Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn (yn ddarostyngedig i eithriadau mewn amgylchiadau penodol sy'n ymwneud â mewnforion o Wladwriaethau'r AEE) yn gwahardd gwerthu, meddu gyda'r bwriad o werthu, cynnig, arddangos neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, a mewnforio i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, unrhyw fwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa, neu sy'n cynnwys Cafa-cafa (sef planhigyn neu ran o blanhigyn, neu ddarn o blanhigyn o'r fath, sy'n perthyn i'r rhywogaeth Piper methysticum) (rheoliad 3). Gellir trin unrhyw fwyd o'r fath fel bwyd sy'n anaddas i'w fwyta gan bobl a gall fod yn agored i'w atafaelu a'i ddinistrio (rheoliad 5(3)).

Mae'r Rheoliadau yn creu tramgwydd o ran eu torri ac maent yn darparu ar gyfer eu gorfodi gan awdurdodau bwyd (rheoliad 4). Maent hefyd yn creu rhagdybiaeth, oni bai bod prawf i'r gwrthwyneb, pan fo rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd yn torri'r Rheoliadau, bernir bod y swp, lot neu lwyth cyfan yn torri'r Rheoliadau (rheoliad 6).

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o ddrafft o'r Rheoliadau yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/34/EC sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol a rheolau gwasanaethau y Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/48/EC (OJ Rhif L217, 5.8.1998, t.18). Drwy amryfusedd, ni hysbyswyd ef o'r Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002 ac fe'u dirymwyd wedi hynny gan Reoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) (Dirymu) 2003. Mae'r Rheoliadau hyn yn cymryd lle Rheoliadau 2002.

Paratowyd Arfarniad Effaith Rheoliadol a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.