Search Legislation

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Cynllun hwn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;

ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth i gais;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1);

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—

(a)

sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(2),

(b)

neu—

(i)

sydd o dan berchenogaeth lwyr neu rannol personau sy'n gymwys i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno, ond

(ii)

nad yw'n gwch sydd, yn unig o ganlyniad i gymhwyso iddo adran 1(1)(c) o'r Ddeddf honno yn rhinwedd ei gofrestru o dan ddeddf unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, yn cyfrif fel llong Brydeinig at ddibenion y Ddeddf honno;

ac y mae ei borthladd gweinyddu yng Nghymru ar y dyddiad cymhwyso;

ystyr “darparwr y Cynulliad” (“the Assembly provider”) yw darparwr a gosodwr dyfeisiau olrhain drwy loeren a ddewisir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliad;

mae i “dyfais olrhain drwy loeren” yr ystyr sydd i “satellite-tracking device” yn y Rheoliad;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) mewn perthynas â chwch pysgota, yw ei berchennog, ei siartrwr (os oes un), neu ei feistr neu gynrychiolydd unrhyw un ohonynt;

ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir o ran cwch pysgota o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(3);

ystyr “y Rheoliad”(“the Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2244/2003 sy'n gosod darpariaethau manwl ynghylch Systemau Monitro Llongau ar sail lloeren(4); ac

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw swyddog a awdurdodir yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Cynllun hwn.

(2Mae unrhyw rwymedigaeth sydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yn rhwymedigaeth i sicrhau bod y deunydd ar gael mewn dull a fydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ei gwneud yn rhesymol debygol y bydd y deunydd yn cael ei weld gan y rhai y gallai'r Cynllun hwn fod yn gymwys iddynt, ac mae cyhoeddi'r deunydd ymlaen llaw a chyn i'r Cynllun ddod i rym i'w drin at ddibenion y Cynllun hwn fel pe bai wedi'i gyflawni o dan y Cynllun.

(4)

OJ Rhif L333, 20.12.2003, t.17.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources