Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 14 Gorffennaf 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygio'r Prif Reoliadau

3.  Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn.

4.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer yr is-baragraffau sy'n diffinio'r termau canlynol—

“Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”);

“gweithiwr mudol yr AEE”(“EEA migrant worker”);

“Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”); a

“Cytundeb y Swistir” (“Switzerland Agreement”); a

(b)

yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

“ystyr “benthyciad ffioedd coleg” (“College fee loan”) yw benthyciad yn unol â rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 22 o'r Ddeddf o ran y ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr i goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt;” ac

5.  Yn rheoliad 2, hepgorer paragraffau (2) i (5).

6.  Mewnosoder ar ôl paragraff (4) o reoliad 3, y paragraff canlynol—

(4A) At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o'r Ddeddf; neu

(b)y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o'r Ddeddf..

7.  Yn rheoliad 4(2)(a), o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder y geiriau “Rhan 2 o”.

8.  Yn rheoliad 6(4), ar ôl y geiriau “Er gwaethaf paragraff (1)” mewnosoder y geiriau “ac yn ddarostyngedig i baragraff 6(4B).”.

9.  Ar ôl rheoliad 6(4) mewnosoder—

(4A) Mae paragraff (4B) yn gymwys i—

(a)myfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd ar gwrs pen-ben o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) o'r diffiniad “cwrs pen-ben” yn rheoliad 2;

(b)myfyriwr cymwys dan y drefn newydd—

(i)sydd wedi cwblhau cwrs amser-llawn a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;

(ii)sydd ar gwrs gradd gyntaf amser-llawn (heblaw gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon) na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) ac o flaen y cwrs presennol;

(c)myfyriwr cymwys dan y drefn newydd—

(i)sydd wedi cwblhau gradd sylfaenol amser-llawn;

(ii)sydd ar gwrs gradd anrhydedd amser-llawn na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) ac o flaen y cwrs presennol; ac

(ch)myfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd ar gwrs pen-ben o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) a (b) o'r diffiniad o gwrs “pen-ben” yn rheoliad 2..

10.  Ar ôl rheoliad 6(4A) (a fewnosodir gan reoliad 9 uchod), mewnosoder—

(4B) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd neu grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (D + X)−Pr C y mae myfyriwr cymwys y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys..

11.  Yn rheoliad 6(9) mewnosoder—

(a)ar ôl paragraff (a)—

(aa)D yw 3 a nifer y blynyddoedd academaidd sy'n llunio cyfnod arferol y cwrs p'un bynnag yw'r mwyaf;;

(b)ar ôl paragraff (c)—

(ca)X yw 1 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn llai na thair blynedd a phan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn dair blynedd.; ac

(c)ar ôl paragraff (9)(ch)—

(da)PrC yw'r nifer o flynyddoedd academaidd y treuliodd y myfyriwr ar y cwrs rhagarweiniol ac eithrio unrhyw flynyddoedd yn ailadrodd yr astudiaeth am resymau personol cryf:.

12.  Yn rheoliad 7(1), yn lle “baragraff (3)” rhodder “baragraffau (3) a (3A)” a hepgorer y geiriau “neu grant at gostau byw”.

13.  Yn rheoliad 7(2), yn lle'r geiriau “baragraffau (3) a (4)” rhodder y geiriau “paragraffau (3A) a (4)”.

14.  Ar ôl rheoliad 7(3) mewnosoder—

(3A) Os ystyrir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(4) a 5(5) a'i fod yn arwain at radd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn cael ei rhoi i fyfyriwr cymwys o flaen y radd derfynol neu gymhwyster cyfatebol, ni chaiff y myfyriwr cymwys ei rwystro rhag dod yn gymwys i gael cymorth o dan baragraff (1) neu (2) o ran unrhyw ran o'r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith iddo gael y radd anrhydedd honno..

15.  Yn lle rheoliad 7(4) rhodder—

16.  Ar ôl rheoliad 7(7) mewnosoder—

(8) Mae paragraffau (6A) a (6B) o reoliad 18 yn estyn darpariaethau'r rheoliad hwn ynghylch cymhwyster ar gyfer benthyciadau ffioedd a grantiau ffioedd at gostau byw y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol..

17.  Yn lle rheoliad 10(2)(a), rhodder y canlynol—

(a)os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 11C yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol;.

18.  Hepgorer rheoliad 10(2)(b) ac (c).

19.  Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder y Rhan newydd sy'n dilyn—

RHAN 3AGWNEUD CEISIADAU AM GRANTIAU A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Cymorth Ffioedd yn Gyffredinol

11A.(1) Ni chaniateir i grant o dan Ran 4 neu fenthyciad o dan Ran 5 o ran blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr o ran y flwyddyn academaidd honno.

(2) I gael benthyciad o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r myfyriwr ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

11B.  Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 11C yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr ddod yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau o dan Rannau 4 neu 5 ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nad yw'r cyfryw grantiau a benthyciadau ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.

Digwyddiadau

11C.  Dyma'r digwyddiadau—

(a)mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

(c)pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch)pan fydd y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d)pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

(dd)pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(e)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd..

20.  Yn y penawdau ar gyfer Rhan 6 a rheoliad 18 ar ôl y geiriau “gostau byw” mewnosoder y geiriau “a chostau eraill”.

21.  Yn rheoliadau 18(1), 18(2), 18(3), 18(5) ac 18(7) hepgorer y geiriau “at gostau byw” bob tro y maent yn digwydd.

22.  Yn rheoliad 18(2) rhodder yn lle'r geiriau “os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano”, y geiriau “os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo”.

23.  Ar ôl rheoliad 18(6) mewnosoder—

(6A) Yn ddarostyngedig i baragraff (6B), nid oes gan fyfyriwr cymwys yr hawl i gael grant o dan rheoliad 28, 29 neu 30 o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran y flwyddyn academaidd honno.

(6B) Nid yw paragraff (6A) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gymorth perthnasol yw oherwydd—

(a)mae'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu'r Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol a elwir ERASMUS ac mae ei gwrs yn un y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); ac mae holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(b)mae'r cwrs gradd yn gwrs hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

(6C) Ym mharagraff (6A) ystyr “cymorth perthnasol”, mewn achos grant o dan reoliad 28, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 29 neu 30, yw benthyciad at ffioedd..

24.  Yn rheoliad 18(8)(b) rhodder yn lle'r geiriau “y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1”, y geiriau “fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1”, a hepgorer y “neu” sy'n dod o flaen yr is-baragraff hwnnw.

25.  Ar ôl rheoliad 18(8)(b) mewnosoder—

(c)pan fydd gwladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ohoni yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd sy'n union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs academaidd;

(ch)pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

(d)pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(dd)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd..”;

26.  Yn rheoliad 30(2) ar ôl “1992” mewnosoder y geiriau “, neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau o ran annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno”.

27.  Yn rheoliad 30(5)(c), ar ôl “£26,500,” mewnosoder “neu os yw'r myfyriwr pan fydd yn gwneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd,”.

28.  Yn rheoliad 30(6)(ch) yn lle'r gair “cynhaliaeth” rhodder y geiriau “cymorth arbennig”.

29.  Yn rheoliad 31(3) rhodder yn lle'r geiriau “os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano”, y geiriau “os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo”.

30.  Yn rheoliad 39(2)(b) rhodder yn lle'r geiriau “fel y crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1”, “fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1”.

31.  Ar ôl rheoliad 39(2)(b) mewnosoder—

(c)pan fydd gwladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ohoni yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd sy'n union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs academaidd;

(ch)pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

(d)pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(dd)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd..

32.  Ar ôl rheoliad 44, mewnosoder—

RHAN 8ABENTHYCIADAU FFIOEDD COLEG

44A.  Mae benthyciad ffioedd coleg ar gael i fyfyriwr cymwys yn unol ag Atodlen 3A..

33.  Ar ôl rheoliad 50(1), mewnosoder—

(1A) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymhwystra i gael cymorth o dan y Rhan hon i berson—

(a)nad yw'n fyfyriwr cymwys rhan-amser; neu

(b)sy'n fyfyriwr cymwys rhan-amser ond nad oes hawl ganddo i gael cymorth o dan y Rhan hon..

34.  Yn rheoliad 50(2)(a), o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder y geiriau “Rhan 2 o”.

35.  Yn rheoliad 50(7) rhodder yn lle'r geiriau “os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano”, y geiriau “os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo”.

36.  Yn lle paragraff (13) a (14) o reoliad 50, rhodder—

(13) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr ddod yn gymwys i gael grant at ffioedd o ran y flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid yw grant o ran ffioedd ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.

“(13A) Pan fydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e) neu (f) o baragraff (14) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr fod yn gymwys i gael grant ar gyfer llyfrau, teithio a threuliau eraill o ran y flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid yw grant ar gyfer llyfrau, teithio a threuliau eraill ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(14) Dyma'r digwyddiadau—

(a)pan fydd cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;

(b)pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

(c)pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch)pan fydd y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d)pan fydd y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ynddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(dd)pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

(e)pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(f)pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd..

37.  Yn rheoliad 53(5)(e) yn lle'r ffigur “£9.50” rhodder y ffigur “£2.00”.

38.  Yn rheoliad 53(6)(a), yn lle'r ffigurau “£9.50”, “£7.63” a “£5.93”, rhodder y ffigurau “£15.92”, “£12.79” a “£9.94”, yn eu trefn.

39.  Hepgorer rheoliad 55(3)(a) ac yn lle rheoliad 55 (3)(b) rhodder y canlynol—

(b)os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14) o reoliad 50 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth ynglŷn â hi, ac yn yr achos hwn rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad pan fo'r digwyddiad yn digwydd..

40.  Yn rheoliad 62(3)(a), o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder y geiriau “Rhan 2 o”.

41.  Yn rheoliad 62(7), rhodder yn lle'r geiriau “os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano”, y geiriau “os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod i mewn iddo”.

42.  Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a osodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

43.  Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder Atodlen 3A a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

44.  Yn lle paragraff 3(4) o Atodlen 4 rhodder—

(2) Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy o ran myfyriwr sy'n rhiant, rhaid peidio â chronni incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae ei blentyn neu blentyn ei bartner yn dal dyfarndaliad y cyfrifir incwm yr aelwyd yn ei gylch gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.

45.  Yn lle paragraff 4(2) o Atodlen 4 rhodder—

(2) Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn dod i mewn iddo a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei ddiystyru i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg..

46.  Ym mharagraff 10(4)(b) a (c) o Atodlen 4 mewnosoder ar ôl y geiriau “yn fwy na £22,560” y geiriau “os yw'r myfyriwr yn fyfyriwr dan yr hen drefn neu'n fwy na £37,900 os yw'r myfyriwr yn fyfyriwr dan y drefn newydd.”.

47.  Ar ôl paragraff 10 o Atodlen 4 mewnosoder y paragraff newydd canlynol—

Rhannu cyfraniadau— myfyrwyr cymwys annibynnol

11.(1) Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 8 neu 9 o ran myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

(a)am unrhyw flwyddyn pryd y mae dyfarniad statudol heblaw am ddyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, y cyfraniad sy'n daladwy o ran y myfyriwr cymwys annibynnol yw'r gyfran honno o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sy'n ymwneud â'r mater o'r farn ei fod yn gyfiawn;

(b)yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn pryd y mae dyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(2) neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(3) (a dim unrhyw ddyfarniad statudol arall) gan bartner i'r myfyriwr cymwys annibynnol, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yn swm sy'n hafal i hanner y cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9;

(c)pe na bai'r cyfraniad a gyfrifir, o ganlyniad i'r dyraniad o dan baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys annibynnol, mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach i ddyfarniad statudol perthnasol ei bartner os ydynt ill dau yn fyfyrwyr dan yr hen drefn neu os ydynt ill dau yn fyfyrwyr dan y drefn newydd.

(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill—

(a)os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw yn fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu

(b)os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dyrannu'r cyfraniad i'w blant o dan yr Atodlen hon.

(3) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner sydd hefyd yn fyfyriwr cymwys y cymerir ei incwm i ystyriaeth wrth asesu'r cyfraniad o ran y plant yn is-baragraff (2), ychwanegir hanner y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2) at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2006