Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2006.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aderyn caeth arall” (“other captive bird”) yw unrhyw aderyn a gedwir yn gaeth ac nad yw'n ddofednyn, ac mae'n cynnwys aderyn anwes ac aderyn a gedwir ar gyfer sioeau, rasys, arddangosfeydd, cystadlaethau, ar gyfer bridio neu i'w werthu;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf, ac oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;
ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd felly gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “cynllun brechu” (“vaccination plan”) yw naill ai cynllun brechu brys neu gynllun brechu ataliol;
mae i “cynllun brechu ataliol” yr un ystyr ag sydd i “preventative vaccination plan” yn Erthygl 56 o'r Gyfarwyddeb;
mae i “cynllun brechu brys” yr un ystyr ag sydd i “emergency vaccination plan” yn Erthygl 53 o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
ystyr “dofednod” (“poultry”) yw'r holl adar sy'n cael eu magu neu'u cadw'n gaeth i gynhyrchu cig i'w fwyta neu wyau i'w bwyta, cynhyrchu cynhyrchion eraill, ailstocio cyflenwadau o adar hela neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu'r categorïau hyn o adar;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 19813;
ystyr “ffliw adar” (“avian influenza”) yw haint mewn dofednod neu adar caeth eraill a achosir gan unrhyw firws ffliw A o'r is-deipiau H5 neu H7 neu firws sydd â mynegrif pathogenedd mewnwythiennol uwch nag 1.2 mewn cywion ieir chwe wythnos oed;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau Cymunedol i reoli ffliw adar a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EEC4;
ystyr “hysbysiad brechu” (“vaccination notice”) yw naill ai hysbysiad brechu brys neu hysbysiad brechu ataliol;
mae i “hysbysiad brechu ataliol” (“preventive vaccination notice”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1)(b)(ii);
mae i “hysbysiad brechu brys” (“emergency vaccination notice”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 6(1)(b);
ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda dofednod, y mae eu cig wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad neu le;
ystyr “meddiannydd” (“occupier”) o ran unrhyw fangre yw'r person sydd â gofal y fangre honno;
ystyr “parth brechu” (“vaccination zone”) yw naill ai parth brechu brys neu barth brechu ataliol;
mae i “parth brechu ataliol” (“preventive vaccination zone”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1)(b)(i);
mae i “parth brechu brys” (“emergency vaccination zone”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 6(1)(a); ac
mae i “trwydded brechu” (“vaccination licence”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1)(a).
2
Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy'n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddiffinnir yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb.
Cwmpas y Rheoliadau3
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i adar a gedwir mewn sw yn ystyr Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Ataliol) (Cymru) 20065.
Datganiadau, hysbysiadau a thrwyddedau4
1
O ran datganiadau parth brechu o dan y Rheoliadau hyn —
a
rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;
b
caniateir eu diwygio, neu'u dirymu, drwy ddatganiad pellach, ar unrhyw adeg;
c
rhaid iddynt ddynodi hyd a lled y parth a ddatgenir;
ch
rhaid iddynt restru neu gyfeirio at y mesurau sy'n gymwys yn y parth ac, os ydynt yn gymwys mewn rhan yn unig o'r parth, bennu ym mha ran y maent yn gymwys; a
d
rhaid iddynt ddatgan pa gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt.
2
Rhaid i hysbysiadau a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig a chaniateir eu diwygio neu eu dirymu, drwy hysbysiad pellach, ar unrhyw adeg.
3
O ran hysbysiadau brechu a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn—
a
rhaid iddynt restru neu gyfeirio at y mesurau sy'n gymwys yn y fangre ac, os ydynt yn gymwys i ran yn unig o'r fangre, rhaid iddynt bennu i ba ran y maent yn gymwys; a
b
rhaid iddynt ddatgan pa gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt.
4
O ran trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn—
a
rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;
b
caniateir iddynt fod yn gyffredinol neu'n benodol;
c
caniateir iddynt fod yn ddarostyngedig i unrhyw amod y mae'r person sy'n rhoi'r drwydded yn barnu ei fod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar; a
ch
caniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu, yn ysgrifenedig, ar unrhyw adeg,
ac yn achos trwyddedau brechu, rhaid iddynt hefyd bennu'r materion a nodir ym mharagraff (3)(a) a (b).
5
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod hyd a lled unrhyw barth brechu a ddatgenir o dan y Rheoliadau hyn, natur y cyfyngiadau a'r gofynion sy'n gymwys ynddo a dyddiadau ei ddatgan a'i dynnu yn ôl yn cael eu cyhoeddi.
6
Mae trwyddedau symud a roddir yn yr Alban neu'n Lloegr ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau symud a roddid o dan y Rheoliadau hyn, ond caiff arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod y cyfryw drwydded, gan ei gyfarwyddo i'w symud i'r fangre a bennir yn yr hysbysiad a'i gadw yno neu ei symud y tu allan i Gymru.
7
Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded symud benodol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—
a
cadw'r drwydded, neu gopi ohoni, gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig;
b
os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd awdurdod lleol, arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o swyddogion eraill y Cynulliad Cenedlaethol, ddangos y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni gael ei gymryd; ac
c
os gofynnir iddo wneud hynny, roi ei enw a'i gyfeiriad.
8
Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded symud gyffredinol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—
a
cadw gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion—
i
yr hyn sy'n cael ei symud (gan gynnwys faint ohono);
ii
dyddiad y symudiad;
iii
enw'r traddodwr;
iv
cyfeiriad y fangre y dechreuwyd y symudiad ohoni;
v
enw'r traddodai; a
vi
cyfeiriad y gyrchfangre;
b
dangos, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd awdurdod lleol, arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o swyddogion eraill y Cynulliad Cenedlaethol, y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd; ac
c
os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi ei enw a'i gyfeiriad.
Gwahardd brechu5
1
Ni chaiff neb frechu unrhyw aderyn yn erbyn ffliw adar ac eithrio pan fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol neu wedi'i drwyddedu ganddo.
2
Nid yw'r gwaharddiad yn gymwys i'r canlynol—
a
unrhyw beth a wneir o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 19986; neu
b
rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan reoliad 8(3) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 20057.
Brechu brys6
1
Pan fodlonir yr amod ym mharagraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau'r risg o ledu ffliw adar—
a
datgan parth yng Nghymru gyfan neu mewn rhan ohoni, pan fo'r ardaloedd hynny yn cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny ar frys yn erbyn ffliw adar (“parth brechu brys”); neu
b
cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre lle y mae dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny ar frys yn erbyn ffliw adar (“hysbysiad brechu brys”).
2
Yr amod yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud asesiad risg sy'n dangos bod bygythiad arwyddocaol ac uniongyrchol y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru oherwydd—
a
brigiad ffliw adar yn y Deyrnas Unedig;
b
brigiad ffliw adar mewn Aelod-wladwriaeth gyfagos; neu
c
bod presenoldeb ffliw adar mewn dofednod neu adar caeth eraill mewn trydedd wlad gyfagos wedi'i gadarnhau.
3
Pan fo parth brechu brys yn cael ei ddatgan, neu pan gyflwynir hysbysiad brechu brys ar ôl i gynllun brechu brys gael ei ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd a'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 53 a 54 o'r Gyfarwyddeb, rhaid datgan neu gyflwyno'r hysbysiad yn unol â darpariaethau'r cynllun hwnnw.
4
Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu brys yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.
Brechu ataliol7
1
Pan fodlonir yr amodau ym mharagraff (2) —
a
caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â'r cynllun brechu ataliol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), roi trwydded i feddiannydd unrhyw fangre i frechu dofednod, adar caeth eraill neu unrhyw gategori o ddofednod neu adar caeth eraill yn y fangre honno (“trwydded brechu”);
b
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â'r cynllun brechu ataliol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) ac os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau'r risg o ledu ffliw adar—
i
datgan parth yng Nghymru gyfan neu mewn rhan ohoni, pan fo'r ardaloedd hynny yn cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny yn ataliol yn erbyn ffliw adar (“parth brechu ataliol”); neu
ii
cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre lle y mae dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny yn ataliol yn erbyn ffliw adar (“hysbysiad brechu ataliol”).
2
Dyma'r amodau—
a
bod asesiad risg wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n dangos bod unrhyw ddofednod neu adar caeth eraill mewn unrhyw ran o Gymru yn agored i risg ffliw adar;
b
bod cynllun brechu ataliol wedi'i ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd ac wedi'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 56 a 57 o'r Gyfarwyddeb.
3
Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ataliol yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.
Pwer i wneud brechu'n ofynnol8
1
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy ddatganiad parth brechu neu hysbysiad brechu, ei gwneud yn ofynnol bod dofednod neu adar caeth eraill yn y parth hwnnw neu yn y fangre honno sy'n destun yr hysbysiad hwnnw gael eu brechu.
Mesurau sy'n gymwys mewn parth brechu neu i fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu9
1
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn datganiad parth brechu neu mewn hysbysiad brechu, neu drwydded brechu, bennu pwy sydd i wneud y gwaith brechu.
2
Mewn datganiad parth brechu, hysbysiad brechu neu drwydded brechu, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol ag unrhyw gynllun brechu a gymeradwywyd, osod unrhyw fesurau o fewn y parth brechu, neu'r fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu, sy'n angenrheidiol er mwyn —
a
rheoli'r math a'r maint o frechlyn i'w ddefnyddio;
b
rheoli dulliau cyflenwi a storio'r brechlyn a dulliau gwaredu unrhyw frechlyn nas defnyddiwyd;
c
rheoli rhoi'r brechlyn i'r adar;
ch
sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw;
d
sicrhau bod y samplau angenrheidiol o adar yn cael eu cymryd;
dd
sicrhau bod modd adnabod adar sydd wedi'u brechu;
e
sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei hysbysu pan fod y gwaith brechu wedi'i gwblhau;
f
rheoli symudiad unrhyw ddofednod, adar caeth eraill neu'u cynnyrch o'r naill fangre mewn parth i'r llall mewn parth, i mewn i'r parth hwnnw neu allan ohono neu i mewn i'r fangre honno sy'n destun yr hysbysiad neu'r drwydded neu allan ohoni;
ff
rheoli rhyddhau dofednod neu adar caeth eraill i'r gwyllt;
g
sicrhau bioddiogelwch digonol pan fydd unrhyw ddofednod, unrhyw adar caeth eraill neu'u cynnyrch yn cael eu cludo;
ng
sicrhau bod dofednod neu adar caeth eraill sydd yn y parth neu yn y fangre sy'n destun yr hysbysiad neu'r drwydded o dan wyliadwriaeth,
a chaiff osod unrhyw gyfyngiadau ac amodau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar.
3
Ym mharagraff (2), ystyr “cynnyrch” dofednod neu adar caeth eraill yw unrhyw garcas, ŵy neu unrhyw beth arall sy'n tarddu neu sydd wedi'i wneud (naill ai'n llwyr neu'n rhannol) o ddofednod neu adar caeth eraill neu o garcasau'r cyfryw adar.
4
Mae paragraffau (1) i (3) yn gymwys er gwaethaf unrhyw ofyniad neu gyfyngiad arall sy'n gymwys mewn unrhyw ran o barth neu fangre oherwydd bod rhan o'r parth neu'r fangre yn dod o fewn parth arall a ddatganwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu sy'n destun hysbysiad arall a gyflwynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu arolygydd, at ddibenion lleihau'r risg o ledu ffliw adar neu at unrhyw ddiben arall.
5
Rhaid i unrhyw berson sy'n symud dofednod neu adar caeth eraill o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 10 gadw cofnod o ddyddiad y symudiad a Rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir.
6
Bernir bod lladd-dai, canolfannau pacio a deorfeydd a ddynodwyd o dan y Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 200611 wedi'u dynodi at ddiben cael dofednod neu wyau (yn ôl y digwydd) a symudir o dan drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn.
Brechu brys heb gynllun wedi'i gymeradwyo10
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan parth brechu brys neu'n cyflwyno hysbysiad brechu brys cyn i gynllun brechu brys gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb.
2
Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednod, unrhyw adar caeth eraill, eu carcasau neu unrhyw wyau dofednod neu adar caeth eraill —
a
o fangre mewn parth i fangre arall yn y parth;
b
i mewn i'r parth neu allan ohono; neu
c
i mewn i fangre sy'n destun hysbysiad neu allan ohoni.
3
Ni fydd paragraff (2) yn gymwys i'r canlynol —
a
unrhyw un o'r symudiadau a ganiateir ac a restrir yn yr Atodlen os yw'r symudiad hwnnw wedi'i drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd;
b
i ddosbarthiad manwerthol wyau dofednod ac wyau deor eraill a symudiadau sy'n dilyn y cyfryw ddosbarthiad; neu
c
symudiad carcasau neu wyau i'w gwaredu.
4
Rhaid i feddiannydd mangre y mae cywion diwrnod oed, dofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i gael eu cigydda) neu unrhyw adar caeth eraill sy'n cael eu symud o dan unrhyw un o baragraffau 5 i 10 o'r Atodlen, sicrhau bod y cywion diwrnod oed, dofednod neu adar caeth eraill yn cael eu rhoi mewn rhan o'r fangre lle nad oes dofednod eraill.
5
Rhaid i feddiannydd y fangre y mae dofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth eraill yn cael eu symud iddi o dan baragraff 10 o'r Atodlen, sicrhau bod y dofednod hynny neu'r adar caeth hynny yn cael eu brechu yn ddi-oed os yw brechu'n ofynnol yn y fangre honno gan ddatganiad neu hysbysiad brechu brys o dan reoliad 6(1).
6
Rhaid i feddiannydd lladd-dy y mae dofednod i'w cigydda yn cael eu symud iddo o dan baragraff 11, 12 neu 13 o'r Atodlen, sicrhau bod y dofednod hynny yn cael eu cigydda'n ddi-oed.
7
Mae paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran yr un symudiadau—
a
o barth sy'n gyfystyr â pharth brechu brys a ddatgenir yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon; neu
b
o fangre sy'n destun hysbysiad sy'n gyfystyr â hysbysiad brechu yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon,
pan fo'r parth hwnnw wedi'i ddatgan, neu pan fo'r hysbysiad hwnnw wedi'i gyflwyno, cyn i gynllun brechu brys gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb.
8
Nid yw paragraff (7) ond yn gymwys os yw meddiannydd y fangre y mae'r peth yn cael ei symud iddi yn ymwybodol, neu y mae'n rhesymol iddo fod yn ymwybodol, ei fod wedi cael ei symud o'r cyfryw barth neu o'r cyfryw fangre o dan y cyfryw hysbysiad.
Methu â brechu anifeiliaid a bennir i'w brechu11
Rhaid i unrhyw berson a ŵyr neu a dybia nad yw aderyn wedi'i frechu fel y mae'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr ardal lle y mae'r aderyn hwnnw ar unwaith.
Glanhau a diheintio cerbydau: darparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau12
Pan fo glanhau a diheintio cerbydau yn ofynnol mewn unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i feddiannydd y fangre honno ddarparu cyfleusterau digonol a chyfarpar a deunyddiau priodol ar gyfer y gwaith glanhau a diheintio hwnnw.
Newid meddiannaeth mangreoedd o dan gyfyngiad13
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad yw ceidwad unrhyw ddofednod neu unrhyw adar caeth eraill yn gallu eu symud oddi ar y fangre pan ddaw ei hawl i feddiannu'r fangre neu odanynt i ben oherwydd cyfyngiad ar symud a osodwyd gan y Rheoliadau hyn ac mae'n parhau i fod yn gymwys am saith niwrnod ar ôl tynnu'r cyfryw gyfyngiad.
2
Rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre pan ddaw hawl y ceidwad i'w meddiannu i ben —
a
darparu unrhyw gyfleusterau, ar gyfer bwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednod neu'r adar caeth eraill mewn ffordd arall (gan gynnwys eu gwerthu), y bydd ar y ceidwad angen rhesymol amdanynt; a
b
caniatáu i'r ceidwad hwnnw ac unrhyw berson a awdurdodir ganddo gael mynd i'r fangre ar adegau rhesymol i fwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednod neu'r adar caeth eraill mewn ffordd wahanol.
3
Os nad yw'r ceidwad yn gallu neu os nad yw'n fodlon bwydo neu dendio'r dofednod neu'r adar caeth eraill, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y dofednod neu'r adar hynny yn cael eu bwydo a'u tendio'n iawn.
4
Mae ceidwad y dofednod neu adar caeth eraill yn atebol i dalu'r costau rhesymol yr eir iddynt o dan y rheoliad hwn gan unrhyw berson sy'n eu bwydo neu'n eu tendio, neu'n darparu cyfleusterau ar gyfer eu bwydo, eu tendio neu eu defnyddio fel arall.
Darparu cymorth neu wybodaeth a chydweithrediad rhesymol14
1
Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n cyflanwi swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn wneud hynny'n ddi-oed onid oes ganddo achos rhesymol dros beidio â gwneud hynny.
2
Ni chaiff neb ddifwyno, cuddio neu dynnu unrhyw farc a ddodwyd ar unrhyw aderyn neu beth gan unrhyw berson sy'n cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth anwir15
Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n cymryd camau wrth weithredu'r Rheoliadau hyn.
Cadw a dangos cofnodion16
1
Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gan y Rheoliadau hyn wneud neu gadw cofnod—
a
ei gadw am o leiaf deuddeng mis ar ôl y dyddiad pan wnaed y cofnod (oni bai iddo gael ei gyfarwyddo fel arall o dan y Rheoliadau hyn);
b
ei ddangos i arolygydd os bydd yn gofyn amdano a rhoi copïau ohono iddo os bydd yn gofyn amdanynt.
2
Caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre at ddiben arolygu unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y Rheoliadau hyn a chaiff—
a
copïo'r cofnodion hynny (ar ba ffurf bynnag y'u delir);
b
ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion cyfrifiadurol yn cael eu llunio ar ffurf y gellir mynd â hwy; ac
c
mynd ag unrhyw gofnodion a'u dal dan gadwad.
3
Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddychwelyd unrhyw gofnodion y mae wedi'u dal dan gadwad ar ôl iddo eu copïo neu ar ôl iddo orffen eu harolygu.
Costau cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn17
Rhaid i'r costau y mae unrhyw berson yn mynd iddynt wrth gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol, neu wrth ymatal rhag cymryd camau sy'n waharddedig gan y Rheoliadau hyn neu odanynt, gael eu talu gan y person hwnnw oni bai i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo fel arall yn ysgrifenedig.
Cydymffurfio â hysbysiadau, datganiadau neu drwyddedau18
Mae unrhyw drwyddedai, person y cyflwynir hysbysiad iddo, neu berson y mae datganiad yn gymwys iddo o dan y Rheoliadau hyn, ac sy'n mynd yn groes i'r gofynion neu'r cyfyngiadau yn y drwydded honno, yn yr hysbysiad hwnnw neu yn y datganiad hwnnw, neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy, yn euog o dramgwydd.
Pwerau arolygwyr19
1
Caiff arolygydd, pan fydd yn cyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, fod y person sydd â gofal unrhyw gerbyd neu gyfarpar yn ei lanhau a'i ddiheintio.
2
Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd, wrth gyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn—
a
glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth ar y fangre honno;
b
ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre yn glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre;
c
ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre neu geidwad unrhyw ddofednod neu adar caeth eraill—
i
yn cadw neu ynysu unrhyw ddofednod, neu unrhyw adar caeth neu anifeiliaid eraill mewn man penodedig;
ii
gwahanu unrhyw ddofednod, adar caeth neu anifeiliaid oddi wrth unrhyw anifeiliaid neu adar eraill.
3
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf12—
a
adran 63 (pwerau cyffredinol arolygwyr);
b
adran 64 (pwerau arolygwyr o ran dofednod);
c
adran 64A13 (pwerau arolygwyr o ran rhwymedigaethau Cymunedol);
ch
adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal llestri ac awyrennau dan gadwad).
4
Mae adran 65A o'r Ddeddf14 (arolygu cerbydau) yn gymwys fel petai—
a
y Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf;
b
y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn; a
c
pob parth brechu neu fangre a bennir mewn hysbysiad brechu wedi'i ddynodi at ddibenion yr adran honno tra bo'r hysbysiad brechu.
5
Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan reoliad 8 neu baragraff (3)—
a
marcio unrhyw aderyn neu beth arall at ddibenion eu hadnabod;
b
cymryd samplau o unrhyw aderyn;
c
mynd â'r personau a'r pethau ag ef y mae'r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
6
Caiff unrhyw berson sy'n mynd i mewn i fangre o dan baragraff (5)(c) fynd yn ôl ati heb neb yn ei hebrwng i gymryd unrhyw gamau pellach sy'n angenrheidiol er mwyn gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.
Pwerau arolygwyr os ceir diffyg20
1
Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu odanynt, caiff arolygydd gymryd y camau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni ar gost y person hwnnw.
2
Mae pwerau arolygydd o dan baragraff (1) yn cynnwys pwerau—
a
i'w gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i unrhyw berson gymryd neu beidio â chymryd camau penodedig mewn perthynas ag unrhyw le, anifail, aderyn, neu beth arall;
b
i gymryd unrhyw beth i feddiant a'i ddal gan gadwad.
Tramgwyddau ac achosion21
1
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—
a
adrannau 66 a 66A15 (gwrthod a rhwystro);
b
adran 67 (dyroddi trwyddedau anwir etc.);
c
adran 68 (dyroddi trwyddedau etc. sy'n wag);
ch
adran 71 (tramgwyddau eraill o ran trwyddedau);
d
adran 71A16, (erlyniadau: terfyn amser);
dd
adran 73 (tramgwyddau cyffredinol);
e
adran 77 (arian sy'n adenilladwy yn ddiannod);
f
adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn),
ac fel petai'r diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn.
2
Mae adran 69 o'r Ddeddf (cael trwyddedau etc. drwy dwyll) yn gymwys fel petai trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn wedi'u rhoi o dan Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf.
3
Mae adran 75 o Ddeddf17(cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod penodol) yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio na chaiff unrhyw gyfnod yn y carchar o ganlyniad i gollfarn ddiannod fod yn hwy na thri mis.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol22
1
Os dangosir bod tramgwydd a wnaed gan gorff corfforaethol—
a
wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu
b
i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
bydd y swyddog hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
2
Os bydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.
3
ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd y cyfryw swydd.
Gorfodi23
1
Rhaid i'r awdurdod lleol orfodi'r Rheoliadau hyn.
2
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y bydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
Datgymhwyso darpariaethau i unrhyw berson sy'n gweithredu neu'n gorfodi'r Rheoliadau hyn24
Nid yw darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar symud neu ddefnyddio unrhyw beth yn gymwys i'r canlynol wrth iddynt weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn—
a
y Cynulliad Cenedlaethol;
b
arolygydd awdurdod lleol;
c
unrhyw berson arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr awdurdod lleol i weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.
Dirymu Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 200625
Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 200618drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199819