ATODLEN 2DULLIAU ASESU AR GYFER DANGOSYDDION Sŵn

rheoliad 4

Rhagarweiniad1

1

Rhaid canfod gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol drwy gyfrifiannu (yn y safle asesu).

2

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “Argymhelliad” (“Recommendation”) yw Argymhelliad y Comisiwn 2003/613/EC dyddiedig 6 Awst 2003 ynghylch y canllawiau ar ddulliau cyfrifiannu interim diwygiedig ar gyfer sŵn diwydiannol, sŵn awyrennau, sŵn traffig ffyrdd a sŵn rheilffyrdd, a data gollyngiadau perthynol10;

  • ystyr “safle asesu” (“assessment position”) yw'r uchder asesu ym mharagraff 7 o Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb.

Dull asesu ar gyfer dangosyddion sŵn traffig ffyrdd2

Ar gyfer dangosyddion traffig ffyrdd rhaid defnyddio'r dull asesu “Calculation of road traffic noise” (Yr Adran Drafnidiaeth, 7 Mehefin 1988, Y Llyfrfa)11 wedi'i addasu gan ddefnyddio'r adroddiad “Method for converting the UK road traffic noise index LA10,18h to the EU noise indeces for road noise mapping” (DEFRA, 24 Ionawr 2006)12.

Dull asesu ar gyfer dangosyddion swn rheilffyrdd3

Ar gyfer dangosyddion sŵn rheilffyrdd rhaid defnyddio'r dull asesu “Calculation of railway noise” (Yr Adran Drafnidiaeth, 13 Gorffennaf 1995, Y Llyfrfa)13 wedi'i addasu fel a welir yn Ffigur 6.5 yn yr adroddiad “Rail and wheel roughness – implications for noise mapping based on the Calculation of Railway Noise procedure” (DEFRA, Mawrth 2004)14.

Dulliau asesu ar gyfer dangosyddion sŵn awyrennau4

Ar gyfer sŵn awyrennau rhaid defnyddio'r dull asesu “Report on Standard Method of Computing Noise Contours around Civil Airports” (Ailargraffiad, Y Gynhadledd Ewropeaidd ar Hedfan Sifil, 2-3 Gorffennaf 1997)15 a hynny'n unol â pharagraff 2.4 o'r Atodiad i'r Argymhelliad.

Dulliau asesu ar gyfer dangosyddion sŵn diwydiannol a dangosyddion sŵn porthladdoedd5

1

Ar gyfer dangosyddion sŵn diwydiannol a dangosyddion sŵn porthladdoedd rhaid defnyddio'r dull lledaenu o asesu a ddisgrifir yn “ISO 9613-2:1996 Acoustics – Attenuation of sound during propagation outdoors – Part 2: General method of calculation” (International Standards Organisation, 1996) a hynny'n unol â pharagraff 2.5 o'r Atodiad i'r Argymhelliad.

2

Gellir cael data gollyngiadau sŵn addas (data mewnbwn) ar gyfer “ISO 9613-2:1996 Acoustics – Attenuation of sound during propagation outdoors – Part 2: General method of calculation” naill ai o fesuriadau a wneir yn unol ag un o'r dulliau canlynol:

a

“Acoustics. Determination of sound power levels of multisource industrial plants for evaluation of sound pressure levels in the environment. Engineering method” (BS ISO 8297:1994, Y Sefydliad Safonau Prydeinig);

b

“Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Engineering method in an essentially free field over a reflecting plane” (BS EN ISO 3744: 1995, Y Sefydliad Safonau Prydeinig);

c

“Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Survey method using an enveloping measurement surface over a reflecting plane” (BS EN ISO 3746:1996, Y Sefydliad Safonau Prydeinig),

neu drwy ddefnyddio Arweinlyfr 10 o “Good Practice Guide for Strategic Noise Mapping and the Production of Associated Data on Noise Exposure Version 2, Position Paper Final Draft” (Asesiad Gweithgor y Comisiwn Ewropeaidd o Fod o Fewn Clyw i Sŵn, 13 Ionawr 2006).