ATODLEN 1Y LLEIAF O'R GOFYNION AR GYFER MAPIO Sŵn STRATEGOL
Dehongli1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “grid” (“grid”) yw grid o bwyntiau fector—
- a
a chanddynt fylchau 10 metr wrth 10 metr rhyngddynt,
- b
a chanddynt gyfeiriad gofodol i system gyfeirio'r Grid Cenedlaethol Prydeinig a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans, a hynny fel pâr o gyfanrifau i ddangos mewn metrau Ddwyreiniau ac yna Ogleddiadau o'r tarddiad, ac
- c
sydd wedi'u halinio â fertigau 10 metr system gyfeirio'r Grid Cenedlaethol Prydeinig a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans a hynny fel bod y cyfeiriadau'n diweddu â'r Rhif sero;
- a
ystyr “y gellir eu golygu” (“editable”) yw eu bod ar fformat sy'n caniatáu cynhyrchu'n electronig (heb fod angen trin y fformat)—
- a
data Rhif iadol mewn tablau, a
- b
plotiau graffigol,
er mwyn arddangos yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 1.5, 1.6, 1.7, 2.5, 2.6 a 2.7 o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb.
- a
Gofynion cyffredinol ar gyfer mapiau sŵn strategol2
1
Rhaid i fapiau sŵn strategol a'u diwygiadau—
a
bodloni'r lleiaf o'r gofynion a osodir yn Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb; a
b
bod yn glir ac yn ddealladwy.
2
Wrth gymhwyso paragraff 1(a) mae unrhyw gyfeiriad yn Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb at—
a
Erthygl 8 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliadau 15, 17 ac 19 o'r Rheoliadau hyn;
b
Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliad 29 o'r Rheoliadau hyn.
Gofynion ar gyfer mapiau sŵn strategol i grynodrefi3
1
Dim ond i'r canlynol y mae'r paragraff hwn yn gymwys—
a
map sŵn strategol a wnaed o dan reoliad 7(1)(a), 7(2)(a), 12(1) neu 12(2); neu
b
diwygiad o'r cyfryw fap sŵn strategol.
2
Rhaid i fapiau sŵn strategol—
a
cynnwys (ar fformat electronig) yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 1.1 i 1.4 yn gynhwysol o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb; a
b
cynnwys ar fformat electronig ddata Rhif iadol y gellir eu golygu sy'n cynnwys y gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol ar grid.
Gofynion ar gyfer mapiau sŵn strategol i brif ffyrdd, prif reilffyrdd a phrif feysydd awyr4
1
Dim ond i'r canlynol y mae'r paragraff hwn yn gymwys—
a
unrhyw fap sŵn strategol a wnaed o dan—
i
rheoliad 7(1)(b) i (ch),
ii
rheoliad 7(2)(b) i (ch),
iii
rheoliad 11(2); neu
b
unrhyw ddiwygiad o'r cyfryw fap.
2
Rhaid i fapiau sŵn strategol—
a
cynnwys yr wybodaeth (ar fformat electronig) a ddisgrifir ym mharagraffau 2.1 i 2.4 yn gynhwysol o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb; a
b
cynnwys ar fformat electronig ddata Rhif iadol y gellir eu golygu sy'n cynnwys gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol ar grid.