2006 Rhif 249 (Cy.37)
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 101 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001 ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr awdurdodau perthnasol, â chynrychiolwyr cyflogeion awdurdodau perthnasol, ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 8 Chwefror 2006.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
mae “aelod” (“member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—
- a
aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol; neu
- b
person sydd yn aelod o unrhyw gyd-bwyllgor neu is-bwllgor, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod perthnasol ar y cyd-bwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw;
- a
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned, awdurdod tân a gyfansoddwyd drwy gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 19472, awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 20043 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddi, ac awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 19954;
ystyr “camau Rhan III” (“Part III proceedings”) yw unrhyw ymchwiliad, adroddiad, cyfeiriad, beirniadaeth neu unrhyw gamau eraill arall yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
ystyr “Cod Ymddygiad” (“Code of Conduct”) yw Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd am y tro gan awdurdod perthnasol yn unol ag adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
ystyr “mesurau disgyblu” (“disciplinary measures”) yw—
- a
atal, neu atal yn rhannol; neu
- b
anghymhwyso;
- a
ystyr “Pwyllgor Safonau” (“Standards Committee”) yw Pwyllgor Safonau, neu is-bwyllgor ohono, a sefydlwyd gan awdurdod perthnasol yn unol ag adran 53, adran 54A, neu adran 56 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000; ac
mae “sicrhau” (“secure”), mewn perthynas ag unrhyw indemniad a ddarperir drwy gyfrwng yswiriant yn cynnwys trefnu'r yswiriant hwnnw a thalu amdano a dehonglir ymdraddion perthynol yn unol â hynny.
Indemniadau3
Caiff awdurdod perthnasol ddarparu indemniadau, yn yr achosion a grybwyllir yn erthygl 5, i unrhyw un oi aelodau neu ei swyddogion.
Yswiriant4
Yn lle bod awdurdod perthnasol yn darparu indemniad o dan erthygl 3, neu yn ychwanegol at ei ddarparu, caiff awdurdod perthnasol sicrhau, yn yr achosion a grybwyllir yn erthygl 5, ddarparu indemniad drwy sicrhau yswiriant ar gyfer unrhyw un o'i aelodau neu ei swyddogion.
Achosion lle caniateir i indemniad neu yswiriant gael ei ddarparu5
Yn ddarostyngedig i erthygl 6, caniateir i indemniad gael ei ddarparu mewn perthynas ag unrhyw weithred, neu fethiant i weithredu, gan yr aelod neu'r swyddog o dan sylw, a hwnnw'n indemniad sydd—
a
wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol; neu
b
yn ffurfio rhan, neu'n deillio, o unrhyw bwerau a roddwyd, neu ddyletswyddau a osodwyd, ar yr aelod neu'r swyddog hwnnw, o ganlyniad i unrhyw swyddogaeth sy'n cael ei harfer gan yr aelod neu'r swyddog hwnnw (p'un a yw'r aelod neu'r swyddog hwnnw, wrth arfer y swyddogaeth honno, yn gwneud hynny yn rhinwedd ei swydd fel aelod neu swyddog i'r awdurdod perthnasol ai peidio)—
i
ar gais yr awdurdod perthnasol neu gyda'i gymeradwyaeth, neu
ii
at ddibenion yr awdurdod perthnasol.
Cyfyngiadau ar indemniadau6
1
Ni chaniateir i unrhyw indemniad gael ei ddarparu o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag unrhyw weithred, neu fethiant i weithredu, gan unrhyw aelod neu swyddog, sydd—
a
yn dramgwydd troseddol; neu
b
yn ganlyniad twyll, neu ddrygioni bwriadol arall neu fyrbwylltra ar ran yr aelod neu'r swyddog hwnnw.
2
Er gwaethaf paragraff 1(a), caniateir darparu indemniad mewn perthynas ag—
a
yn ddarostyngedig i erthygl 8, amddiffyniad unrhyw gamau troseddol a ddygir yn erbyn swyddog neu aelod;
b
unrhyw atebolrwydd sifil sy'n codi o ganlyniad o unrhyw weithred neu fethiant â gweithredu sydd hefyd yn dramgwydd troseddol; ac
c
yn ddarostynedig i erthygl 8, amddiffyniad unrhyw gamau Rhan III yn erbyn aelod.
3
Ni chaniateir darparu unrhyw indemniad o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas ag unrhyw hawliad a wneir gan yr aelod neu'r swyddog sydd wedi'i indemnio mewn perthynas â'r difenwad honedig o'r aelod neu'r swyddog ond caniateir ei ddarparu mewn perthynas â'r amddiffyniad gan yr aelod neu'r swyddog hwnnw o unrhyw honiad o ddifenwi a wnaed yn erbyn yr aelod neu'r swyddog hwnnw.
Materion sy'n mynd y tu hwnt i bwerau'r awdurdod perthnasol7
1
Er gwaethaf unrhyw gyfyngiad ar bwerau awdurdod perthnasol sy'n rhoi indemniad, caniateir i awdurdod perthnasol ddarparu indemniad i'r graddau yr oedd yr aelod neu'r swyddog o dan sylw—
a
yn credu bod y weithred, neu'r methiant i weithredu, o dan sylw o fewn pŵer yr awdurdod perthnasol, neu
b
pan fo'r weithred neu'r methiant â gweithredu yn cynnwys dyroddi neu awdurdodi unrhyw ddogfen sy'n cynnwys unrhyw ddatganiad ynghylch pwerau'r awdurdod perthnasol, neu unrhyw ddatganiad bod camau penodol wedi cael eu cymryd neu fod gofynion wedi cael eu bodloni, yn credu bod cynnwys y datganiad hwnnw yn wir,
a'i bod yn rhesymol i'r aelod neu'r swyddog hwnnw gredu hynny ar yr adeg y gweithredodd yr aelod neu'r swyddog hwnnw neu y methodd â gweithredu.
2
Caniateir darparu indemniad mewn perthynas â gweithred neu methiant i weithredu y ceir wedyn ei fod y tu hwnt i bwerau'r aelod neu'r swyddog dan sylw, ond dim ond i'r graddau yr oedd yr aelod neu'r swyddog yn credu'n rhesymol bod y weithred neu'r methiant â gweithredu dan sylw o fewn pwerau'r aelod hwnnw neu'r swyddog hwnnw ar yr adeg y gweithredodd yr aelod hwnnw neu'r swyddog hwnnw neu y methodd â gweithredu.
Telerau indemniad neu yswiriant8
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a (5) isod caiff telerau unrhyw indemniad a roddir (gan gynnwys unrhyw yswiriant a sicrheir) o dan y Gorchymyn hwn fod yn delerau y caiff yr awdurdod perthnasol gytuno arnynt.
2
Mae paragraffau (3), (4) a (5) yn gymwys pan fo unrhyw indemniad a roddir i unrhyw aelod neu swyddog (gan gynnwys unrhyw yswiriant a sicrheir ar gyfer yr aelod hwnnw neu'r swyddog hwnnw) yn effeithiol mewn perthynas ag amddiffyniad—
a
unrhyw gamau troseddol; neu
b
unrhyw gamau Rhan III.
3
Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad, ac unrhyw yswiriant a sicrheir, ar y telerau yn achos camau troseddol, os collfernir yr aelod neu'r swyddog dan sylw o dramgwydd troseddol ac ni wrthdroir y gollfarn honno o ganlyniad i unrhyw apêl, rhaid i'r aelod hwnnw neu i'r swyddog hwnnw ad-dalu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr (yn ôl y digwydd) am unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.
4
Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad a sicrheir unrhyw yswiriant, ar y telerau yn achos camau Rhan III, lle—
a
dyfernir, yn y camau hynny, bod yr aelod dan sylw wedi methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad ac ni wrthdroir y dyfarniad hwnnw o ganlyniad i unrhyw apêl, neu
b
mae'r aelod yn addef ei fod wedi methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad, ac
c
os cymerwyd mesurau disgyblu yn erbyn yr aelod hwnnwo ganlyniad i fethiant â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad,
rhaid i'r aelod hwnnw ad-dalu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr (yn ôl y digwydd) unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.
5
Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, darperir yr indemniad, a sicrheir unrhyw yswiriant, ar y telerau, yn achos camau Rhan III, lle—
a
dyfernir yn y camau hynny bod yr aelod dan sylw wedi methu â chydmffurfio â'r Cod Ymddygiad ac os na wrthdroir y dyfarniad hwnnw o ganlyniad i unrhyw apêl; neu
b
mae'r aelod yn addef ei fod wedi methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad; ac
c
mae'r aelod o dan sylw wedi'i geryddu neu ni chymerwyd mesurau disgyblu yn erbyn yr aelod hwnnw o ganlyniad i'w fethiant â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad;
caiff Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yr aelod benderfynu bod rhaid i'r aelod ad-adlu i'r awdurdod neu i'r yswiriwr unrhyw symiau a werir gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr mewn perthynas â'r camau hynny yn unol â'r indemniad neu'r yswiriant.
6
Pan fo aelod neu swyddog dan rwymedigaeth i ad-dalu i awdurdod perthnasol neu i yswiriwr yn unol â'r telerau a grybwyllir ym mharagraff (3), (4) a (5) uchod, bydd y symiau hynny yn adenilladwy gan yr awdurdod perthnasol neu gan yr yswiriwr (yn ôl y digwydd) fel dyled sifil.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)