2006 Rhif 2796 (Cy.235)
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 27 Hydref 2006.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “Atodlen 1” neu “Atodlen 2” yn gyfeiriad at yr Atodlen briodol sy'n gysylltiedig â'r Gorchymyn hwn.
4
Yn y Gorchymyn hwn:
a
ystyr “Rheoliad y Cyngor 1251/99” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1251/1999 sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol3 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/20034;
b
ystyr “Rheoliad y Cyngor 1254/99” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo5 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1455/20016; Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1512/20017; Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2345/20018; y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt9; Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/200310 a'r diwygiadau a wnaed gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/200311 i Erthygl 10(1) ac Atodiadau 1 a 2 o Reoliad y Cyngor 1254/99;
c
ystyr Rheoliad y Cyngor 2529/01” (“Council Regulation 2529/01”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2529/2001 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr12 fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt13;
ch
mae “blwyddyn farchnata” i'w dehongli yn unol â “marketing year” yn Rheoliad y Cyngor 1251/1999.
Asesiad o gapasiti cynhyrchiol tir2
1
Mae'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu capasiti cynhyrchiol uned o dir amaethyddol sydd wedi'i lleoli yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” yn is-baragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
2
Am y cyfnod o 12 mis gan ddechrau ar 12 Medi 2004, pan ellir defnyddio'r tir o dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o Atodlen 1, yna—
a
yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
b
y swm a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn perthnasol i Atodlen 1 fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
3
Am y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2004, pan fo tir y gellid ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu pan fo wedi'i ddynodi'n neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o Atodlen 1, yna —
a
yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
b
y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
4
Am y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2005, pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yna—
a
yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
b
y swm a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 2 gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fel y'i darllenir gydag unrhyw Nodyn perthnasol i Atodlen 2 fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
5
Am y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2005, pan fo tir y gellid ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu pan fo wedi'i ddynodi'n neilltir yn y flwyddyn farchnata 2004/2005, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yna—
a
yr uned a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
b
y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o Atodlen 2 gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd y swm a benderfynir fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
Dirymu3
Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 200414 drwy hyn wedi'i ddirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199815.
ATODLEN LUNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | |
---|---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net o uned gynhyrchu (£) | |
1. Da byw | |||
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel) | buwch | 260 | |
Buchod bridio cig eidion : | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 200116 | buwch | 31 (1) | |
Ar dir arall | buwch | 80 (1) | |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | pen | 63 (2) | |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | pen | 45 (3) | |
Mamogiaid: | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | mamog | 14 (4) | |
Ar dir arall | mamog | 21 (5) | |
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) | pen | 1.05 | |
Moch: | |||
Hychod a banwesi torrog | hwch neu fanwes | 95 | |
Moch porc | pen | 1.90 | |
Moch torri | pen | 3.50 | |
Moch bacwn | pen | 5.50 | |
Dofednod: | |||
Ieir dodwy | aderyn | 1.25 | |
Brwyliaid/ieir bwyta | aderyn | 0.15 | |
Cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.30 | |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 3.00 | |
2. Cnydau âr fferm | |||
Haidd | hectar | 199 (6) | |
Ffa | hectar | 175 (7) | |
Had porfa | hectar | 120 | |
Ceirch | hectar | 131 (8) | |
Rêp had olew | hectar | 188 (9) | |
Pys: | |||
Sych | hectar | 201 (10) | |
Dringo | hectar | 175 | |
Tatws: | |||
Cynnar cyntaf | hectar | 900 | |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) | hectar | 780 | |
Betys siwgr | hectar | 270 | |
Gwenith | hectar | 266 (11) | |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored | |||
Ffa cyffredin | hectar | 575 | |
Ysgewyll Brwsel | hectar | 1600 | |
Bresych, bresych Safwy a brocoli blaguro | hectar | 2000 | |
Moron | hectar | 3100 | |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf | hectar | 1000 | |
Seleri | hectar | 8000 | |
Cennin | hectar | 3600 | |
Letus | hectar | 4150 | |
Nionod/Winwns: | |||
Bylbiau sych | hectar | 1305 | |
Salad | hectar | 3800 | |
Pannas | hectar | 3250 | |
Riwbob (naturiol) | hectar | 6900 | |
Maip ac erfin/swêds | hectar | 1500 | |
4. Ffrwythau'r berllan | |||
Afalau: | |||
Seidr | hectar | 380 | |
Coginio | hectar | 1250 | |
Melys | hectar | 1400 | |
Ceirios | hectar | 900 | |
Gellyg | hectar | 1000 | |
Eirin | hectar | 1250 | |
5. Ffrwythau meddal | |||
Cyrans Duon | hectar | 850 | |
Mafon | hectar | 3100 | |
Mefus | hectar | 4200 | |
6. Amrywiol | |||
Hopys | hectar | 1700 | |
7. Tir Porthiant | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | hectar | Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | |
8. Neilltir | |||
Tir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fo'r tir hwnnw'n cael ei ddefnyddio (yn unol ag erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99) i ddarparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu o fewn y Gymuned gynhyrchion nad oeddent wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid | hectar | 37 | |
NODIADAU I ATODLEN 1 | |||
(1) Didynner £135 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglyn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1254/99 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo. Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglyn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99. Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99 . | |||
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Didynner £115 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor 1254/99. Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu. Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu. Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis ac nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £115 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol. Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis ac yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu'n gyntaf £115 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £115 ac (os oedd yr incwm blynyddol net yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm dad-ddwysáu) y swm o £27 (pan fo'r premiwm dad-ddwysáu hwnnw wedi'i dalu ar y raddfa is) neu £54 (pan fo'r premiwm dad-ddwysáu hwnnw wedi'i dalu ar y raddfa uwch). | |||
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (ni waeth beth fo'u hoedran) a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis, rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn. | |||
(4) Didynner £19 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colled incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad y Cyngor 2529/01 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr. | |||
(5) Didynner £15 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm blynyddol defaid. | |||
(6) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn ag iawndal y caniateir i gynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor 1251/99. | |||
(7) Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | |||
(8) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | |||
(9) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | |||
(10) Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | |||
(11) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. |
ATODLEN 2UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | |
---|---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu (£) | |
1. Da byw | |||
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel): | buwch | 260 | |
Buchod bridio cig eidion: | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | buwch | 31 (1) | |
Ar dir arall | buwch | 80 (1) | |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | pen | 63 (2) | |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | pen | 45 (3) | |
Mamogiaid: | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | mamog | 14 (4) | |
Ar dir arall | mamog | 21 (5) | |
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) | pen | 1.05 | |
Moch: | |||
Hychod a banwesi torrog | hwch neu fanwes | 95 | |
Moch porc | pen | 1.90 | |
Moch torri | pen | 3.50 | |
Moch bacwn | pen | 5.50 | |
Dofednod: | |||
Ieir dodwy | aderyn | 1.25 | |
Brwyliaid/ieir bwyta | aderyn | 0.15 | |
Cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.30 | |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 3.00 | |
2. Cnydau âr fferm | |||
Haidd | hectar | 199 (6) | |
Ffa | hectar | 175 (7) | |
Had porfa | hectar | 120 | |
Ceirch | hectar | 131 (8) | |
Rêp had olew | hectar | 188 (9) | |
Pys: | |||
Sych | hectar | 201 (10) | |
Dringo | hectar | 175 | |
Tatws: | |||
Cynnar cyntaf | hectar | 900 | |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) | hectar | 780 | |
Betys siwgr | hectar | 270 | |
Gwenith | hectar | 266 (11) | |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored | |||
Ffa cyffredin | hectar | 575 | |
Ysgewyll Brwsel | hectar | 1600 | |
Bresych, bresych Safwy a brocoli blaguro | hectar | 2000 | |
Moron | hectar | 3100 | |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf | hectar | 1000 | |
Seleri | hectar | 8000 | |
Cennin | hectar | 3600 | |
Letus | hectar | 4150 | |
Nionod/Winwns: | |||
Bylbiau sych | hectar | 1305 | |
Salad | hectar | 3800 | |
Pannas | hectar | 3250 | |
Riwbob (naturiol) | hectar | 6900 | |
Maip ac erfin/swêds | hectar | 1500 | |
4. Ffrwythau'r berllan | |||
Afalau: | |||
Seidr | hectar | 380 | |
Coginio | hectar | 1250 | |
Melys | hectar | 1400 | |
Ceirios | hectar | 900 | |
Gellyg | hectar | 1000 | |
Eirin | hectar | 1250 | |
5. Ffrwythau meddal | |||
Cyrans Duon | hectar | 850 | |
Mafon | hectar | 3100 | |
Mefus | hectar | 4200 | |
6. Amrywiol | |||
Hopys | hectar | 1700 | |
7. Tir Porthiant | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | hectar | Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | |
8. Neilltir | |||
Tir a oedd, ym mlwyddyn farchnata 2004/2005, wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fo'r tir hwnnw wedi'i ddefnyddio (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99) i ddarparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu o fewn y Gymuned gynhyrchion nad oeddent wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid | hectar | 37 | |
NODIADAU I ATODLEN 2 | |||
(1) Didynner £135 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. | |||
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Didynner £115 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. Yn achos anifeiliaid sydd—
cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £115 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol. Yn achos anifeiliaid sydd—
cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu'n gyntaf £115 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £115 ac (os byddai'r incwm blynyddol net yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm dad-ddwysáu petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004) y swm o £27 (pan fyddai'r premiwm dad-ddwysáu yn cael ei dalu ar y raddfa is) neu £54 (pan fyddai'r premiwm dad-ddwysáu yn cael ei dalu ar y raddfa uwch). | |||
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (ni waeth beth fo'u hoedran) a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn. | |||
(4) Didynner £19 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad y Cyngor 2529/01 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. | |||
(5) Didynner £15 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm blynyddol defaid petai'r premiwm hwnnw yn dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. | |||
(6) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r iawndal y caniateir i gynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) ac y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor 1251/99 petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
(7) Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
(8) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
(9) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
(10) Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
(11) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)