Brechu adar sw9
1
Os yw'r amod ym mharagraff (2) wedi'i fodloni, caiff y Cynulliad Cenedlaethol—
a
brechu unrhyw adar mewn unrhyw swau y mae'n credu ei bod yn angenrheidiol eu brechu (ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i feddianwyr y swau hynny);
b
ei gwneud yn ofynnol (drwy hysbysiad ysgrifenedig i feddiannydd unrhyw sw) i unrhyw aderyn yn y sw gael ei frechu; neu
c
trwyddedu meddiannydd sw i frechu unrhyw aderyn yn y sw.
2
Yr amod yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal asesiad risg ac yn credu bod risg y byddai ffliw adar yn cael ei drosglwyddo i adar sw neu i gategorïau o'r adar hynny.
3
Fel rhan o'i asesiad risg, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bwyso a mesur a yw sw—
a
ar hynt ymfudo;
b
yn agos at unrhyw grynofa ddŵr lle gall adar mudol ymdyrru;
c
wedi'i leoli mewn ardal lle mae dwysedd adar mudol yn uchel.
4
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu, mewn hysbysiad neu drwydded o dan y rheoliad hwn—
a
nifer a rhywogaeth yr adar sydd i'w brechu;
b
yr amodau bioddiogelwch sydd i'w bodloni yn y sw neu unrhyw ran o'r sw;
c
amodau ynglyn â storio brechlyn a'i roi.
5
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y brechu'n cael ei wneud yn unol â'r cynllun brechu ataliol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn 2006/474/EC ynghylch mesurau i atal ffliw adar pathogenig iawn a achosir gan firws ffliw A o'r is-deip H5N1 rhag ymledu i adar a gedwir mewn swau a mangreoedd cyrff, sefydliadau a chanolfannau a gymeradwywyd yn yr Aelod-wladwriaethau ac yn diddymu Penderfyniad 2005/744/EC13.