2006 Rhif 2989 (Cy.278)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 78A(9), 78C(8) i (10), 78E(1) a (6), 78G(5) a (6)1, 78L(4)2 a (5) a 78R(1), (2) ac (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”)3 ac sydd bellach yn arferadwy o ran Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol4, a chan yr adrannau hynny fel y'u cymhwysir gan Reoliadau Tir a halogwyd yn ymbelydrd (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau Addasu”)5 o ran niwed, i'r graddau y mae niwed i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2006.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir yn wahanol —

a

mae unrhyw gyfeiriad at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran o Ddeddf 1990 sy'n dwyn y Rhif hwnnw, neu, o ran niwed sydd i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, i'r adran honno fel y'i haddaswyd gan y Rheoliadau Addasu; a

b

o ran niwed, i'r graddau y mae i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, mae gan unrhyw derm a ddiffinnir gan Ddeddf 1990 yr ystyr a roddir iddo gan y Ddeddf honno fel y'i haddasir gan y Rheoliadau Addasu.

Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig2

1

At ddibenion adran 78C(8) rhagnodir tir halogedig a ddisgrifir fel a ganlyn yn dir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig —

a

tir sy'n effeithio ar ddyfroedd rheoledig yn yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 3;

b

tir sy'n dir halogedig oherwydd tarau asid gwastraff yn y tir, arno neu oddi tano;

c

tir y cynhaliwyd unrhyw un neu rai o'r gweithgareddau canlynol arno ar unrhyw adeg —

i

puro (gan gynnwys coethi) petroliwm crai neu olew a echdynnwyd o betroliwm, siâl neu unrhyw sylwedd bitwminaidd arall ac eithrio glo; neu

ii

gweithgynhyrchu neu brosesu ffrwydron;

ch

tir y mae proses ragnodedig a ddynodwyd i'w rheoli'n ganolog wedi'i chyflawni arno neu wrthi'n cael ei chyflawni arno o dan awdurdodiad pan nad yw'r broses yn cynnwys dim ond pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;

d

tir lle mae gweithgaredd wedi, neu yn cael, ei gynnal mewn gweithfan Rhan A(1) neu trwy gyfrwng gwaith symudol Rhan A(1) o dan drwydded, pan nad yw'r gweithgaredd yn cynnwys pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;

dd

tir o fewn safle niwclear;

e

tir a berchenogir neu a feddiennir gan neu ar ran —

i

yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn,

ii

y Cyngor Amddiffyn,

iii

pencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn, neu

iv

awdurdod lluoedd arfog llu sydd ar ymweliad,

sef tir a ddefnyddir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu;

f

tir y gwnaed gwaith arno i weithgynhyrchu, cynhyrchu neu waredu —

i

arfau cemegol,

ii

unrhyw gyfrwng neu ddiocsin biolegol sy'n dod o fewn adran 1(1)(a) o Ddeddf Arfau Biolegol 19746 (cyfyngiad ar ddatblygu cyfryngau a thocsinau biolegol), neu

iii

unrhyw arf, offer neu fodd danfon sy'n dod o fewn adran 1(1)(b) o'r Ddeddf honno (cyfyngiad ar ddatblygu arfau biolegol),

ar unrhyw adeg;

ff

tir sy'n fangre a ddynodir neu a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1(1) o Ddeddf y Sefydliad Arfau Niwclear 19917 (trefniadau ar gyfer datblygu etc dyfeisiau niwclear);

g

tir y mae adran 30 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 19968 (tir a gedwir er budd Ysbyty Greenwich) yn gymwys ar ei gyfer;

ng

tir sy'n dir wedi'i halogi'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn rhinwedd unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd yn y tir hwnnw, arno neu oddi tano, a

h

tir —

i

sy'n gyffiniol neu'n gyfagos â thir o ddisgrifiad a bennir yn is-baragraffau (b) i (ng) uchod; a

ii

sy'n dir halogedig yn rhinwedd sylweddau y mae'n ymddangos eu bod wedi dianc o dir o'r disgrifiad hwnnw.

2

At ddibenion paragraff (1)(b), mae “tarau asid gwastraff” yn darau —

a

sy'n cynnwys asid sylffwrig;

b

a gynhyrchwyd o ganlyniad i goethi bensol, ireidiau a ddefnyddiwyd neu betroliwm; ac

c

sydd, neu a oedd, yn cael eu storio ar dir a ddefnyddiwyd fel basn cadw ar gyfer gwaredu tarau o'r fath.

3

Ym mharagraff (1)(ch), mae i “awdurdodiad” a “proses ragnodedig” yr un ystyr ag “authorisation” a “prescribed process” yn Rhan I o Ddeddf 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol) ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli'n ganolog neu yn lleol).

4

Ym mharagraff (1)(d), mae i “gweithfan Rhan A(1), “gwaith symudol Rhan A(1)” a “trwydded” yr un ystyr â “Part A(1) installation”, “Part A(1) mobile plant” a “permit” yn Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 20009.

5

Ym mharagraff (1)(dd) uchod, ystyr “safle niwclear” yw—

a

unrhyw safle y mae trwydded safle niwclear mewn grym am y tro ar ei gyfer, neu ar gyfer rhan ohono; neu

b

unrhyw safle nad yw cyfnod cyfrifoldeb y trwyddedai wedi dod i ben ar ei gyfer neu ar gyfer rhan ohono, ar ôl iddo ddiddymu neu ildio trwydded safle niwclear.

6

Ym mharagraff (5) mae i “trwydded safle niwclear”, “trwyddedai” a “cyfnod cyfrifoldeb” yr ystyr a roddir i “nuclear site licence”, “licensee” a “period of responsibility” gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 196510.

7

At ddibenion paragraff (1)(e), dim ond os yw'r tir yn rhan o ganolfan a feddiennir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu y mae tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl gan Sefydliadau'r Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu i'w drin fel tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu.

8

Ym mharagraff (1)(e)—

  • ystyr “pencadlys rhyngwladol” a “corff amddiffyn” yw, yn eu tro, unrhyw bencadlys rhyngwladol, ac unrhyw gorff amddiffyn, a ddynodwyd at ddibenion Deddf Pencadlysoedd Rhyngwladol a Chyrff Amddiffyn 196411;

  • mae i “awdurdod lluoedd arfog” a “llu ar ymweliad” yr un ystyr â “service authority” a “visiting force” yn Rhan I o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 195212.

9

Ym mharagraff (1)(f), mae i “arf cemegol” yr ystyr sydd i “chemical weapon” yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 199613, gan ddiystyru is-adran (2) o'r adran honno.

Llygru dyfroedd a reolir3

Yr amgylchiadau y mae rheoliad 2(1)(a) yn cyfeirio atynt yw—

a

pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir sy'n cael eu defnyddio, neu y bwriedir eu defnyddio, i gyflenwi dŵr i bobl ei yfed a phan fydd angen defnyddio proses, o'r herwydd, i'w trin neu newid y broses honno cyn i'r dyfroedd gael eu defnyddio, er mwyn iddynt gael eu hystyried yn ddyfroedd iachusol o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 199114 (y cyflenwad dŵr);

b

pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac, o'r herwydd, nad yw'r dyfroedd hynny yn bodloni neu nad ydynt yn debygol o fodloni'r maen prawf ar gyfer y dosbarthiad sy'n gymwys i'r disgrifiad perthnasol o ddyfroedd a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 82 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 199115 (dosbarthu ansawdd dyfroedd); neu

c

pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac —

i

pan fydd unrhyw un o'r sylweddau y mae llygru'r dyfroedd yn cael ei achosi ganddynt neu'n debygol o gael ei achosi ganddynt yn dod o fewn unrhyw un o'r teuluoedd neu'r grwpiau o sylweddau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, a

ii

pan fydd y dyfroedd, neu unrhyw ran o'r dyfroedd, yn cael eu cynnwys o fewn strata tanddaearol sy'n cynnwys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw un o'r ffurfiannau creigiau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys hysbysiadau adfer4

1

Rhaid i hysbysiad adfer ddatgan (yn ychwanegol at y materion sy'n ofynnol o dan adran 78E(1) a (3))—

a

enw a chyfeiriad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo;

b

lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel y “tir halogedig o dan sylw”), yn ddigon manwl i ganiatáu iddo gael ei adnabod naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

c

dyddiad unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan adran 78B(3) i'r person y cyflwynir yr hysbysiad adfer iddo yn pennu'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig;

ch

a yw'r awdurdod gorfodi o'r farn bod y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn berson priodol oherwydd —

i

bod y person wedi achosi neu, gan wybod, wedi caniatáu i'r sylweddau, neu i unrhyw un o'r sylweddau, y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd, fod yn y tir, arno neu oddi tano, neu

ii

mai'r person yw perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw;

d

manylion y niwed sylweddol, y niwed neu'r llygredd i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd;

dd

y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;

e

rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniadau ynglŷn â'r pethau y mae'n ofynnol i'r person priodol eu gwneud o ran gwaith adfer, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78E(5) wedi'u cymhwyso;

f

pan fydd dau neu ragor o bersonau yn bersonau priodol mewn perthynas â'r tir halogedig dan sylw —

i

mai felly y mae hi,

ii

enw a chyfeiriad pob un person o'r fath, a

iii

y peth y mae pob person o'r fath yn gyfrifol amdano o ran gwaith adfer;

ff

pan fyddai dau neu ragor o bersonau, ar wahân i adran 78F(6), yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth penodol sydd i'w wneud o ran gwaith adfer, rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniad ynghylch a ddylid trin unrhyw un neu fwy ohonynt, ac os felly, pa rai, fel person nad yw'n berson priodol mewn perthynas â'r peth hwnnw, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(6) wedi'u cymhwyso;

g

pan fydd adran 78E(3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad adfer ddatgan pa gyfran o gost peth sydd i'w wneud o ran gwaith adfer y mae pob un o'r personau priodol yn atebol i'w thalu mewn perthynas â'r peth hwnnw, rhesymau'r awdurdod gorfodi am y gyfran y mae wedi penderfynu arni, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(7) wedi'u cymhwyso;

ng

pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad —

i

perchennog y tir halogedig o dan sylw, ac

ii

unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod yn meddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o'r tir halogedig o dan sylw;

h

pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad o dan adran 78G(2) cyn y gellir gwneud unrhyw beth sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad adfer;

i

pan fwriedir cyflwyno'r hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4), ei bod yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr, oherwydd sylweddau sydd yn y tir, arno neu odano, nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;

j

y gall person y cyflwynwyd hysbysiad adfer iddo fod yn euog o dramgwydd am iddo fethu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag unrhyw un neu rai o ofynion yr hysbysiad;

l

y cosbau y gellir eu cymhwyso ar gollfarnu am dramgwydd o'r fath;

ll

enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi sy'n cyflwyno'r hysbysiad; ac

m

dyddiad yr hysbysiad.

2

Rhaid i hysbysiad adfer esbonio—

a

bod gan berson y'i cyflwynir iddo hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 78L;

b

sut, o fewn pa gyfnod ac ar ba sail y gellir apelio; ac

c

bod hysbysiad yn cael ei atal, pan fydd apêl yn cael ei gwneud yn briodol, nes penderfynu'n derfynol ar yr apêl neu roi'r gorau iddi.

Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer5

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r awdurdod gorfodi, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad adfer, anfon copi ohono at bob un o'r personau canlynol, nad yw'n berson y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo—

a

unrhyw berson yr oedd yn ofynnol ymgynghori ag ef o dan adran 78G(3) cyn cyflwyno'r hysbysiad;

b

unrhyw berson yr oedd yn ofynnol ymgynghori ag ef o dan adran 78H(1) cyn cyflwyno'r hysbysiad;

c

os mai'r awdurdod lleol yw'r awdurdod gorfodi, Asiantaeth yr Amgylchedd; ac

ch

os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, yr awdurdod lleol y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli yn ei ardal.

2

Pan fydd yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau sydd ynddo, arno neu oddi tano nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir, rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon unrhyw gopïau o'r hysbysiad yn unol â pharagraff (1) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

Iawndal am hawliau mynediad etc6

Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn pennu—

a

o fewn pa gyfnod y caiff person sy'n rhoi, neu sy'n ymuno i roi, unrhyw hawliau yn unol ag adran 78G(2) wneud cais am iawndal am roi'r hawliau hynny;

b

drwy ba ddull y caniateir gwneud cais o'r fath, a'r person y caniateir gwneud y cais iddo; ac

c

drwy ba ddull y bydd swm yr iawndal hwnnw'n cael ei benderfynu,

ac mae'n gwneud darpariaeth bellach ynglŷn ag iawndal o'r fath.

Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer7

1

Mae unrhyw un neu fwy o'r canlynol yn seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer o dan adran 78L(1) —

a

bod yr awdurdod lleol, wrth benderfynu a yw'n ymddangos bod unrhyw dir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig —

i

wedi methu â gweithredu yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78A(2), (5) neu (6), neu

ii

p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi pennu, a hynny'n afresymol, y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig;

b

bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu ar un o ofynion yr hysbysiad —

i

wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78E(5), neu

ii

p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi ei gwneud yn ofynnol i'r apelydd, a hynny'n afresymol, wneud unrhyw beth o ran gwaith adfer;

c

bod yr awdurdod gorfodi wedi penderfynu, a hynny'n afresymol, mai'r apelydd yw'r person priodol sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;

ch

yn ddarostyngedig i baragraff (2), bod yr awdurdod gorfodi, a hynny'n afresymol, wedi methu â phenderfynu bod rhyw berson yn ychwanegol at yr apelydd yn berson priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;

d

bod yr awdurdod gorfodi, mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, wedi methu â gweithredu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(6);

dd

pan fydd dau neu ragor o bersonau yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, bod yr awdurdod gorfodi —

i

wedi methu â phenderfynu pa gyfran o'r gost a ddatganwyd yn yr hysbysiad y mae'r apelydd yn atebol i'w thalu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(7), neu

ii

p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi penderfynu, a hynny'n afresymol, pa gyfran o'r gost y mae'r apelydd i'w thalu;

e

bod cyflwyno'r hysbysiad wedi mynd yn groes i un o ddarpariaethau adran 78H(1) neu (3) (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer) heblaw o dan amgylchiadau pan fydd adran 78H(4) yn gymwys;

f

pan gyflwynwyd yr hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4) mewn amgylchiadau pan na chydymffurfiwyd ag adran 78H(1) neu (3), na fyddai wedi bod yn rhesymol i'r awdurdod gorfodi farnu bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau yn y tir, arno, neu oddi tano, nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;

ff

bod yr awdurdod gorfodi, a hynny'n afresymol, wedi methu â chael ei fodloni, yn unol ag adran 78H(5)(b), fod pethau priodol yn cael eu gwneud, neu y byddant yn cael eu gwneud, o ran gwaith adfer a hynny heb i hysbysiad gael ei gyflwyno;

g

bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer yn ofynnol yn groes i ddarpariaeth yn adran 78J (cyfyngiadau ar atebolrwydd ynglŷn â llygru dyfroedd a reolir);

ng

bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer yn ofynnol yn groes i ddarpariaeth yn adran 78K (atebolrwydd mewn perthynas â sylweddau halogi sy'n dianc i dir arall);

h

bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵer, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(b), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;

i

bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵer, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(e), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;

j

bod yr awdurdod gorfodi, wrth bwyso a mesur at ddibenion adran 78N(3)(e), a fyddai'n ceisio adennill y cyfan neu gyfran o'r gost a dynnwyd ganddo wrth wneud rhyw beth penodol o ran gwaith adfer—

i

wedi methu â rhoi sylw i unrhyw galedi y gallai'r adennill ei achosi i'r person y gellid adennill y gost oddi wrtho neu i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion adran 78P(2), neu

ii

p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi dyfarnu, a hynny'n afresymol, y byddai'n penderfynu ceisio adennill y cyfan o'r gost;

l

bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu un o ofynion yr hysbysiad, wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78V(1);

ll

nad yw cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad yn gyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r apelydd wneud rhywbeth yn rhesymol ddigonol at y diben;

m

bod yr hysbysiad yn darparu i berson sy'n gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth berthnasol fod yn atebol yn bersonol i dalu'r cyfan neu ran o gost gwneud unrhyw beth o ran gwaith adfer, yn groes i ddarpariaethau adran 78X(3)(a);

n

bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau adran 78YB16 (sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhyngweithio Rhan 2A o Ddeddf 1990 â deddfiadau eraill) ac mewn achos lle y dibynnir ar—

i

is-adran (1) o'r adran honno, y dylai fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 2717 gael eu harfer,

ii

is-adran (3) o'r adran honno, y dylai fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau awdurdod rheoli gwastraff neu awdurdod casglu gwastraff o dan adran 5918 gael eu harfer; neu

o

y cafwyd rhyw fath o anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, nad oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas ag ef o dan y seiliau a nodir yn is-baragraffau (a) i (n) uchod.

2

Caiff person apelio ar y sail a bennir ym mharagraff (1)(ch) uchod dim ond mewn achos —

a

pan fydd yr awdurdod gorfodi wedi penderfynu ei fod yn berson priodol yn rhinwedd adran 78F(2) a bod y person hwnnw'n honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno;

b

pan gyflwynir yr hysbysiad i'r person hwnnw fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro a bod y person hwnnw'n honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno; neu

c

pan gyflwynir yr hysbysiad i'r person hwnnw fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro a bod y person hwnnw'n honni bod rhyw berson arall hefyd yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu ran o'r tir hwnnw am y tro.

3

Os yw apêl yn erbyn hysbysiad adfer wedi'i seilio ar ryw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, ac i'r graddau bod apêl wedi'i seilio ar y sail honno, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr anffurfioldeb, y diffyg neu'r camgymeriad yn un o sylwedd.

Apelau i'r Cynulliad Cenedlaethol8

1

Rhaid i apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn hysbysiad adfer gael ei wneud i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad (“hysbysiad apêl”), sef hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddatgan —

a

enw a chyfeiriad yr apelydd;

b

ar ba seiliau y gwneir yr apêl; ac

c

a yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

2

Rhaid i'r apelydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno —

a

copi ohono i'r canlynol—

i

yr awdurdod gorfodi,

ii

unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol,

iii

unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad o apêl yn berson priodol, ac

iv

unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

b

i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (a)(ii), (iii) neu (iv); ac

c

copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol nad yw wedi'i enwi felly yn yr hysbysiad adfer.

3

Os yw'r apelydd yn dymuno rhoi'r gorau i apêl, rhaid iddo wneud hynny drwy hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig; ac ymdrinnir â'r apêl wedyn fel un y rhoddwyd y gorau iddi o'r dyddiad y bydd yr hysbysiad hwnnw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

4

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod caniatáu i apelydd roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer pan ddaw'r hysbysiad gan yr apelydd yn unol â pharagraff (3) i law'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 11(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.

5

Pan roir y gorau i apêl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad y rhoddwyd y gorau iddi i unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.

Gwrandawiadau ac ymchwiliadau lleol9

1

Cyn penderfynu apêl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os gwêl yn dda—

a

peri bod yr apêl yn cael ei chynnal neu ei pharhau ar ffurf gwrandawiad (a gall y gwrandawiad hwnnw gael ei gynnal, neu gael ei gynnal i ryw raddau, yn breifat, os yw'r person sy'n gwrando yr apêl yn penderfynu felly); neu

b

peri bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal.

2

Cyn penderfynu ar apêl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu fel a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (b) os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu'r awdurdod gorfodi am gael gwrandawiad mewn perthynas â'r apêl.

3

Dyma'r personau y mae ganddynt hawl i gael gwrandawiad mewn gwrandawiad —

a

yr apelydd;

b

yr awdurdod gorfodi; ac

c

unrhyw berson (heblaw'r awdurdod gorfodi) yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad o apêl iddo.

4

Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad; a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath a hynny'n afresymol.

5

Ar ôl i wrandawiad ddod i ben, rhaid i'r person a benodir i gynnal y gwrandawiad, oni bai ei fod wedi'i benodi o dan adran 114(1)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd 199519 (pwer y Cynulliad Cenedlaethol i ddirprwyo ei swyddogaethau penderfynu apelau neu i atgyfeirio materion sy'n gysylltiedig ag apelau) i benderfynu'r apêl, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol y mae'n rhaid iddo gynnwys casgliadau'r person penodedig a'i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

Hysbysu ynghylch penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl10

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ar apêl a darparu copi o unrhyw adroddiad a grybwyllir yn rheoliad 9(5).

2

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yr un pryd ag y mae'n hysbysu'r apelydd, anfon copi o'r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r awdurdod gorfodi ac at unrhyw berson arall yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.

Addasu hysbysiad adfer11

1

Cyn addasu hysbysiad adfer o dan adran 78L(2)(b) (apelau yn erbyn hysbysiadau adfer) mewn unrhyw fodd a fyddai'n llai ffafriol i'r apelydd neu i unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol

a

hysbysu'r apelydd ac unrhyw bersonau yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad o apêl iddynt, o'r addasiad arfaethedig;

b

caniatáu i unrhyw bersonau a hysbyswyd felly gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r addasiad arfaethedig; a

c

caniatáu i'r apelydd neu unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad adfer iddo gael eu gwrando os bydd unrhyw berson o'r fath yn gofyn am hynny.

2

Pan wrandewir ar yr apelydd neu ar unrhyw berson arall, yn unol â pharagraff (1), bydd gan yr awdurdod gorfodi hawl i gael gwrandawiad hefyd.

Atal hysbysiad adfer12

1

Pan gyflwynir apêl yn briodol yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad tra disgwylir am y penderfyniad terfynol ar yr apêl neu nes y rhoddir y gorau iddi.

2

Mae apêl yn erbyn hysbysiad adfer yn cael ei gwneud yn briodol at ddibenion y rheoliad hwn os yw'n cael ei gwneud o fewn y cyfnod a bennir yn adran 78L(1) ac os cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 8(1) a (2).

Cofrestrau13

1

At ddiben adran 78R(1) (cofrestrau), pennir y manylion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cofrestr a gedwir o dan yr is-adran honno yn Atodlen 3.

2

Rhagnodir y disgrifiadau canlynol o wybodaeth at ddibenion adran 78R(2) yn wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiadau at ddibenion adran 78R(1)(h) a (j)—

a

lleoliad a hyd a lled y tir yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo;

b

enw a chyfeiriad y person yr honnir ei fod wedi gwneud pob un o'r pethau o ran gwaith adfer;

c

disgrifiad o unrhyw beth yr honnir ei fod wedi'i wneud o ran gwaith adfer; ac

ch

y cyfnod yr honnwyd bod popeth o'r fath wedi'i wneud ynddo.

3

Rhagnodir y lleoedd canlynol at ddibenion adran 78R(8) yn lleoedd y bydd unrhyw gofrestrau neu gyfleusterau ar gyfer cael copïau ohonynt ar gael neu wedi'u darparu i'r cyhoedd yn unol â pharagraff (a) neu (b) o'r is-adran honno—

a

os yr awdurdod lleol yw'r awdurdod gorfodi, ei brif swyddfa; a

b

os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, ei swyddfa ar gyfer yr ardal y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli ynddi.

Dirymu14

Caiff Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 200120 eu dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199821.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1SAFLEOEDD ARBENNIG

Rheoliad 3(c)

1

Y teuluoedd a'r grwpiau o sylweddau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(i) yw'r canlynol—

a

cyfansoddion organohalogen a sylweddau a all ffurfio cyfansoddion o'r fath yn yr amgylchedd dyfrol;

b

cyfansoddion organoffosfforws;

c

cyfansoddion organotin;

ch

sylweddau â phriodweddau carsinogenig, mwtagenig neu teratogenig yn yr amgylchedd dyfrol neu drwyddo;

d

mercwri a'i gyfansoddion;

dd

cadmiwm a'i gyfansoddion;

e

olew mwynol a hydrocarbonau eraill;

f

syanidau.

2

Y ffurfiadau creigiau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(ii) yw'r canlynol—

a

Crag Norwich Pleistosenaidd;

b

Sialc Cretasaidd Uchaf;

c

Tywodfeini Cretasaidd Isaf;

ch

Calchfeini Cwrelaidd Jurasig Uchaf;

d

Calchfeini Jurasig Canol;

dd

Tywodydd Cotteswold Jurasig Isaf;

e

Grwp Tywodfeini Sherwood Permo-Driasig;

f

Calchfaen Magnesaidd Permaidd Uchaf;

ff

Tywodfaen Penrith Permaidd Isaf;

g

Tywodfaen Collyhurst Permaidd Isaf;

ng

Brecias, Clymfeini a Thywodfeini Gwaelodol Permaidd Isaf;

h

Calchfeini Carbonifferaidd Isaf.

ATODLEN 2IAWNDAL AM HAWLIAU MYNEDIAD ETC

Rheoliad 6

Dehongli1

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Iawndal Tir 196122;

  • ystyr “grantwr” (“grantor”) yw person sydd wedi rhoi, neu wedi ymuno i roi, unrhyw hawliau yn unol ag adran 78G(2); ac

  • ystyr “buddiant perthnasol” (“relevant interest”) yw buddiant mewn tir y rhoddwyd hawliau allan ohono yn unol ag adran 78G(2).

Y cyfnod ar gyfer gwneud cais2

Rhaid gwneud cais am iawndal o fewn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad rhoi'r hawliau yr hawlir iawndal mewn perthynas â hwy ac sy'n dod i ben ar ba un bynnag yw'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

a

deuddeng mis ar ôl dyddiad rhoi'r hawliau hynny;

b

pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad adfer y rhoddwyd yr hawliau o dan sylw mewn perthynas ag ef, ac nad oes effaith i'r hysbysiad yn rhinwedd rheoliad 12, deuddeng mis ar ôl dyddiad y penderfyniad terfynol neu ar ôl rhoi'r gorau i'r apêl; neu

c

chwe mis ar ôl y dyddiad yr arferwyd yr hawliau gyntaf.

Dull gwneud cais3

1

Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a'i gyflwyno, neu ei anfon drwy bost ragdaledig, i gyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person priodol y rhoddwyd yr hawliau iddo.

2

Rhaid i'r cais gynnwys, neu rhaid anfon gyda'r cais,—

a

copi o'r grant hawliau y mae'r grantwr yn gwneud cais am iawndal ar ei gyfer, ac o unrhyw blaniau sydd ynghlwm wrth y grant hwnnw;

b

disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal ar ei gyfer; a

c

datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 4, a chan ddangos sut y cyfrifwyd pob swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.

Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer4

1

Yn ddarostyngedig i baragraff 5(3) a (5)(b), mae iawndal yn daladwy o dan adran 78G(5) am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—

a

dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o'r grant hawliau;

b

dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant arall mewn tir y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o arfer yr hawliau;

c

colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl iddo, ac —

i

y gellir ei briodoli i'r grant hawliau neu i arfer yr hawliau hynny,

ii

nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw, a

iii

sy'n golled neu'n ddifrod o fath y mae iawndal am aflonyddu, neu am unrhyw fater arall nad yw wedi'i seilio'n uniongyrchol ar werth y buddiant hwnnw, yn daladwy mewn cysylltiad â hwy ar gaffael gorfodol;

ch

difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawl iddo ac nad yw'n fuddiant perthnasol ac sy'n deillio o roi'r hawliau neu eu harfer, neu effaith niweidiol ar y buddiant hwnnw; a

d

colled mewn perthynas â gwaith a gyflawnwyd gan neu ar ran y grantwr ac sy'n cael ei wneud yn ofer drwy roi'r hawliau neu drwy eu harfer.

Y sail ar gyfer asesu'r iawndal5

1

Bydd y darpariaethau canlynol yn cael effaith at ddibenion asesu'r swm sydd i'w dalu o ran iawndal o dan adran 78G(5).

2

Bydd y rheolau a nodir yn adran 523 o Ddeddf 1961 (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwysadwy ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.

3

Rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i unrhyw welliant yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir, oherwydd unrhyw adeilad a godir, unrhyw waith a wneir neu unrhyw welliant neu newid a wneir ar unrhyw dir y mae'r grantwr, neu yr oedd adeg y gwaith codi neu adeg y gwneud, yn ymwneud ag ef yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, os yw'r Tribiwnlys Tiroedd wedi'i fodloni nad oedd codi'r adeilad, gwneud y gwaith, gwneud y gwelliant neu'r newid yn rhesymol angenrheidiol a'i fod wedi'i wneud gyda golwg ar gael iawndal neu fwy o iawndal.

4

Wrth gyfrifo swm unrhyw golled o dan baragraff 4(d), cymerir gwariant a dynnwyd wrth baratoi planiau neu a dynnwyd oherwydd materion paratoi tebyg eraill i ystyriaeth.

5

Pan fydd y buddiant y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais —

a

rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais; ac

b

ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais).

6

Rhaid i iawndal o dan adran 78G(5) gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.

Talu iawndal a phenderfynu dadleuon6

1

Rhaid i iawndal sy'n daladwy o dan adran 78G(5) mewn perthynas â buddiant sy'n ddarostyngedig i forgais gael ei dalu i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac yn y naill achos neu'r llall, rhaid ei gymhwyso fel petai'n enillion ar werthiant.

2

Bydd symiau iawndal a benderfynir o dan yr Atodlen hon yn daladwy —

a

pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad unigol i'w wneud ar ddyddiad penodedig, ar y dyddiad hwnnw;

b

pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad i'w wneud mewn rhandaliadau ar ddyddiadau gwahanol, ar y dyddiad y cytunir arno o ran pob rhandaliad; ac

c

ym mhob achos arall, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd gan y Tribiwnlys Tiroedd neu'r llys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i swm yr iawndal gael ei benderfynu'n derfynol.

3

Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cymhwyso paragraff 5(3) neu iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.

4

Mewn perthynas â phenderfynu ar unrhyw gwestiwn o'r fath, bydd adrannau 224 a 4 o Ddeddf 1961 (sy'n darparu ar gyfer y weithdrefn ynglŷn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys —

a

fel petai'r cyfeiriad yn adran 2(1) o'r Ddeddf honno at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (3) o'r paragraff hwn; a

b

fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person priodol.

ATODLEN 3MANYLION A RAGNODIR AT DDIBEN ADRAN 78R(1)

Rheoliad 13(1)

Hysbysiadau Adfer1

1

Mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi —

a

enw a chyfeiriad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo;

b

lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

c

y niwed sylweddol, y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'i herwydd;

ch

y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;

d

defnydd cyfredol y tir halogedig o dan sylw;

dd

yr hyn y mae pob person priodol i'w wneud o ran gwaith adfer a'r cyfnodau y mae'n ofynnol iddynt wneud pob un o'r pethau ynddynt; a

e

dyddiad yr hysbysiad.

Apelau yn erbyn hysbysiadau adfer

2

Unrhyw apêl yn erbyn hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi.

3

Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.

Datganiadau adfer

4

Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(6).

5

Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath —

a

lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; a

b

y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.

Mynegiad adfer

6

Unrhyw fynegiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(7) neu gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(9).

7

Mewn perthynas ag unrhyw fynegiad adfer o'r fath —

a

lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; a

b

materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.

Apelau yn erbyn hysbysiadau codi tâl

8

Unrhyw apêl o dan adran 78P(8) yn erbyn hysbysiad codi tâl a gyflwynwyd gan yr awdurdod gorfodi.

9

Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.

Dynodi safleoedd arbennig10

1

Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn perthynas ag unrhyw dir y mae'n awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ef, ac yn achos awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir yn ei ardal—

a

unrhyw hysbysiad a roddwyd gan awdurdod lleol o dan adran 78C(1)(b) neu (5)(a), neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78D(4)(b), sy'n cael effaith o ran dynodi unrhyw dir yn safle arbennig, yn rhinwedd adran 78C(7) neu adran 78D(6);

b

y darpariaethau yn rheoliad 2 neu 3 y mae'n ofynnol dynodi'r tir yn safle arbennig o'u herwydd;

c

unrhyw hysbysiad a roddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78Q(1)(a) o'i phenderfyniad i fabwysiadu hysbysiad adfer; ac

ch

unrhyw hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod gorfodi neu iddo o dan adran 78Q(4) yn terfynu dynodiad unrhyw dir yn safle arbennig.

Hysbysu adferiad honedig11

Unrhyw hysbysiad a roddir i'r awdurdod gorfodi at ddibenion adran 78R(1)(h) neu (j).

Collfarnau am dramgwyddau o dan adran 78M12

Unrhyw gollfarniad a gafodd person am unrhyw dramgwyddau o dan adran 78M mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynwyd gan yr awdurdod gorfodi, gan gynnwys enw'r tramgwyddwr, dyddiad y gollfarn, y gosb a osodwyd ac enw'r Llys.

Canllawiau a roddir o dan adran 78V(1)13

Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, dyddiad unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd ganddi o dan adran 78V(1) ac, yn achos awdurdod lleol, dyddiad unrhyw ganllawiau a roddwyd iddo gan yr Asiantaeth o dan yr is-adran honno.

Rheolaethau amgylcheddol eraill

14

Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(1) neu 78YB(2B)25 rhag cyflwyno hysbysiad adfer —

a

lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

b

y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1; ac

c

unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 2726 neu trwy gamau gorfodi (o fewn ystyr adran 78YB(2C)27), tuag at adfer unrhyw niwed sylweddol, niwed neu lygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd.

15

1

Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw —

a

lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

b

y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1; ac

c

unrhyw gamau y mae'r awdurdod gorfodi yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 5928, mewn perthynas â'r gwastraff hwnnw neu â chanlyniadau ei ollwng, ac mewn achos lle cymerodd awdurdod casglu gwastraff (o fewn ystyr adran 30(3)29) y camau hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r camau gael eu cymryd, enw'r awdurdod hwnnw.

16

Pan fydd yr awdurdod gorfodi, o ganlyniad i gydsyniad a roddwyd o dan Bennod 2 o Ran 3 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (troseddau llygru), yn rhinwedd adran 78YB(4) yn cael ei wahardd rhag pennu mewn hysbysiad adfer unrhyw beth penodol o ran gwaith adfer y byddai wedi'i bennu fel arall mewn hysbysiad o'r fath,—

a

y cydsyniad;

b

lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; ac

c

y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn disodli Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2197 (Cy.157)) (“Rheoliadau 2001”) ac, yn ogystal â gwneud darpariaeth debyg i'r un a wnaed yn Rheoliadau 2001, yn gwneud, o ran Cymru, ddarpariaeth sy'n hafal i'r un a wnaed o ran Lloegr ym mharagraff 50 o Atodlen 10 i Reoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973) ac mae'n nodi darpariaethau pellach ynghylch adnabod ac adfer tir halogedig o dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgrifiad ychwanegol o dir halogedig y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig: sef tir sy'n dir halogedig o ganlyniad i sylweddau ymbelydrol yn y tir hwnnw, arno neu oddi tano.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu darpariaethau sy'n gysylltiedig ag apelau i lys ynadon yn erbyn hysbysiadau adfer, o ganlyniad i ddiwygiadau i adran 78L o Ddeddf 1990 a wnaed gan adran 104 o Ddeddf Cymdogaethau ac Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16).

Mae rheoliadau 2 a 3 ac Atodlen 1 yn nodi'r categorïau hynny o safleoedd (a elwir yn “safleoedd arbennig”) y mae Asiantaeth yr Amgylchedd i fod yn awdurdod gorfodi ar eu cyfer. Awdurdodau lleol yw'r awdurdod gorfodi o ran unrhyw safle o fath arall.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cynnwys “hysbysiadau adfer” ac ar gyfer cyflwyno copïau ohonynt: sef hysbysiadau a gyflwynir gan awdurdod lleol neu gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn nodi beth sydd i'w wneud o ran adfer, ac o fewn pa gyfnod o amser y mae'n rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu.

Mae rheoliad 6 ac Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth o ran yr iawndal sydd i'w dalu'n unol ag adran 78G(5) o Ddeddf 1990 i berson sy'n rhoi, neu sy'n uno ag eraill i roi, hawliau mynediad etc sy'n ofynnol i alluogi person i gydymffurfio â hysbysiad adfer.

Mae rheoliadau 7 i 12 yn gwneud darpariaeth o ran apelau yn erbyn hysbysiadau adfer, gan gynnwys seiliau apelio a'r weithdrefn i'w dilyn.

Mae rheoliad 13 ac Atodlen 3 yn rhagnodi manylion materion y mae'n ofynnol o dan adran 78R o Ddeddf 1990 eu gosod ar gofrestr a gedwir gan awdurdodau lleol neu, yn achos safleoedd arbennig, gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae Rheoliad 14 yn dirymu Rheoliadau 2001.