RHAN 6MABWYSIADU MAPIAU Sŵn STRATEGOL A CHYNLLUNIAU GWEITHREDU
Mabwysiadu mapiau sŵn strategol
23.—(1) Os yw'r Cynulliad o'r farn bod map sŵn strategol—
(a)a gyflwynwyd iddo yn unol â rheoliad 11 neu 12;
(b)a gyflwynwyd iddo yn unol â pharagraff (4); neu
(c)a wnaed neu a ddiwygiwyd ganddo,
yn bodloni gofynion rheoliad (4), rhaid iddo fabwysiadu'r map.
(2) Os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw map sŵn strategol a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 11 neu 12 neu baragraff (4) yn bodloni'r gofynion yn rheoliad 4 caiff—
(a)gwneud newidiadau i'r map a'i fabwysiadu; neu
(b)gwrthod y map.
(3) Os gwrthodir map sŵn strategol yn unol â pharagraff (2)(b) rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r awdurdod cymwys a'i cyflwynodd—
(a)o'r rheswm pam na fabwysiadwyd y map; a
(b)o'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid diwygio'r map a'i ailgyflwyno.
(4) Rhaid i'r sawl sy'n derbyn hysbysiad o dan baragraff (3) gyflwyno'r map sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio i'r Cynulliad erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i fap sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio fel y maent yn gymwys i fap sŵn strategol a gyflwynir yn unol â rheoliad 11 neu 12.
(6) Os yw'r Cynulliad yn gwneud newidiadau i—
(a)map sŵn strategol; neu
(b)map sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio,
rhaid iddo gymryd y cyfryw gamau y mae o'r farn eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod y map yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 4.
Mabwysiadu cynlluniau gweithredu
24.—(1) Os yw'r Cynulliad o'r farn bod cynllun gweithredu—
(a)a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 19(1)(b), 19(3)(b) neu 19(6);
(b)a gyflwynir iddo yn unol â pharagraff (5); neu
(c)a lunnir neu a ddiwygir ganddo,
yn bodloni gofynion rheoliad 15, caiff fabwysiadu'r cynllun gweithredu.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys—
(a)os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw cynllun gweithredu a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 19(1)(b), 19(3)(b) neu 19(6) yn bodloni gofynion rheoliad 15; neu
(b)os na fabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â pharagraff (1).
(3) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys rhaid i'r Cynulliad—
(a)wneud newidiadau i'r cynllun a'i fabwysiadu; neu
(b)gwrthod y cynllun.
(4) Os gwrthodir cynllun gweithredu yn unol â pharagraff (3)(b) rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r awdurdod cymwys a'i cyflwynodd—
(a)o'r rheswm pam na chafodd y cynllun ei fabwysiadu; a
(b)o'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid diwygio ac ailgyflwyno'r cynllun.
(5) Rhaid i'r sawl sy'n derbyn hysbysiad o dan baragraff (4) gyflwyno'r cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio i'r Cynulliad erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(6) Mae paragraffau (1) i (5) yn gymwys i gynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio fel y maent yn gymwys i gynllun gweithredu a gyflwynir yn unol â rheoliad 19(1)(b), 19(3)(b) neu 19(6).
(7) Os yw'r Cynulliad yn gwneud newidiadau i—
(a)cynllun gweithredu; neu
(b)cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio,
rhaid iddo gymryd y cyfryw gamau y mae o'r farn eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod y cynllun gweithredu'n cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn.