Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 14 Gorffennaf 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 20062.

Diwygio'r Prif Reoliadau

3

Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn.

4

Yn rheoliad 2(1)—

a

hepgorer yr is-baragraffau sy'n diffinio'r termau canlynol—

  • “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”);

  • “gweithiwr mudol yr AEE”(“EEA migrant worker”);

  • “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”); a

  • “Cytundeb y Swistir” (“Switzerland Agreement”); a

    1. a

      yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

  • “ystyr “benthyciad ffioedd coleg” (“College fee loan”) yw benthyciad yn unol â rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 22 o'r Ddeddf o ran y ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr i goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt;” ac

    • mae i “ffioedd” yr ystyr a roddir i “fees” yn adran 41(1) o Ddeddf 2004 ac eithrio yn achos ffioedd coleg;

5

Yn rheoliad 2, hepgorer paragraffau (2) i (5).

6

Mewnosoder ar ôl paragraff (4) o reoliad 3, y paragraff canlynol—

4A

At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—

a

y Cynulliad Cenedlaethol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o'r Ddeddf; neu

b

y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o'r Ddeddf.

7

Yn rheoliad 4(2)(a), o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder y geiriau “Rhan 2 o”.

8

Yn rheoliad 6(4), ar ôl y geiriau “Er gwaethaf paragraff (1)” mewnosoder y geiriau “ac yn ddarostyngedig i baragraff 6(4B).”.

9

Ar ôl rheoliad 6(4) mewnosoder—

4A

Mae paragraff (4B) yn gymwys i—

a

myfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd ar gwrs pen-ben o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) o'r diffiniad “cwrs pen-ben” yn rheoliad 2;

b

myfyriwr cymwys dan y drefn newydd—

i

sydd wedi cwblhau cwrs amser-llawn a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;

ii

sydd ar gwrs gradd gyntaf amser-llawn (heblaw gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon) na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a

iii

nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) ac o flaen y cwrs presennol;

c

myfyriwr cymwys dan y drefn newydd—

i

sydd wedi cwblhau gradd sylfaenol amser-llawn;

ii

sydd ar gwrs gradd anrhydedd amser-llawn na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a

iii

nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) ac o flaen y cwrs presennol; ac

ch

myfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd ar gwrs pen-ben o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) a (b) o'r diffiniad o gwrs “pen-ben” yn rheoliad 2.

10

Ar ôl rheoliad 6(4A) (a fewnosodir gan reoliad 9 uchod), mewnosoder—

4B

Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd neu grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (D + X)−Pr C y mae myfyriwr cymwys y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys.

11

Yn rheoliad 6(9) mewnosoder—

a

ar ôl paragraff (a)—

aa

D yw 3 a nifer y blynyddoedd academaidd sy'n llunio cyfnod arferol y cwrs p'un bynnag yw'r mwyaf;

b

ar ôl paragraff (c)—

ca

X yw 1 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn llai na thair blynedd a phan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn dair blynedd.

c

ar ôl paragraff (9)(ch)—

da

PrC yw'r nifer o flynyddoedd academaidd y treuliodd y myfyriwr ar y cwrs rhagarweiniol ac eithrio unrhyw flynyddoedd yn ailadrodd yr astudiaeth am resymau personol cryf:

12

Yn rheoliad 7(1), yn lle “baragraff (3)” rhodder “baragraffau (3) a (3A)” a hepgorer y geiriau “neu grant at gostau byw”.

13

Yn rheoliad 7(2), yn lle'r geiriau “baragraffau (3) a (4)” rhodder y geiriau “paragraffau (3A) a (4)”.

14

Ar ôl rheoliad 7(3) mewnosoder—

3A

Os ystyrir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(4) a 5(5) a'i fod yn arwain at radd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn cael ei rhoi i fyfyriwr cymwys o flaen y radd derfynol neu gymhwyster cyfatebol, ni chaiff y myfyriwr cymwys ei rwystro rhag dod yn gymwys i gael cymorth o dan baragraff (1) neu (2) o ran unrhyw ran o'r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith iddo gael y radd anrhydedd honno.

15

Yn lle rheoliad 7(4) rhodder—

  • Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

    1. a

      os yw'r cwrs dynodedig yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol;

    2. b

      os yw'r myfyriwr cymwys i dderbyn unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd y swm amdano drwy gyfeirio at ei incwm neu lwfans gofal iechyd Albanaidd y cyfrifwyd y swm amdani drwy gyfeirio at ei incwm o ran unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs; neu

    3. c

      os yw'r myfyriwr ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

16

Ar ôl rheoliad 7(7) mewnosoder—

8

Mae paragraffau (6A) a (6B) o reoliad 18 yn estyn darpariaethau'r rheoliad hwn ynghylch cymhwyster ar gyfer benthyciadau ffioedd a grantiau ffioedd at gostau byw y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol.

17

Yn lle rheoliad 10(2)(a), rhodder y canlynol—

a

os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 11C yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol;

18

Hepgorer rheoliad 10(2)(b) ac (c).

19

Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder y Rhan newydd sy'n dilyn—

RHAN 3AGWNEUD CEISIADAU AM GRANTIAU A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Cymorth Ffioedd yn Gyffredinol11A

1

Ni chaniateir i grant o dan Ran 4 neu fenthyciad o dan Ran 5 o ran blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr o ran y flwyddyn academaidd honno.

2

I gael benthyciad o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r myfyriwr ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd11B

Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 11C yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

a

gall myfyriwr ddod yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau o dan Rannau 4 neu 5 ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

b

nad yw'r cyfryw grantiau a benthyciadau ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.

Digwyddiadau11C

Dyma'r digwyddiadau—

a

mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

b

pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

c

pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

ch

pan fydd y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

d

pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

dd

pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

e

pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

20

Yn y penawdau ar gyfer Rhan 6 a rheoliad 18 ar ôl y geiriau “gostau byw” mewnosoder y geiriau “a chostau eraill”.

21

Yn rheoliadau 18(1), 18(2), 18(3), 18(5) ac 18(7) hepgorer y geiriau “at gostau byw” bob tro y maent yn digwydd.

22

Yn rheoliad 18(2) rhodder yn lle'r geiriau “os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano”, y geiriau “os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo”.

23

Ar ôl rheoliad 18(6) mewnosoder—

6A

Yn ddarostyngedig i baragraff (6B), nid oes gan fyfyriwr cymwys yr hawl i gael grant o dan rheoliad 28, 29 neu 30 o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran y flwyddyn academaidd honno.

6B

Nid yw paragraff (6A) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gymorth perthnasol yw oherwydd—

a

mae'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu'r Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol a elwir ERASMUS ac mae ei gwrs yn un y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); ac mae holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

b

mae'r cwrs gradd yn gwrs hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

6C

Ym mharagraff (6A) ystyr “cymorth perthnasol”, mewn achos grant o dan reoliad 28, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 29 neu 30, yw benthyciad at ffioedd.

24

Yn rheoliad 18(8)(b) rhodder yn lle'r geiriau “y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1”, y geiriau “fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1”, a hepgorer y “neu” sy'n dod o flaen yr is-baragraff hwnnw.

25

Ar ôl rheoliad 18(8)(b) mewnosoder—

c

pan fydd gwladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ohoni yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd sy'n union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs academaidd;

ch

pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

d

pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

dd

pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

26

Yn rheoliad 30(2) ar ôl “1992” mewnosoder y geiriau “, neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau o ran annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno”.

27

Yn rheoliad 30(5)(c), ar ôl “£26,500,” mewnosoder “neu os yw'r myfyriwr pan fydd yn gwneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd,”.

28

Yn rheoliad 30(6)(ch) yn lle'r gair “cynhaliaeth” rhodder y geiriau “cymorth arbennig”.

29

Yn rheoliad 31(3) rhodder yn lle'r geiriau “os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano”, y geiriau “os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo”.

30

Yn rheoliad 39(2)(b) rhodder yn lle'r geiriau “fel y crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1”, “fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1”.

31

Ar ôl rheoliad 39(2)(b) mewnosoder—

c

pan fydd gwladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ohoni yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd sy'n union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs academaidd;

ch

pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

d

pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

dd

pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

32

Ar ôl rheoliad 44, mewnosoder—

RHAN 8ABENTHYCIADAU FFIOEDD COLEG

44A

Mae benthyciad ffioedd coleg ar gael i fyfyriwr cymwys yn unol ag Atodlen 3A.

33

Ar ôl rheoliad 50(1), mewnosoder—

1A

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymhwystra i gael cymorth o dan y Rhan hon i berson—

a

nad yw'n fyfyriwr cymwys rhan-amser; neu

b

sy'n fyfyriwr cymwys rhan-amser ond nad oes hawl ganddo i gael cymorth o dan y Rhan hon.

34

Yn rheoliad 50(2)(a), o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder y geiriau “Rhan 2 o”.

35

Yn rheoliad 50(7) rhodder yn lle'r geiriau “os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano”, y geiriau “os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo”.

36

Yn lle paragraff (13) a (14) o reoliad 50, rhodder—

13

Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

a

gall myfyriwr ddod yn gymwys i gael grant at ffioedd o ran y flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

b

nid yw grant o ran ffioedd ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.

13A

Pan fydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e) neu (f) o baragraff (14) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

a

gall myfyriwr fod yn gymwys i gael grant ar gyfer llyfrau, teithio a threuliau eraill o ran y flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

b

nid yw grant ar gyfer llyfrau, teithio a threuliau eraill ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.

14

Dyma'r digwyddiadau—

a

pan fydd cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;

b

pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

c

pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

ch

pan fydd y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

d

pan fydd y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ynddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

dd

pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

e

pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

f

pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

37

Yn rheoliad 53(5)(e) yn lle'r ffigur “£9.50” rhodder y ffigur “£2.00”.

38

Yn rheoliad 53(6)(a), yn lle'r ffigurau “£9.50”, “£7.63” a “£5.93”, rhodder y ffigurau “£15.92”, “£12.79” a “£9.94”, yn eu trefn.

39

Hepgorer rheoliad 55(3)(a) ac yn lle rheoliad 55 (3)(b) rhodder y canlynol—

b

os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14) o reoliad 50 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth ynglŷn â hi, ac yn yr achos hwn rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad pan fo'r digwyddiad yn digwydd.

40

Yn rheoliad 62(3)(a), o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder y geiriau “Rhan 2 o”.

41

Yn rheoliad 62(7), rhodder yn lle'r geiriau “os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano”, y geiriau “os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo”.

42

Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a osodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

43

Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder Atodlen 3A a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

44

Yn lle paragraff 3(4) o Atodlen 4 rhodder—

2

Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy o ran myfyriwr sy'n rhiant, rhaid peidio â chronni incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae ei blentyn neu blentyn ei bartner yn dal dyfarndaliad y cyfrifir incwm yr aelwyd yn ei gylch gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau

45

Yn lle paragraff 4(2) o Atodlen 4 rhodder—

2

Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn dod i mewn iddo a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei ddiystyru i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

46

Ym mharagraff 10(4)(b) a (c) o Atodlen 4 mewnosoder ar ôl y geiriau “yn fwy na £22,560” y geiriau “os yw'r myfyriwr yn fyfyriwr dan yr hen drefn neu'n fwy na £37,900 os yw'r myfyriwr yn fyfyriwr dan y drefn newydd.”.

47

Ar ôl paragraff 10 o Atodlen 4 mewnosoder y paragraff newydd canlynol—

Rhannu cyfraniadau— myfyrwyr cymwys annibynnol11

1

Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 8 neu 9 o ran myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

a

am unrhyw flwyddyn pryd y mae dyfarniad statudol heblaw am ddyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, y cyfraniad sy'n daladwy o ran y myfyriwr cymwys annibynnol yw'r gyfran honno o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sy'n ymwneud â'r mater o'r farn ei fod yn gyfiawn;

b

yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn pryd y mae dyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 20033 neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 19684 (a dim unrhyw ddyfarniad statudol arall) gan bartner i'r myfyriwr cymwys annibynnol, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yn swm sy'n hafal i hanner y cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9;

c

pe na bai'r cyfraniad a gyfrifir, o ganlyniad i'r dyraniad o dan baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys annibynnol, mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach i ddyfarniad statudol perthnasol ei bartner os ydynt ill dau yn fyfyrwyr dan yr hen drefn neu os ydynt ill dau yn fyfyrwyr dan y drefn newydd.

2

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill—

a

os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw yn fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu

b

os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dyrannu'r cyfraniad i'w blant o dan yr Atodlen hon.

3

Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner sydd hefyd yn fyfyriwr cymwys y cymerir ei incwm i ystyriaeth wrth asesu'r cyfraniad o ran y plant yn is-baragraff (2), ychwanegir hanner y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2) at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol