xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Tenantiaethau esempt neu drwyddedau esempt at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004

2.—(1Mae tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd sydd wedi'i chynnwys mewn tŷ yn denantiaeth esempt neu'n drwydded esempt at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) os yw'n dod o dan unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol —

(a)tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd sy'n ddarostyngedig i orchymyn gwahardd a wnaed o dan adran 20 o'r Ddeddf ac nad yw ei weithredu wedi'i atal yn unol ag adran 23 o'r Ddeddf;

(b)tenantiaeth a ddisgrifir yn unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988(1) ac na all fod yn denantiaeth sicr yn rhinwedd adran 1(2) o'r Ddeddf honno —

(i)paragraff 4 (tenantiaethau busnes);

(ii)paragraff 5 (mangreoedd trwyddedig)(2);

(iii)paragraff 6 (tenantiaethau tir amaethyddol); neu

(iv)paragraff 7 (tenantiaethau daliadau amaethyddol(3) etc.);

(c)tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd a reolir neu a lywir gan —

(i)awdurdod tai lleol;

(ii)awdurdod heddlu a sefydlwyd o dan adran 3 o Ddeddf Heddlu 1996(4);

(iii)awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(5); neu

(iv)corff gwasanaeth iechyd o fewn ystyr “health service body” yn adran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(6);

(ch)tenantiaeth neu drwydded tŷ nad yw'n dŷ mewn amlfeddiannaeth at unrhyw un o ddibenion y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1) yn rhinwedd —

(v)paragraff 3 o Atodlen 14 i'r Ddeddf (adeiladau a reoleiddir heblaw o dan y Ddeddf); neu

(vi)paragraff 4(1) o'r Atodlen honno (adeiladau sydd wedi'u meddiannu gan fyfyrwyr)(7);

(d)tenantiaeth tŷ neu annedd —

(i)pan fo tymor llawn y denantiaeth yn fwy nag 21 o flynyddoedd;

(ii)pan na fo'r brydles yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r landlord i terfynu'r denantiaeth, ac eithrio drwy ei fforffedu, yn gynharach na diwedd y tymor; a

(iii)pan fo'r tŷ wedi'i feddiannu neu'r annedd wedi'i meddiannu gan berson y rhoddwyd y denantiaeth iddo neu i olynydd y person hwnnw yn y teitl neu unrhyw aelodau o deulu'r person hwnnw;

(dd)tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd a roddwyd gan berson i berson sy'n aelod o deulu'r person cyntaf hwnnw —

(i)pan fo'r person y mae'r denantiaeth neu'r drwydded wedi'i rhoi iddo yn meddiannu'r tŷ neu'r annedd fel ei unig neu brif breswylfan;

(ii)pan fo'r person sy'n rhoi'r denantiaeth neu'r drwydded yn rhydd-ddeiliad neu ddeiliad prydles ar y tŷ neu'r annedd nad yw ei thymor llawn yn hwy nag 21 o flynyddoedd; a

(iii)pan na fo'r brydles y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (ii) yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r landlord i terfynu'r denantiaeth, ac eithrio drwy ei fforffedu, yn gynharach na diwedd y tymor;

(e)tenantiaeth neu drwydded a roddir i berson mewn perthynas â meddiannaeth y person hwnnw ar dŷ neu annedd fel cartref gwyliau; neu

(f)tenantiaeth neu drwydded y mae'r meddiannydd yn rhannu unrhyw lety sydd o dan ei thelerau â'r landlord neu'r trwyddedwr neu aelod o deulu'r landlord neu deulu'r trwyddedwr.

(2At ddibenion yr erthygl hon —

(a)mae person yn aelod o'r un teulu â pherson arall —

(i)os yw'r personau hynny'n byw fel cwpl;

(ii)os yw'r naill ohonynt yn berthynas i'r llall; neu

(iii)os yw'r naill yn un aelod o gwpl, neu'n berthynas i'r aelod hwnnw, a'r llall yn berthynas i aelod arall y cwpl;

(b)ystyr “cwpl” (“couple”) yw dau berson sy'n briod â'i gilydd neu'n byw gyda'i gilydd fel gwr a gwraig (neu mewn perthynas gyfatebol yn achos personau o'r un rhyw);

(c)ystyr “perthynas” (“relative”) yw rhiant, taid neu nain (tad-cu neu fam-gu), plentyn, wyr neu wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai, nith, neu gefnder neu gyfnither;

(ch)mae perthynas hanner gwaed i'w drin fel perthynas gwaed coch cyfan;

(d)mae llysblentyn person i'w drin fel plentyn y person hwnnw;

(dd)mae meddiannydd yn rhannu llety â pherson arall os yw'r meddiannydd yn cael defnyddio amwynder yn gyffredin â'r person hwnnw (p'un ai'n gyffredin ag eraill hefyd ai peidio); ac

(e) mae “amwynder” (“amenity”) yn cynnwys toiled, cyfleusterau ymolchi personol, cegin neu ystafell fyw ond nid yw'n cynnwys unrhyw fan a ddefnyddir i storio, grisiau, coridor, neu fynedfa arall.

(2)

Mae paragraff 5 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 wedi'i ddiwygio gan adran 198(1) o Ddeddf Trwyddedu 2003 a pharagraff 108 o Atodlen 6 iddi (p. 17).

(3)

Mae paragraff 7 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 wedi'i ddiwygio gan adran 40 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 a pharagraff 34 o Atodlen 6 iddi (p. 8).

(7)

Gweler adran 254(5) o'r Ddeddf.