2006 Rhif 30 (Cy.4)
ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 537A(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn1.

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2006.

Diwygio Rheoliadau2.

(1)

Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 20033 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2, yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau newydd canlynol—

“ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;”;

“ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ond nid yw'n cynnwys uned cyfeirio disgyblion;”.

(3)

Yn rheoliad 2, yn lle'r diffiniad o “disgybl chweched dosbarth” rhodder—

“ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl mewn ysgol sy'n cael addysg addas ar gyfer anghenion disgyblion dros yr oedran ysgol gorfodol;”.

(4)

Yn Rhan 1 o'r Atodlen, ym mharagraff 5, hepgorer “ac, os felly, gyda phwy”.

(5)

Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ym mharagraff 1 yn lle “disgybl chweched dosbarth yn yr ysgol” rhodder “person sydd, neu a oedd, ar unrhyw adeg blaenorol yn ystod y flwyddyn ysgol y cafodd y cais am yr wybodaeth ei wneud ynddi, yn ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol”.

(6)

Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ym mharagraff 1(c) ar ôl “ddechrau” mewnosoder “a diwedd”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) drwy wneud y canlynol—

(a)

ychwanegu diffiniad o “ysgol”, rhoi diffiniad newydd o “disgybl chweched dosbarth” yn lle'r hen un, ac ychwanegu diffiniad newydd o “blwyddyn ysgol”;

(b)

newid ychydig eiriad paragraff 5 o Ran 1 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel na fydd yn ofynnol mwyach i gorff llywodraethu ysgol ddatgan â phwy y mae disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref;

(c)

newid geiriad paragraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen honno fel bod modd i'r wybodaeth y gall fod yn ofynnol i'r corff llywodraethu ei darparu am ddisgyblion chweched dosbarth gynnwys gwybodaeth am ddisgyblion sydd wedi gadael yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol; ac

(ch)

newid ychydig eiriad paragraff 1(c) o'r Rhan honno fel y bydd yr wybodaeth y gall fod yn ofynnol ei darparu ynghylch anghenion disgyblion, o ran sgiliau sylfaenol, am lythrennedd a Rhif edd yn cynnwys bellach anghenion disgyblion ar ddiwedd, yn ogystal ag ar ddechrau, eu rhaglen gweithgareddau dysgu.