Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 (“y Prif Reoliadau”). Ceir crynodeb o effaith y prif newidiadau isod.

Newidiadau a wneir i weithredu gofynion yr UE

(Rheoliadau 4(a), 5, 7, 17 — 22, 24, 25, 29 — 31, 34 — 36, 39 — 42 ac Atodlen 1).

Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf cymhwystra penodol er mwyn iddi fod yn bosibl iddynt fod yn gymwys i gael cymorth tuag at naill ai eu ffioedd hyfforddi yn unig neu eu ffioedd hyfforddi a chymorth cynhaliaeth. Diwygiwyd y meini prawf hyn ac maent yn cynnwys newidiadau a wnaed wrth weithredu Cyfarwyddeb yr UE 2004/38 ar hawliau gwladolion y GE a'u teuluoedd i symud a phreswylio mewn Aelod-wladwriaethau eraill. Gosodir y meini prawf newydd yn Atodlen 1 ddiwygiedig i'r Prif Reoliadau a amnewidir gan y Rheoliadau hyn.

Mae'r newidiadau'n cyflwyno categorïau newydd o fyfyrwyr y mae'n bosibl iddynt fod yn gymwys i gael cymorth. Maent yn cynnwys:

  • Gwladolion y GE ac aelodau o'u teulu sy'n caffael yr hawl i breswylio'n barhaol yn y DU (ar ôl cyfnod parhaus o bum mlynedd yn preswylio yn y DU) (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);

  • Aelodau o deulu gwladolion y GE sy'n anweithgar yn economaidd sy'n dal heb gaffael yr hawl i breswylio'n barhaol (cymorth ffioedd hyfforddi yn unig);

  • Personau o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu bersonau hunangyflogedig Swisaidd ac aelodau o'u teulu (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);

  • Perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol gweithwyr mudol o'r AEE neu Swisaidd (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);

  • Gweithwyr “y ffin” a phersonau hunan-gyflogedig “y ffin” (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw);

  • Plant gwladolion/gwŷr neu wragedd neu bartneriaid sifil gwladolion Swisaidd (cymorth ffioedd hyfforddi a chymorth cynhaliaeth).

Mae'r newid hefyd yn galluogi gwneud taliadau cymorth pan fo myfyrwyr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol neu'n dod yn un o'r personau canlynol o'r AEE neu Swisaidd: gweithiwr; person hunan-gyflogedig; gweithiwr y ffin neu berson hunan-gyflogedig y ffin neu aelod o deulu person o'r fath neu blentyn gwladolyn Swisaidd yn ystod blwyddyn academaidd.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud nifer o newidiadau eraill o ganlyniad i'r newidiadau yn yr Atodlen 1 newydd.

Benthyciadau ffioedd coleg

(Rheoliadau 4(b), 32, 43 ac Atodlen 2)

Mae diwygiadau i'r Prif Reoliadau yn cyflwyno ffurf newydd ar gymorth sef benthyciad o ran ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu i goleg Prifysgol Caergrawnt mewn cysylltiad â bod yn bresennol i ddilyn cwrs cymhwysol.

Newidiadau eraill

Diwygir darpariaethau canlynol y Prif Reoliadau, ac ychwanegir darpariaethau newydd fel a ganlyn—

  • Rheoliad 3 (Darpariaethau canlyniadol): diwygir er mwyn ei gwneud yn glir bod cyfeiriadau yn y Rheoliadau at yr Ysgrifennydd Gwladol i'w darllen fel cyfeiriadau (neu'n cynnwys cyfeiriadau) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru (rheoliad 6);

  • Rheoliad 6 (Cyfnod cymhwystra): diwygir o ran categorïau penodol o fyfyrwyr cymwys (rheoliadau 8 — 11);

  • Rheoliad 7: rhai newididau i'r rheolau astudio blaenorol (rheoliadau 12 — 16 a 23);

  • Rheoliad 11A newydd: mae'n darparu na chaniateir i grant neu fenthciad am ffioedd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr, ac er mwyn cael benthyciad rhaid i'r myfyriwr ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 19);

  • Rheoliad 30: newidiadau a wneir i reolau ynghylch cymhwystra am grant cymorth arbennig (rheoliadau 26 — 28);

  • Rheoliad 50: newidiadau a wneir i reolau ynghylch cymhwystra myfyrwyr rhan-amser fel bod gan y Cynulliad Cenedlaethol bŵer wrth gefn i roi cymhwystra mewn achos nad ymwneir ag ef yn ddatganedig (gan ddwyn y rheolau yn y cyswllt hwn yn unol â'r rhai ar gyfer myfyrwyr llawn-amser) (rheolaiad 33);

  • Rheoliad 53: newidiadau i symiau penodol sydd i'w didynnu wrth gyfrifo'r cymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser (rheoliadau 37 — 38);

  • Atodlen 4: newidiadau i'r rheolau sy'n rheoli asesu ariannol cyfraniadau myfyrwyr at cymorth ariannol (rheoliadau 44 — 47).