Diwygio'r Prif Reoliadau19.

Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder y Rhan newydd sy'n dilyn—

“RHAN 3AGWNEUD CEISIADAU AM GRANTIAU A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Cymorth Ffioedd yn Gyffredinol11A.

(1)

Ni chaniateir i grant o dan Ran 4 neu fenthyciad o dan Ran 5 o ran blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr o ran y flwyddyn academaidd honno.

(2)

I gael benthyciad o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r myfyriwr ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd11B.

Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 11C yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)

gall myfyriwr ddod yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau o dan Rannau 4 neu 5 ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)

nad yw'r cyfryw grantiau a benthyciadau ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.

Digwyddiadau11C.

Dyma'r digwyddiadau—

(a)

mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)

pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

(c)

pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch)

pan fydd y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d)

pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1);

(dd)

pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(e)

pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.”.