2006 Rhif 1852 (Cy.195)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Codi Taliadau) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19, 60 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 20041, ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 19(7) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Codi Taliadau) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 13 Gorffennaf 2006.

2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

3

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004;

  • ystyr “gweithredydd” (“operator”) yw'r person sydd, fel meddiannydd neu fel arall, â rheolaeth ar y fangre, y strwythur, y lifft neu'r cerbyd, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â masnach, busnes neu ymgymeriad arall (boed am elw ai peidio) a ddygir ymlaen ganddo ac mae'n cynnwys ceidwad cerbyd fel a ddiffinnir yn adran 62(2) o Ddeddf Treth a Chofrestru Cerbydau 19942; ac

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le.

Pŵer i godi tâl am wasanaethau2

Awdurdodir awdurdod tân ac achub i godi tâl ar berson a bennir yng ngholofn 2 o'r tabl yn yr Atodlen ar gyfer y weithred a wneir gan yr awdurdod a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r tabl, ond nid—

a

ac eithrio mewn perthynas â chofnod 13 yn y tabl, ar gyfer diffodd tân neu amddiffyn bywydau ac eiddo pan ddigwyddo tân, neu

b

ar gyfer cymorth meddygol brys.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLENTALIADAU AWDURDODEDIG

Erthygl 2

Y weithred a gyflawnir gan yr awdurdod tân ac achub

Y person y caniateir codi tâl arno

1

Hurio neu ddarparu cyfarpar, cerbydau, mangreoedd neu gyflogeion awdurdod tân ac achub, ac eithrio pan wneir hyn yn unol ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

a

adran 6;

b

adran 8; neu

c

adrannau 13 i 17.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

2

Arolygu, profi, cynnal ac atygyweirio cyfarpar a cherbydau, gan gynnwys ailwefru silindrau aer cywasgedig a chyfarpar anadlu.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

3

Dal a chlirio ysbwriel, gorlifoedd, arllwysiadau neu ollyngiadau o gerbyd, tanc storio neu bibell.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre neu gerbyd a oedd, cyn y digwyddiad a arweiniodd at y tâl, yn dal neu'n cludo'r deunydd sydd i'w ddal neu i'w glirio, neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

4

Darparu dŵ r neu gael gwared â dŵ r.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

5

Galluogi pobl i fynd i mewn i fangre neu i ddod o fangre

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y fangre neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

6

Achub pobl o gabanau lifftiau

Perchennog neu weithredydd y lifft.

7

Achub anifeiliaid.

Perchennog neu geidwad yr anifail.

8

Darparu dogfennau, ffotograffau, tâpiau, fideos neu recordiadau tebyg eraill, pan na fo codi taliadau eisoes wedi'i awdurdodi neu ei wahardd gan ddeddfiad arall.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

9

Darparu hyfforddiant, heblaw hyfforddiant a ddarperir i gyflogeion awdurdodau tân ac achub eraill o dan gynllun atgyfnerthu.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

10

Symud strwythurau peryglus.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y strwythur neu'r fangre lle mae'r strwythur neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

11

Rhoi cyngor i bersonau mewn perthynas â mangre lle dygir masnach, busnes neu ymgymeriad arall ymlaen, heblaw rhoi cyngor y mae'n ofynnol gwneud trefniadau ar ei gyfer o dan adran 6(2)(b) o'r Ddeddf.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

12

Codi personau analluog.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth.

13

Diffodd tân ar y môr neu o dan y môr, neu amddiffyn bywyd ac eiddo os digwydd tân o'r fath.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub yng Nghymru (erthygl 1).

Mae adran 19 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, awdurdodi awdurdod tân ac achub i godi tâl ar berson o ddisgrifiad penodedig am unrhyw weithred o ddisgrifiad penodedig a gyflawnir gan yr awdurdod. Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r gweithredoedd y caiff awdurdod tân ac achub godi tâl amdanynt ac yn pennu'r personau y caniateir codi tâl arnynt (erthygl 2 a'r Atodlen).

Mae arfarniad rheoliadol llawn o'r effaith y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar fusnesau ar gael o Robert Tyler, Cangen Gwasanathau Tân ac Achub, Y Pedwerydd Llawr, CP2, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; ffôn: 029 2082 1283; e-bost: robert.tyler@wales.gsi.gov.uk.