grantiau at gostau byw a chostau eraill

23.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl mewn perthynas â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

(2Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

(3Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at gostau byw sy'n hafal i swm (A + B) lle—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol—

(i)mae A yn £2,233.22; a

(ii)mae B yn £45.58 am bob wythnos, gan gynnwys wythnos pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yn y Coleg am lai na 5 diwrnod, pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yn y Coleg uwchlaw 30 wythnos a 3 diwrnod; a

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—

(i)mae A yn £2,290; a

(ii)mae B yn £47 am bob wythnos, gan gynnwys wythnos pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yn y Coleg am lai na 5 diwrnod, pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yn y Coleg uwchlaw 30 wythnos a 3 diwrnod.

(4Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at fwrdd a llety o 6,000 ewro.

(5Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant i deithio adref am swm sy'n hafal i (A− B) lle—

(6Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at deithio colegol am unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr tra bydd yn bresennol yn y Coleg i'r Coleg.

(7Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan y Coleg yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn perthynas â hi.

24.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn perthynas ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir yn unol â rheoliad 23.

PENNOD 3GRANTIAU I FYFYRWYR YN Y SEFYDLIAD

Grantiau at gostau byw a chostau eraill

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl mewn perthynas â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (4) i (8) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

(2Nid oes gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

(3Nid oes gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael y grant sy'n daladwy o dan baragraff (8) os un flwyddyn academaidd neu lai yw cyfnod arferol y cwrs dynodedig y penderfynwyd bod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad ag ef

(4Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant at gostau byw—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, o 12,760 ewro; a

(b)mewn unrhyw achos arall, o 12,840 ewro.

(5Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant i deithio adref am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol un siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Sefydliad;

(6Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr tra bydd yn bresennol yn y Sefydliad i'r Sefydliad.

(7Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan y Sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(8Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio'r myfyriwr yn erbyn rhwymedigaeth i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.

26.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn perthynas ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (4) i (7) o reoliad 25.

PENNOD 4GRANTIAU ATODOL

Lwfans i fyfyrwyr anabl— amodau cymhwyso

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael lwfans i fyfyrwyr anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod rhaid i'r myfyriwr ei dynnu oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael lwfans i fyfyrwyr anabl os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

Swm y lwfans i fyfyrwyr anabl

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans i fyfyrwyr anabl yw'r swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr.

(2Rhaid i swm y lwfans i fyfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol—

(i)£11,840 mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd ar gyfer gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(ii)£4,680 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra ar gyfer gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;

(iii)unrhyw wariant ychwanegol a dynnir—

(aa)yn y wlad y lleolir y sefydliad perthnasol ynddi er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(bb)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn teithio i'r sefydliad perthnasol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol;

(iv)£1,565 mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd am unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a dynnir at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (i) neu (ii) sy'n fwy na'r uchafsymiau a bennwyd;

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—

(i)£12,135 mewn perthynas â blwyddyn academaidd am wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(ii)£4,795 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra am wariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;

(iii)unrhyw wariant ychwanegol a dynnir—

(aa)yn y wlad y lleolir y sefydliad perthnasol ynddi er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(bb)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn teithio i'r sefydliad perthnasol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol;

(iv)£1,605 mewn perthynas â blwyddyn academaidd am unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a dynnir at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (i) neu (ii) sy'n fwy na'r uchafsymiau a bennwyd.

Grant ar gyfer dibynyddion

29.—(1Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

(a)grant dibynyddion mewn oed; a

(b)lwfans dysgu rhieni.

(2Nodir amodau hawlio pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 30 i 33.

Grant dibynyddion mewn oed

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â'r canlynol—

(a)partner y myfyriwr; neu

(b)dibynnydd mewn oed i'r myfyriwr nad yw ei incwm net yn fwy na'r canlynol—

(i)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £3,345;

(ii)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £3,530.

(3Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

31.—(1Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 33, a'r swm sylfaenol yw—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £2,395; a

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—

(i)£2,455; neu

(ii)pan fo'r person y mae'r myfyriwr yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,455 sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

Lwfans dysgu rhieni

32.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes ganddo un neu fwy o blant dibynnol.

(2Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

(3Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 33, a'r swm sylfaenol yw—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £1,365;

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £1,400.

Cyfrifo

33.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu'r myfyriwr yn y Sefydliad hawl i'w gael o dan reoliadau 29 i 32 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 29 i 32, swm sy'n hafal i (A− B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 30; a

(b)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 32.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w chael yn daladwy.

(3Os yw (A− B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(4Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o hanner—

(a)os yw partner y myfyriwr—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y dyfarniad statudol.

(5Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol—

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—

34.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 30 i 33.

Dehongli

35.—(1At ddibenion rheoliadau 30 i 33—

(a)ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(d)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;

(dd)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (f), (ff) ac (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr;

(ii)partner sifil myfyriwr;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n briod i'r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(f)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) i'w drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi'u gwahanu; neu

(ii)os yw'r person yn byw fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr;

(ff)at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (e) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi;

(g)at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (e) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu'r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2);

(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989(3);

(dd)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac

(e)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(3Os yw myfyriwr neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl—

(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

(4At ddibenion paragraff (2)—

(a)os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol;

(b)os yw'r flwyddyn academaidd berthnasol yn flwyddyn academaidd newydd; ac

(c)os oes taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;

mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i'r plentyn.

(3)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3).