Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir yn wahanol —
(a)mae unrhyw gyfeiriad at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran o Ddeddf 1990 sy'n dwyn y Rhif hwnnw, neu, o ran niwed sydd i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, i'r adran honno fel y'i haddaswyd gan y Rheoliadau Addasu; a
(b)o ran niwed, i'r graddau y mae i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, mae gan unrhyw derm a ddiffinnir gan Ddeddf 1990 yr ystyr a roddir iddo gan y Ddeddf honno fel y'i haddasir gan y Rheoliadau Addasu.