Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Hysbysiad

16.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu—

(a)gwrthod cynnwys ymarferydd ar ei restr atodol ar y sail a nodwyd yn rheoliad 6;

(b)gosod amodau ar gynnwys yr ymarferydd ar y rhestr honno o dan reoliad 8;

(c)tynnu'r ymarferydd oddi ar y rhestr honno o dan reoliad 10;

(d)tynnu'r ymarferydd oddi ar y rhestr honno yn amodol o dan reoliad 12; neu

(e)atal yr ymarferydd dros dro o'r rhestr honno o dan reoliad 13,

rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r personau neu gyrff a nodir ym mharagraff (2) a rhaid iddo hefyd hysbysu'r rhai sydd wedi eu cynnwys ym mharagraff (3), os gofynnir iddo wneud hynny gan y personau neu gyrff hynny mewn ysgrifen (gan gynnwys ffurf electronig) o'r materion sydd wedi eu nodi ym mharagraff (4).

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, o fewn 7 diwrnod o'r penderfyniad hwnnw, hysbysu—

(a)Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebolsydd, yn ôl yr wybodaeth sydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol,—

(i)wedi cynnwys yr ymarferydd ar ei restr neu restr gyfatebol,

(ii)sy'n ystyried cais gan yr ymarferydd i gael ei gynnwys ar unrhyw restr neu restr gyfatebol, neu

(iii)y mae ganddo yn ei ardal unrhyw fan pan fo'r ymarferydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol;

(c)yr Ysgrifennydd Gwladol;

(ch)Gweithgor yr Alban;

(d)Gweithgor Gogledd Iwerddon;

(dd)y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Cyngor Optegol Cyffredinol neu unrhyw gorff rheoleiddio priodol arall;

(e)yr NPSA; ac

(f)mewn achos o dwyll, Gwasanaeth Gwrth-dwyll a Rheoli Diogelwch y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

(3Dyma'r personau neu gyrff sydd i'w hysbysu hefyd yn unol â pharagraff (1)—

(a)personau neu gyrff sy'n gallu dangos—

(i)eu bod yn cyflogi'r ymarferydd neu wedi ei gyflogi, yn defnyddio neu wedi defnyddio gwasanaethau'r ymarferydd, neu

(ii)eu bod yn ystyried cyflogi neu ddefnyddio gwasanaethau'r ymarferydd mewn swyddogaeth proffesiynol; a

(b)partneriaeth, y mae unrhyw aelod ohoni'n darparu neu'n helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol, ac sy'n gallu dangos bod yr ymarferydd yn aelod neu wedi bod yn aelod o'r bartneriaeth neu ei bod yn ystyried gwahodd yr ymarferydd i ymaelodi.

(4Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)enw, cyfeiriad a dyddiad geni'r ymarferydd;

(b)rhif cofrestru'r ymarferydd;

(c)dyddiad a chopi o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol; ac

(ch)enw person y gellir cysylltu ag ef yn y Bwrdd Iechyd Lleol gyda rhagor o ymholiadau.

(5Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol anfon at yr ymarferydd dan sylw gopi o unrhyw wybodaeth amdano y mae wedi ei darparu i'r personau neu'r cyrff a restrir ym mharagraff (2) neu (3), ac unrhyw ohebiaeth gyda'r person neu'r corff hwnnw mewn perthynas â'r wybodaeth honno.

(6Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu unrhyw un o'r personau neu gyrff a nodwyd ym mharagraff (2) neu (3) o'r materion a nodir ym mharagraff (4), caiff hefyd, os gofynnir iddo gan y person neu'r corff hwnnw, hysbysu'r person neu'r corff hwnnw o unrhyw dystiolaeth a ystyriwyd, gan gynnwys unrhyw sylwadau gan yr ymarferydd.

(7Os bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei hysbysu gan yr FHSAA ei fod wedi gosod anghymhwysiad cenedlaethol ar ymarferydd a oedd wedi ei gynnwys neu wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ar ei restr atodol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r personau neu'r cyrff a restrir ym mharagraff (2)(b), (e) a (f) a pharagraph (3).

(8Os bydd penderfyniad yn cael ei newid ar ôl adolygiad neu apêl, neu pan fydd ataliad dros dro yn dod i ben, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r personau neu'r cyrff a hysbyswyd am y penderfyniad gwreiddiol, o'r penderfyniad diweddaraf neu'r ffaith bod yr ataliad dros dro wedi dod i ben.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources