Search Legislation

Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 3

YR ATODLENMeini prawf cydnabyddiaeth

Dull gweithredu cyrff cydnabyddedig

1.—(1Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre lle y cofnodir tarddiad brid neu sy'n llunio un o'r newydd, fod wedi sefydlu—

(a)system ar gyfer cofnodi pedigri a rhaid bod ganddo neu ganddi'r gallu i gyflawni'r gwiriadau angenrheidiol ar gyfer cofnodi pedigri;

(b)system ar gyfer nodi ceffylau;

(c)diffiniad o nodweddion y brid y mae'r llyfr gre yn ymdrin ag ef;

(ch)diffiniad o amcanion sylfaenol ei ddull o ddethol; a

(d)llinachau a gofnodir mewn un llyfr gre arall neu fwy, lle y bo'n angenrheidiol.

(2Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre, neu sy'n llunio un o'r newydd, ond nad yw'n cadw llyfr gre lle y cofnodir tarddiad y brid, gydymffurfio â'r egwyddorion a sefydlwyd o dan baragraff (1) gan y corff neu'r gymdeithas sy'n cadw'r llyfr gre lle y cofnodir tarddiad y brid.

(3Rhaid i unrhyw gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre neu sy'n llunio un o'r newydd fodloni'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod neu ei bod yn gweithredu'n effeithiol.

Rhaglenni gwella a dethol

2.  Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre neu sy'n llunio un o'r newydd—

(a)bod wedi cofrestru nifer digonol o geffylau i gyflawni rhaglen gwella neu ddethol neu i sicrhau parhad y brid pan dybir bod hyn yn angenrheidiol;

(b)gallu darparu'r data angenrheidiol ar gyfer cyflawni rhaglen gwella, dethol neu raglen sicrhau parhad; ac

(c)bod wedi sefydlu system ar gyfer darparu data sy'n caniatáu i geffylau gael eu gwerthuso at ddiben gwella, dethol a sicrhau parhad brid.

Trin bridwyr heb gamwahaniaethu

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid bod gan gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre neu sy'n llunio un o'r newydd reolau gweithdrefn sy'n darparu ar gyfer trin bridwyr heb gamwahaniaethu.

(2Os oes sawl corff neu gymdeithas mewn cysylltiad â brid penodol yn bodoli eisoes o fewn tiriogaeth y Gymuned, caniateir i reolau gweithdrefn corff neu gymdeithas ddarparu bod yn rhaid i geffylau gael eu geni mewn tiriogeth benodol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer eu cofnodi yn llyfr gre'r corff neu'r gymdeithas at ddibenion datgan genedigaeth.

(3Nid yw'r cymhwyster ym mharagraff (2) yn gymwys os at ddibenion atgenhedlu y cofnodir ceffyl yn y llyfr gre.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources