Darpariaethau trosiannol: Deddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 19788

1

Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1978 gan—

a

adran 11 (sy'n diwygio adran 3 o Ddeddf 1978);

b

adran 12 (sy'n diwygio adran 4 o Ddeddf 1978);

c

adran 13 (sy'n mewnosod adran 4A (canllawiau) yn Neddf 1978),

o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 3 a 4 o Ddeddf 1978 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.

2

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gerbyd y mae awdurdod lleol, a hynny cyn 27 Hydref 2006—

a

wedi rhoi hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 3(2) o Ddeddf 1978; neu

b

wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 3(5) o'r Ddeddf honno.