Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1850 (Cy.193)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006

Wedi'u gwneud

11 Gorffennaf 2006

Yn dod i rym

13 Gorffennaf 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a), (2)(e) a (3), a 48 (1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd ynddo ef bellach(2).

Yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw รข'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).