Offerynnau Statudol Cymru
2006 Rhif 1863 (Cy.196)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud
12 Gorffennaf 2006
Yn dod i rym
14 Gorffennaf 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysg Uwch 1998(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1998 p. 30; mewnosodwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)).