Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Gofynion y mae'n rhaid i ymarferydd ar y rhestr atodol gydymffurfio â hwy

9.—(1Mae'n rhaid i ymarferydd, sydd wedi ei gynnwys ar restr atodol Bwrdd Iechyd Lleol, wneud datganiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw o fewn 7 diwrnod i'r digwyddiad os bydd—

(a)yn cael ei gollfarnu am unrhyw dramgwydd troseddol yn y Deyrnas Unedig;

(b)yn cael ei rwymo drosodd yn dilyn collfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig;

(c)yn derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig;

(ch)wedi derbyn cynnig amodol o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (yr Alban) 1995 (cosb benodedig: cynnig amodol gan brocuradur cyllidol) neu wedi cytuno i dalu cosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 (cosb fel dewis arall yn lle erlyniad);

(d)mewn achos troseddol yn yr Alban, wedi bod yn destun gorchymyn o dan adran 246(2) neu (3) o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (yr Alban) 1995 yn ei ryddhau yn llwyr;

(dd)wedi ei gollfarnu yn rhywle arall am drosedd, neu'r hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn dramgwydd troseddol pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(e)wedi ei gyhuddo o dramgwydd troseddol yn y Deyrnas Unedig, neu wedi ei gyhuddo yn rhywle arall am drosedd a fyddai'n cael ei ystyried yn dramgwydd troseddol pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(f)wedi cael gwybod gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad i ymddygiad proffesiynol ymarferydd, a'r dyfarniad yn erbyn yr ymarferydd;

(ff)yn dod yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddio neu gorff arall;

(g)yn ddarostyngedig i ymchwiliad i ymddygiad proffesiynol yr ymarferydd mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth bresennol neu flaenorol, neu wedi cael gwybod am ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath, pan fo'r canlyniad hwnnw yn anffafriol;

(ng)yn ôl yr wybodaeth sydd gan yr ymarferydd, yn dod yn destun ymchwiliad gan Wasanaeth Gwrth-dwyll a Rheoli Diogelwch y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perthynas â thwyll, neu bod yr ymarferydd yn cael gwybod am ganlyniad ymchwiliad o'r fath, pan fo'n anffafriol;

(h)yn dod yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall, a all arwain at dynnu'r ymarferydd oddi ar unrhyw restr neu restr gyfatebol; neu

(i)wedi ei dynnu, ei dynnu'n amodol neu wedi ei atal dros dro, wedi cael gwrthod mynediad, neu wedi ei gynnwys yn amodol ar unrhyw restr neu restr gyfatebol,

ac, os felly, rhaid i'r ymarferydd roi manylion, gan gynnwys bras ddyddiadau, a phan fo unrhyw ymchwiliad neu achos yn cael eu cynnal, natur yr ymchwiliad neu'r achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.

(2Rhaid i ymarferydd sydd wedi cael ei gynnwys ar restr atodol Bwrdd Iechyd Lleol ac sydd, neu a oedd yn y chwe mis blaenorol, neu adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr corff corfforaethol, wneud datganiad ysgrifenedig i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw o fewn 7 diwrnod iddo ddigwydd os yw'r corff corfforaethol hwnnw—

(a)wedi ei gollfarnu am unrhyw dramgwydd troseddol yn y Deyrnas Unedig;

(b)wedi ei gollfarnu yn rhywle arall am drosedd, neu'r hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn dramgwydd troseddol pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(c)wedi ei gyhuddo o dramgwydd troseddol yn y Deyrnas Unedig, neu wedi ei gyhuddo yn rhywle arall o drosedd a fyddai'n cael ei ystyried yn dramgwydd troseddol pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr;

(ch)wedi cael gwybod gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol, a bod y dyfarniad yn erbyn y corff corfforaethol;

(d)yn dod yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddio neu gorff arall;

(dd)yn dod, fel y gŵyr yr ymarferydd yn destun unrhyw ymchwiliad mewn perthynas â thwyll, neu'n cael gwybod am ganlyniad ymchwiliad o'r fath, pan fo'n'n anffafriol;

(e)yn dod yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a all arwain at ei dynnu oddi ar unrhyw restr neu restr gyfatebol; neu

(f)wedi ei dynnu, ei dynnu'n amodol neu ei atal dros dro, wedi cael ei wrthod rhag cael ei gynnwys ar y rhestr , neu wedi ei gynnwys yn amodol ar unrhyw restr neu restr gyfatebol,

ac, os felly, yn rhoi enw a chyfeiriad cofrestredig y corff corfforaethol a manylion, gan gynnwys bras ddyddiadau, pan fydd ymchwiliad neu achos wedi bod neu eto i ddod, natur yr ymchwiliad neu achos, ac unrhyw ganlyniad.

(3Rhaid i ymarferydd sydd wedi ei gynnwys ar restr atodol Bwrdd Iechyd Lleol roi caniatâd i gais gael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw i unrhyw gyflogwr neu gyn gyflogwr, corff trwyddedu, rheoleiddio neu gorff arall yn y Deyrnas Unedig neu rywle arall, am wybodaeth sy'n ymwneud ag ymchwiliad cyfredol, neu ymchwiliad lle yr oedd y canlyniad yn anffafriol, gan y cyflogwr neu'r corff hwnnw i'r ymarferydd neu gorff corfforaethol y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2) ac, at ddibenion y paragraff hwn, mae “cyflogwr” yn cynnwys partneriaeth y mae'r ymarferydd yn aelod ohoni neu y bu yn aelod ohoni.

(4Rhaid i ymarferydd sydd wedi ei gynnwys ar restr atodol Bwrdd Iechyd Lleol roddi i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw dystysgrif cofnod troseddol fwy manwl o dan adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997(1) mewn perthynas â'r ymarferydd, os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol ar unrhyw adeg, am achos rhesymol, yn rhoi hysbysiad iddo ddarparu tystysgrif o'r fath.

(1)

1997 p.50; diwygiadau sy'n berthnasol yw Deddf 2001, adran 19(1), (2) a (3); a Deddf 2002, adran 2(5) a pharagraff 54 o Atodlen 2.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources