2006 Rhif 2800 (Cy.239)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4) ac 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 19961 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 20 Hydref 2006.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant a wneir i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ar 20 Hydref 2006 neu ar ôl hynny3.

Diwygiadau2

Diwygir Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 19964 yn unol â'r rheoliadau a ganlyn.

Rheoliad 23

Yn rheoliad 2 (ffurflenni cais am grant)5, ym mharagraff (1) ar ôl “Schedule” rhodder “or a form to the like effect”.

Yr Atodlen4

Mae'r ffurflen a welir yn yr Atodlen yn cael ei diwygio yn y modd a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLEN

Rheoliad 4

1

Yn y testun sy'n rhagflaenu Rhan 1, yn lle'r geiriau “qualifying park home” ym mhob man lle digwyddant, rhodder “caravan”.

2

Yng nghwestiwn 1.7, yn lle'r geiriau “a qualifying park home” rhodder “a caravan”.

3

Yn y tabl sy'n dilyn cwestiwn 2.1, yn lle'r geiriau “Disabled adaptations to a qualifying houseboat or qualifying park home ” rhodder “Disabled adaptations to a qualifying houseboat or caravan”.

4

Yn y tabl cyntaf sy'n dilyn cwestiwn 2.2, yn lle'r geiriau “Adaptations to a house, flat, qualifying houseboat or qualifying park home” rhodder “Adaptations to a house, flat, qualifying houseboat or caravan”.

5

Yn lle Nodyn 5B, rhodder—

5B

A “caravan” is defined in section 58. This expression—

a

means a caravan within the meaning of Part 1 of the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 (disregarding the amendment made by section 13(2) of the Caravan Sites Act 1968); and

b

includes any yard, garden, outhouses and appurtenances belonging to it or usually enjoyed with it.

6

Yn nodyn 10, yn lle brawddeg olaf yr ail baragraff, rhodder—

  • The definition includes spouses and civil partners; persons who live together as husband and wife or as if they were civil partners; parents; grandparents; children; grandchildren; brothers; sisters; uncles; aunts; nephews; and nieces.

7

Yn nodiadau 19, 36A a 36B, yn lle'r geiriau “qualifying park home” ym mhob man lle digwyddant, rhodder “caravan”.

8

Yn nodyn 49, yn lle'r frawddeg gyntaf, rhodder—

  • A partner is a person who lives with you as husband, wife, or civil partner, whether or not you are married to or a civil partner of that person.

9

Yn nodyn 90E, hepgorer y geiriau “married or unmarried” ym mhob man lle digwyddant, ac ym mharagraff (b) yn lle “them” rhodder “the couple”.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 (O.S. 1996/2891) (“y prif Reoliadau”), sy'n gosod y ffurflen ragnodedig ar gyfer ceisiadau am grant o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (“y Ddeddf”). Mae'r cwestiynau a'r nodiadau sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflen ragnodedig yn adlewyrchu'r rheolau prawf moddion ar gyfer ceisiadau am grant sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890), fel y'i diwygiwyd.

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn gymwys drwy reoliad 1 i geisiadau am grant sy'n cael eu gwneud i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ar y dyddiad pan ddeuant i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae'r diwygiad a wneir gan reoliad 3 yn caniatáu i awdurdodau o'r fath ddefnyddio ffurflenni a ddyluniwyd ganddynt eu hunain sy'n cael yr un effaith (ac felly, oherwydd rheoliad 3 o'r prif reoliadau, sy'n cynnwys yr un manylion) â'r ffurflen ragnodedig a geir yn yr Atodlen i'r prif Reoliadau.

Drwy reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, diwygir yr Atodlen honno (a) er mwyn adlewyrchu newidiadau a wnaed i'r Ddeddf gan adran 224 o Ddeddf Tai 2004, gan osod yn lle cyfeiriadau at “qualifying park home” yn y prif Reoliadau, gyfeiriadau at “caravan”; a (b) er mwyn gwneud newidiadau o ganlyniad i greu'r berthynas gyfreithiol newydd o bartneriaeth sifil drwy'r Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004.