RHAN 1Rhagarweiniol
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ansawdd technegol da” (“good technical quality”) yw ansawdd technegol da o ran y meini prawf purdeb;
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw awdurdod sydd â'r cyfrifoldeb o dan reoliad 14 dros weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;
mae i “BADGE” (“BADGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(a) o Reoliad 1895/2005;
mae i “BFDGE” (“BFDGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(b) o Reoliad 1895/2005;
mae “busnes” (“business”) i'w ddehongli yn unol ag adran 1(3) o'r Ddeddf;
mae “bwyd” (“food”) i'w ddehongli yn unol ag adran 16(5) o'r Ddeddf;
ystyr “deunydd neu eitem” (“material or article” ) yw deunydd neu eitem sy'n cwympo o fewn y diffiniad o deunyddiau ac eitemau yn Erthygl 1(2) o Reoliad 1895/2005;
ystyr “deunydd neu eitem plastig” (“plastic material or article”) yw unrhyw beth a gynhwysir at ddibenion y Gyfarwyddeb ymhlith y deunyddiau a'r eitemau plastig hynny a rhannau ohonynt y mae'r Gyfarwyddeb yn gymwys iddynt;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “EFSA” (“EFSA”) yw Awdurdod Diogelu Bwyd Ewrop;
ystyr “yn gallu” (“capable”) yw bod yn gallu yn ôl yr hyn a sefydlir o dan reoliad 11;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu neu fod yn meddiannu peth i'w werthu, a rhaid dehongli “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein;
ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio wrth gynnal busnes;
ystyr “monomer” (“monomer”) yw unrhyw sylwedd a gynhwysir at ddibenion y Gyfarwyddeb ymhlith monomerau a sylweddau cychwynnol eraill;
mae i “NOGE” (“NOGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(c) o Reoliad 1895/2005;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), yw unrhyw berson boed yn swyddog i'r awdurdod gorfodi neu beidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “trin bwyd” (“handling of food”) yw defnyddio mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, deunydd pacio, gwerthu neu weini bwyd;
(2)
At ddibenion y Rheoliadau hyn bernir bod cyflenwi unrhyw ddeunydd neu eitem ac eithrio drwy werthiant, wrth gynnal busnes, yn werthiant.
(3)
Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb, Cyfarwyddeb 82/711, Cyfarwyddeb 85/572 neu Reoliad 1895/2005 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddo yn y Gyfarwyddeb honno neu'r Rheoliad hwnnw.
(4)
Ac eithrio yn Rhan 5 o Atodlen 3, mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw yn y Gyfarwyddeb.