2006 Rhif 31 (Cy.5)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19903 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo4, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf Diogelwch Bwyd i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar Ùl ymgynghori cyhoeddus agored a thryloyw fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN IMATERION RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoI11

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, deuant i rym ar 11 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliI22

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol, yn rhinwedd rheoliad 5, dros orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid;

  • ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau'r Gymuned a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 19906;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;

  • F7mae i “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”), “Penderfyniad 2011/131” (“Decision 2011/131”), “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 1021/2008” (“Regulation 1021/2008”), “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”), “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”), F16...”), “Rheoliad 739/2011” (“Regulation 739/2011”), “Rheoliad 809/2011” (“Regulation 809/2011”), “Rheoliad 880/2011” (“Regulation 880/2011”), “Rheoliad 1086/2011” (“Regulation 1086/2011”), “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”), “Rheoliad 1169/2011” (“Regulation 1169/2011”), “Rheoliad 1223/2011” (“Regulation 1223/2011”), “Rheoliad 1277/2011” (“Regulation 1277/2011”), “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”) F17Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”), “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) a “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”) yr ystyr a roddir iddynt, yn eu trefn, yn Atodlen 1;

  • ystyr “y Rheoliadau Hylendid” (“the Hygiene Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau'r Gymuned;

  • ystyr “Rheoliadau'r Gymuned” (“the Community Regulations”) yw Rheoliad 852/2004, Rheoliad 853/2004, Rheoliad 854/2004, Rheoliad 2073/2005 a Rheoliad 2075/2005; ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau Hylendid.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf, yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

3

Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yn ôl y digwydd.

4

Pan gaiff unrhyw sywddogaethau o dan y Ddeddf eu haseinio—

a

drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Haint) 19847, i awdurdod iechyd porthladd neu

b

drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 19368, i gyd-bwyllgor dros ranbarth unedig;

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod yr aseiniwyd hwy iddo.

5

Pan fyddai unrhyw gyfnod o lai na saith niwrnod a bennir yn y Rheoliadau hyn, ar wahân i'r paragraff hwn, yn cynnwys unrhyw ddiwrnod sydd—

a

yn ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig neu'n ddydd Gwener y Groglith; neu

b

yn ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19719,

hepgorir y diwrnod hwnnw o'r cyfnod.

F86

Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y diwygir unrhyw atodiad iddo o bryd i'w gilydd.

Rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan boblI33

1

Mae'r paragraffau canlynol yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

2

Rhaid rhagdybio, hyd nes y profir y gwrthwyneb, fod unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl, os yw wedi'i roi ar y farchnad neu wedi'i gynnig, wedi'i arddangos neu wedi'i gadw i'w roi ar y farchnad, wedi cael ei roi ar y farchnad neu, yn ôl y digwydd, y bwriadwyd neu y bwriedir ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl.

3

Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir y canlynol, sef—

a

unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre a ddefnyddir ar gyfer paratoi neu storio'r bwyd hwnnw neu ar gyfer ei roi ar y farchnad; a

b

unrhyw eitem neu sylwedd a ddefnyddir yn gyffredin i weithgynhyrchu bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre a ddefnyddir ar gyfer paratoi neu storio'r bwyd hwnnw neu ar gyfer ei roi ar y farchnad

ar gyfer ei roi ar y farchnad, neu ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd i'w roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl.

4

Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir unrhyw eitem neu sylwedd y mae modd ei defnyddio neu ei ddefnyddio i fod yn gyfansoddyn unrhyw fwyd neu i baratoi unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre lle mae'r bwyd hwnnw'n cael ei baratoi, ar gyfer defnydd o'r fath.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Yr awdurdod cymwysI44

Yr Asiantaeth yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau'r Gymuned ac eithrio pan fo wedi dirprwyo cymwyseddau fel y darperir ar ei gyfer yn y Rheoliadau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

GorfodiI55

1

O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 yn gymwys i'w weithrediadau ond nad yw Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddynt—

a

rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodiad I i Reoliad 852/2004 heblaw'r gweithrediadau cysylltiedig a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) ac (c) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y maent yn ymwneud ag anifeiliaid hela gwyllt; a

b

rhaid i'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfodi a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).

2

O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 a Rheoliad 853/2004 ill dau yn gymwys i'w weithrediadau—

a

rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gweithrediadau mewn perthynas â'r sefydliadau a'r gweithgareddau canlynol—

i

lladd-dai,

ii

sefydliadau sy'n trin anifeiliaid hela, neu

iii

safleoedd torri sy'n rhoi cig ffres ar y farchnad, a

b

rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfod a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).

3

O ran—

a

canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu gelatin a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â, pharagraff 5 o Bennod I Adran XIV o Atodiad III i Reoliad 853/2004; a

b

canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â, pharagraff 5 o Bennod I Adran XV o Atodiad III i Reoliad 853/2004,

rhaid i'r awdurdod bwyd y lleolir y ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn.

4

Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan—

a

Atodlenni 3 i 5; a

b

Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl ac eithrio llaeth buchod crai.

5

Rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl.

6

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac—

    1. a

      sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

    2. b

      a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 199510 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 199511;

  • ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac—

    1. a

      sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

    2. b

      (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster prosesu anifeiliaid hela gwyllt trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu 199512; ac

  • ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl ac—

    1. a

      sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

    2. b

      (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

RHAN IIY PRIF DDARPARIAETHAU

Hysbysiadau gwella hylendidI66

1

Os bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi seiliau rhesymol dros gredu bod gweithredydd busnes bwyd yn methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid, caiff y swyddog drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person hwnnw (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwella hylendid”)—

a

datgan seiliau'r swyddog dros gredu bod y gweithredydd busnes bwyd yn methu, chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid;

b

pennu'r materion sy'n golygu bod y gweithredydd busnes bwyd wedi methu, chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid;

c

pennu'r mesurau y mae'n rhaid i'r gweithredydd busnes bwyd eu cymryd, ym marn y swyddog, i sicrhau ei fod yn cydymffurfio; ac

ch

ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredydd busnes bwyd gymryd y mesurau hynny, neu'r mesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn unrhyw gyfnod (heb fod yn llai na 14 diwrnod) a bennir yn yr hysbysiad.

2

Bydd unrhyw berson sy'n methu, chydymffurfio â hysbysiad gwella hylendid yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gorchmynion gwahardd at ddibenion hylendidI77

1

Os—

a

y caiff gweithredydd busnes bwyd ei gollfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

b

y caiff y llys y collfarnwyd y gweithredydd felly ganddo neu ger ei fron ei fodloni bod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran y busnes bwyd o dan sylw,

bydd y llys yn gosod y gwaharddiad priodol drwy orchymyn.

2

Bodlonir yr amod ynglŷn â risg iechyd mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd os yw unrhyw un o'r canlynol yn cynnwys risg o niwed i iechyd (gan gynnwys unrhyw nam, boed hwnnw'n barhaol neu dros dro), sef—

a

defnyddio at ddibenion y busnes unrhyw broses neu driniaeth;

b

adeiladu unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes, neu ddefnyddio at y dibenion hynny unrhyw gyfarpar; ac

c

sefyllfa neu gyflwr unrhyw fangre neu gyfarpar a ddefnyddir at ddibenion y busnes.

3

Y gwaharddiad priodol yw—

a

mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a) o baragraff (2), gwaharddiad ar ddefnyddio proses neu driniaeth at ddibenion y busnes;

b

mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar ddefnyddio'r fangre neu'r cyfarpar at ddibenion y busnes neu unrhyw fusnes bwyd arall o'r un dosbarth neu ddisgrifiad; ac

c

mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar ddefnyddio'r fangre neu'r cyfarpar at ddibenion unrhyw fusnes bwyd.

4

Os—

a

y bydd gweithredydd busnes bwyd yn cael ei gollfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

b

y bydd y llys y cafodd y gweithredydd ei gollfarnu felly ganddo neu ger ei fron yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos,

caiff y llys, drwy orchymyn, osod gwaharddiad a fyddai'n atal y gweithredydd busnes bwyd rhag cymryd rhan yng ngwaith rheoli unrhyw fusnes bwyd, neu unrhyw fusnes bwyd o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn.

5

Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) neu (4) (gorchymyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid”), rhaid i'r awdurdod gorfodi—

a

cyflwyno copi o'r gorchymyn i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol; a

b

yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), gosod copi o'r gorchymyn mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd ac y mae'n barnu ei bod yn briodol,

a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i orchymyn o'r fath yn euog o dramgwydd.

6

Bydd gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol—

a

yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), pan fydd yr awdurdod gorfodi wedi dyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd mesurau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg iechyd yn cael ei fodloni mwyach mewn perthynas â'r busnes bwyd; a

b

yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (4), pan fydd y llys yn rhoi cyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw.

7

Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan is-baragraff (a) o baragraff (6) cyn pen tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni yn y modd a grybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw; ac ar gais gan y gweithredydd busnes bwyd am dystysgrif o'r fath, rhaid i'r awdurdod —

a

penderfynu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod, a yw wedi'i fodloni felly neu beidio; a

b

os bydd yn penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, rhoi hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

8

Rhaid i'r llys roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (b) o baragraff (6) os yw'r llys, ar ôl cael cais gan y gweithredydd busnes bwyd, yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys yn benodol ymddygiad y gweithredydd busnes bwyd ers gwneud y gorchymyn; ond ni fydd unrhyw gais o'r fath yn cael ei ystyried os yw'n cael ei wneud—

a

cyn pen chwe mis ar ôl gwneud y gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid; neu

b

cyn pen tri mis ar ôl i'r gweithredydd busnes bwyd wneud cais blaenorol am gyfarwyddyd o'r fath.

9

Pan fo llys ynadon yn gwneud gorchymyn o dan baragraff (2) o reoliad 8 mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd, bydd paragraff (1) yn gymwys fel petai'r gweithredydd busnes bwyd wedi'i gollfarnu gan y llys o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

10

Pan fo'r ffaith bod tramgwydd wedi'i gyflawni gan weithredydd busnes bwyd yn arwain at gollfarnu person arall yn unol â rheoliad 10, bydd paragraff (4) yn gymwys o ran y person arall hwnnw yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran y gweithredydd busnes bwyd a dehonglir unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (5) neu (8) at y gweithredydd busnes bwyd yn unol â hynny.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys at ddibenion hylendidI88

1

Os yw swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi'i fodloni bod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran unrhyw fusnes bwyd, caiff y swyddog osod y gwaharddiad priodol drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid”).

2

Os yw llys ynadon wedi'i fodloni, ar gais swyddog o'r fath, fod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran unrhyw fusnes bwyd, rhaid i'r llys, drwy orchymyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid”), osod y gwaharddiad priodol.

3

Ni chaiff swyddog o'r fath wneud cais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid oni bai bod y swyddog, o leiaf un diwrnod cyn dyddiad y cais, wedi cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol o'i fwriad i wneud cais am y gorchymyn.

4

Bydd paragraffau (2) a (3) o reoliad 7 yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw, ond fel petai'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at risg o niwed i iechyd yn gyfeiriad at risg agos o niwed.

5

Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid, rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi osod copi o'r hysbysiad mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd ag y mae'n barnu ei bod yn briodol; a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r hysbysiad hwnnw yn euog o dramgwydd.

6

Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid, rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi—

a

cyflwyno copi o'r gorchymyn i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol; a

b

gosod copi o'r gorchymyn mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd y mae'r swyddog yn barnu ei bod yn briodol,

a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r gorchymyn hwnnw yn euog o dramgwydd.

7

Bydd hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol—

a

os na wneir unrhyw gais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid o fewn y cyfnod o dri diwrnod gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw; neu

b

os gwneir cais o'r fath felly, adeg penderfynu neu ollwng y cais.

8

Bydd hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol pan fydd yr awdurdod gorfodi yn dyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd mesurau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg iechyd yn cael ei fodloni mwyach o ran y busnes bwyd.

9

Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (8) cyn pen tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni yn y modd a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw; a phan fydd y gweithredydd busnes bwyd yn cyflwyno cais am dystysgrif o'r fath, rhaid i'r awdurdod—

a

penderfynu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod a yw wedi'i fodloni felly neu beidio; a

b

os yw'n penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, rhoi hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

10

Pan fo hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid yn cael ei gyflwyno i weithredydd busnes bwyd, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredydd am unrhyw golled a gafwyd oherwydd y ffaith bod y gweithredydd wedi cydymffurfio â'r hysbysiad—

a

oni chaiff cais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid ei wneud o fewn y cyfnod o dri diwrnod gan ddechrau ar ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad; a

b

oni fydd y llys yn datgan ei fod wedi'i fodloni, ar ôl gwrando'r cais, fod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas â'r busnes bwyd adeg cyflwyno'r hysbysiad,

a gellir penderfynu drwy gymrodeddu unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Hysbysiadau camau cywiro a hysbysiadau cadwI99

1

Pan fo'n ymddangos i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi mewn perthynas â sefydliad F4...—

a

bod unrhyw un o ofynion y Rheoliadau Hylendid yn cael ei dorri; neu

b

bod arolygiad o dan y Rheoliadau Hylendid yn cael ei lesteirio,

caiff y swyddog, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad camau cywiro”)—

c

gwahardd defnyddio unrhyw gyfarpar neu unrhyw ran o'r sefydliad a bennir yn yr hysbysiad;

ch

gosod amodau ar gyflawni unrhyw broses neu wahardd cyflawni unrhyw broses;

d

ei gwneud yn ofynnol i'r gyfradd weithredu gael ei lleihau i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad, neu i gael ei stopio'n gyfan gwbl.

2

Rhaid cyflwyno hysbysiad camau cywiro cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan nodi'r rheswm pam y mae'n cael ei gyflwyno.

3

Os yw'n cael ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo enwi'r toriad a'r camau y mae eu hangen i'w gywiro.

4

Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog awdurdodedig yr hysbysiad camau cywiro gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni bod y camau hynny wedi'u cymryd, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd.

5

Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi, mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw (hysbysiad y cyfeirir ato yn y rheoliad hyn fel “hysbysiad cadw”) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail neu fwyd gael ei gadw at ddibenion archwilio (gan gynnwys cymryd samplau).

6

Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog yr hysbysiad cadw gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni nad oes angen cadw'r anifail neu'r bwyd mwyach, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw.

7

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio, hysbysiad camau cywiro neu hysbysiad cadw yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau oherwydd bai person arallI1010

Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwyI1111

1

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.

2

Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir—

a

o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

b

pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir,

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

RHAN IIIGWEINYDDU A GORFODI

Caffael samplauI1212

Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi—

a

prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;

b

cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd—

i

sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn fwyd neu'n sylwedd y bwriedir ei roi ar y farchnad neu y bwriadwyd ei roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl, neu

ii

a geir gan swyddog ar neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan neu o dan reoliad 14;

c

cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, a geir gan y swyddog ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac

ch

cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd a geir gan swyddog ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdani neu amdano fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Dadansoddi etc samplauI1313

1

Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 12—

a

os yw o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi, ei chyflwyno i gael ei dadansoddi—

i

gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal y cafodd y sampl ei chaffael ynddi, neu

ii

gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal sydd wedi'i ffurfio o ardal yr awdurdod neu sy'n ei chynnwys;

b

os yw o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio, ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

2

Caiff person, nad yw'n swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—

a

i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal y prynwyd y bwyd neu'r sylwedd ynddi; neu

b

i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

3

Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.

4

Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl y digwydd, anfon y sampl i unrhyw ddadansoddydd bwyd arall neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.

5

Rhaid i ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—

a

os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a

b

os yw'r sampl wedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi,

caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.

6

Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno drwyddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.

7

Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.

8

Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—

a

dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu

b

dogfen a ddarparwyd iddo gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,

yn dystiolaeth ddigonol i'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw fel tyst.

9

Yn y rheoliad hwn, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus yn cael eu penodi ar gyfer unrhyw ardal, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal honno fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.

10

Mae Rheoliadau F9Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013 yn gymwys o ran sampl a gaffaelir gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd o dan reoliad 12 fel pe bai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.

11

Rhaid i dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff 6 fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 3 i Reoliadau F9Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013 .

Pwerau mynediadI1414

1

Mae gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

a

i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal, neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau Hylendid yn cael neu wedi cael ei thorri;

b

i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn neu'r tu allan i ardal neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno neu'r dosbarth hwnnw; ac

c

i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i ddod i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

2

Mae gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn—

a

darganfod a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau Hylendid yn cael neu wedi cael ei thorri;

b

darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath; ac

c

i'r Asiantaeth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,

ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i ddod i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.

3

Os yw ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai—

a

bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y synhwyrir y caiff ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

b

y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

4

Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

5

Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

6

Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

a

caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.

7

Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (6)—

a

cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn; a

b

pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatâu mynd â hwy oddi yno.

8

Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.

9

Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 198114, i fynd i mewn i unrhyw fangre—

a

lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio ar yr anifail neu'r aderyn hwnnw; a

b

sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath.

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 14 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rhwystro, etc. swyddogionI1515

1

Bydd unrhyw berson sydd—

a

yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau Hylendid ar waith; neu

b

yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau Hylendid ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,

yn euog o dramgwydd.

2

Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (b) o baragraff (1)—

a

yn darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

b

yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

3

Nid oes dim ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 15 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadauI1616

Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad o dan y Rheoliadau hyn am dramgwydd y gellir ei gosbi o dan is-baragraff (2) o reoliad 17 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

a

tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

b

blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Annotations:
Commencement Information
I16

Rhl. 16 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Tramgwyddau a chosbauF2I1717

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (8), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un neu rai ohonynt yn euog o dramgwydd.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

a

o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol; neu

b

o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

3

Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 15 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

4

Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen gyda pharagraff 4 o Bennod IV o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw (swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi eu neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd).

5

Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3A, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

6

Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3B, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

7

Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3C, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo da byw onid yw'r awdurdod cymwys yn caniatáu iddynt beidio â chael lleoedd o'r fath a bod lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).

8

Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3Ch, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6(b) o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo onid oes lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).

Tramgwyddau gan gyrff corfforaetholI1818

1

Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol, sef—

a

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

b

unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â, hynny.

2

Yn is-baragraff (a) o baragraff (1) ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I18

Rhl. 18 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Tramgwyddau gan bartneriaethau AlbanaiddI1919

Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Annotations:
Commencement Information
I19

Rhl. 19 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Yr hawl i apelioI2020

1

Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan—

a

penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad gwella hylendid; neu

b

penderfyniad awdurdod gorfodi i wrthod dyroddi tystysgrif o dan baragraff (6) o reoliad 7 neu baragraff (8) o Reoliad 8; neu

c

penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad camau cywiro,

apelio i lys ynadon.

2

Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 198015 fydd yn gymwys i'r achos cyfreithiol.

3

Y cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) yw—

a

un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person a oedd yn dymuno apelio; neu

b

yn achos apêl yn erbyn penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwella hylendid, y cyfnod a bennir yn is-baragraff (a) neu, os yw'n fyrrach, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6,

a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

Annotations:
Commencement Information
I20

Rhl. 20 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Apelau i Lys y GoronI2121

Caiff berson a dramgwyddir gan—

a

y ffaith bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan baragraff (1) o reoliad 20; neu

b

unrhyw benderfyniad gan y llys hwnnw i wneud gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid,

apelio i Lys y Goron.

Annotations:
Commencement Information
I21

Rhl. 21 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Apelau yn erbyn hysbysiadau gwella hylendid a hysbysiadau camau cywiroI2222

1

Pan apelir yn erbyn hysbysiad gwella hylendid neu hysbysiad camau cywiro, caiff y llys ganslo neu gadarnhau'r hysbysiad, ac os yw'n ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda'r addasiadau y mae'r llys yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau.

2

Pan fyddai unrhyw gyfnod a bennir mewn hysbysiad gwella hylendid yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6 yn cynnwys fel arall unrhyw ddiwrnod y mae apêl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw yn yr arfaeth, ni fydd y diwrnod hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cyfnod hwnnw.

3

Ystyrir bod unrhyw apêl yn yr arfaeth at ddibenion paragraff (2) hyd nes y penderfynir arni yn derfynol, y tynnir hi'n ôl, neu hyd nes y caiff ei dileu oherwydd diffyg erlyniad.

F54

Pan fo llys, ar apêl yn erbyn hysbysiad camau cywiro o dan baragraff (1), yn canslo'r hysbysiad, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredydd busnes bwyd a ddygodd yr apêl mewn cysylltiad ag unrhyw golled a gafwyd oherwydd bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cydymffurfio â'r hysbysiad, a bydd unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw yn cael ei benderfynu drwy gymrodeddu.

Cymhwyso adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990I2323

Mae adran 9 o'r Ddeddf (arolygu bwyd amheus a chymryd meddiant ohono)16 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad ei bod yn gymwys o ran swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd.

Annotations:
Commencement Information
I23

Rhl. 23 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

RHAN IVDARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL

Pŵer i ddyroddi codau arferion a argymhellirI2424

1

Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyroddi codau arferion a argymhellir o ran gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau Hylendid i fod yn ganllawiau i awdurdodau bwyd.

2

Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.

3

Drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt gan neu o dan y Rheoliadau Hylendid, rhaid i bob awdurdod bwyd—

a

rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a

b

cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â'r cod hwnnw.

4

Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.

5

Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).

6

Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.

Annotations:
Commencement Information
I24

Rhl. 24 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyllI2525

1

Ni fydd swyddog i awdurdod gorfodi yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—

a

wrth weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Hylendid; a

b

o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Hylendid yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

2

Nid oes dim ym mharagraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod gorfodi rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion awdurdodedig.

3

Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod gorfodi mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog hwnnw—

a

wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Hylendid; ond

b

y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,

caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

4

Ymdrinnir â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y swyddog yn benodiad amser-cyfan neu beidio.

Annotations:
Commencement Information
I25

Rhl. 25 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Dirymu dynodiadau a phenodiadau a'u hatal dros droI2626

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff yr Asiantaeth ar unrhyw bryd ddirymu neu atal dros dro—

a

penodi milfeddyg swyddogol;

b

dynodi milfeddyg cymeradwy; neu

c

penodi cynorthwy-ydd swyddogol,

os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth fod y person o dan sylw yn anffit i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r swydd honno o dan y Rheoliadau Hylendid.

2

Pan fo'r Asiantaeth yn dirymu neu'n atal dros dro ddynodiad neu benodiad o dan baragraff (1), rhaid i'r Asiantaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi i'r person y mae ei ddynodiad neu ei benodiad wedi'i ddirymu neu wedi'i atal dros dro hysbysiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y dirymiad neu'r ataliad dros dro a rhoi i'r person hwnnw gyfle—

a

i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Asiantaeth yngl^yn â'r dirymiad neu'r ataliad dros dro; neu

b

i gael gwrandawiad gan berson a enwir gan yr Asiantaeth at y diben yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff (5).

3

Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (2) roi gwybod i'r person y caiff ei roi iddo—

a

am ei hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig;

b

ym mha ddull ac o fewn pa amser (heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad) y caniateir i'r sylwadau hynny gael eu cyflwyno;

c

am ei hawl i gael gwrandawiad; ac

ch

ym mha ddull ac o fewn pa amser (heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad) y caniateir iddo wneud cais am gyfle i gael gwrandawiad.

4

Os bydd y person y mae ei ddynodiad neu ei benodiad wedi'i ddirymu neu wedi'i atal dros dro yn cyflwyno unrhyw sylwadau (boed ar lafar neu mewn ysgrifen) o dan baragraff (3), rhaid i'r Asiantaeth ailystyried a yw'r person hwnnw'n anffit i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r swydd y mae'n ei dal o dan y Rheoliadau Hylendid a rhaid iddi ailystyried cyn gynted ag y bo'n ymarferol ei phenderfyniad i ddirymu neu atal dros dro'r dynodiad neu'r penodiad o dan baragraff (1) yng ngoleuni'r sylwadau hynny.

5

Pan fo person yn gofyn am gyfle i gael gwrandawiad yn unol ag is-baragraff (6) o baragraff (2)—

a

rhaid i'r Asiantaeth enwi person i benderfynu'r mater o'r rhestr a sefydlwyd o dan baragraff (6);

b

rhaid i'r person a enwir felly gyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gofyn am gyfle i gael gwrandawiad ac i'r Asiantaeth, yn rhoi gwybod iddynt am amser y gwrandawiad (a'r amser hwnnw heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad); ac

c

rhaid i'r person a enwir felly hysbysu o fewn 21 niwrnod i'r gwrandawiad y person sy'n gofyn am gyfle i gael gwrandawiad a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.

6

Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwi at ddibenion y rheoliad hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli milfeddygon swyddogol, milfeddygon cymeradwy a chynorthwywyr swyddogol gan gynnwys unrhyw berson ar y rhestr.

Annotations:
Commencement Information
I26

Rhl. 26 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Bwyd nad yw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau HylendidI2727

1

Wrth arolygu unrhyw fwyd, caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi ardystio nad yw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid.

2

Pan fo unrhyw fwyd yn cael ei ardystio fel a grybwyllwyd ym mharagraff (1), ymdrinnir ag ef at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

3

Pan fo unrhyw fwyd a ardystiwyd fel a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, rhaid i'r holl fwyd yn y swp, y lot neu'r llwyth, hyd nes y profir ei fod wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu neu wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid, gael ei drin at ddibenion paragraff (2) fel bwyd sydd wedi'i ardystio felly.

Annotations:
Commencement Information
I27

Rhl. 27 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Cyflwyno dogfennauI2828

1

Caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i weithredydd busnes bwyd gael ei chyflwyno—

a

drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;

b

yn achos cwmni corfforaethol neu gorff corfforaethol, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y cwmni neu'r corff hwnnw, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno; neu

c

yn achos unrhyw weithredydd busnes bwyd arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at y gweithredydd yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.

2

Pan fo dogfen i'w chyflwyno i weithredydd busnes bwyd o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo mangre'r gweithredydd busnes bwyd heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y gweithredydd busnes bwyd o dan sylw yn ei swyddogaeth fel meddiannydd y fangre honno (gan ei henwi), ac

a

drwy ei thraddodi i ryw berson arall yn y fangre; a

b

os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen, neu gopi ohoni, ar ryw ran amlwg o'r fangre.

Annotations:
Commencement Information
I28

Rhl. 28 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môrI2929

Mae Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr) yn effeithiol.

Annotations:
Commencement Information
I29

Rhl. 29 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion rheoli tymhereddI3030

Mae Atodlen 4 (gofynion rheoli tymheredd) yn effeithiol.

Annotations:
Commencement Information
I30

Rhl. 30 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y ffermI3131

Mae Atodlen 5 (y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm) yn effeithiol.

Annotations:
Commencement Information
I31

Rhl. 31 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl a diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996I3232

1

Mae Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl) yn effeithiol.

2

Ym mharagraff (1) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 199617 dileer y geiriau “Subject to paragraph (3) of this regulation, and except” a rhoi'r gair “Except” yn eu lle.

3

Ym mharagraff (2) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 dileer y geiriau “Subject to paragraph (3) of this regulation, in” a rhoi'r gair “In” yn eu lle.

4

Ym mharagraffau (1) a (2) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996, yn union ar ôl y geiriau “harmful to health.” rhodder y geiriau “The Food Standards Agency strongly advises that it should not be consumed by children, pregnant women, older people or those who are unwell or have chronic illness.”.

5

Dileer paragraff (3) o reoliad 31 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996.

Annotations:
Commencement Information
I32

Rhl. 32 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Marc iechyd arbennigF1832A

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau canlyniadolI3333

1

I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, diwygir yr offerynnau a bennir yn Atodlen 7 i'r graddau a bennir yno.

2

Yn lle Nodyn 3 yn Atodlen 1 i Reoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 200318 (cynhyrchion llaeth sydd wedi'u dadhydradu a'u preserfio yn rhannol neu'n llwyr a'u disgrifiadau neilltuedig) rhodder y Nodyn canlynol—

3

Llwyddir i breserfio'n cynhyrchion dynodedig—

a

drwy drin â gwres ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(a) i (ch) o golofn 1 yn yr Atodlen hon;

b

drwy ychwanegu swcros ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(d) i (e) o golofn 1 yn yr Atodlen hon; a

c

drwy ddadhydradu ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon.

Annotations:
Commencement Information
I33

Rhl. 33 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DirymiadauI3434

1

Dirymir Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005.

Annotations:
Commencement Information
I34

Rhl. 34 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199819

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLENNI

F6ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH UE

Rheoliad 2(1)

Annotations:
  • Ystyr “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/766/EC sy'n sefydlu rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad 2011/131;

  • Ystyr “Penderfyniad 2011/131” (“Decision 2011/131”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2011/131/EU sy'n diwygio Atodiad II i Benderfyniad 2006/766/EC sy'n ymwneud â chynnwys Fiji yn y rhestr o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd ohonynt ar gyfer eu bwyta gan bobl;

  • Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu rhai cyfarwyddebau ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu, a rhoi ar y farchnad, rhai cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC;

  • Ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 596/2009;

  • Ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad 2073/2005 F10a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ;

  • Ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 16/2012 ac fel y'i darllenir ynghyd â Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1020/2008 a F12Rheoliad 1079/2013 ;

  • Ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 739/2011 ac fel y'i darllenir ynghyd â Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005, Rheoliad 2076/2005, Penderfyniad 2006/766, Rheoliad 1021/2008 a F13Rheoliad 1079/2013 ;

  • Ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau y gwirir cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 880/2011 ac fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 669/2009 a F14Rheoliad 702/2013 ;

  • Ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer traddodi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1223/2011;

  • Ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar griteria microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1086/2011;

  • Ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 809/2011;

  • F20ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig fel y’i diwygiwyd ddiwethaf mewn cysylltiad â’i erthyglau gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 216/2014

  • Ystyr “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1020/2008 sy'n diwygio Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid a Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran marciau adnabod, llaeth crai a chynhyrchion llaeth, wyau a chynhyrchion wyau a chynhyrchion pysgodfeydd penodol;

  • Ystyr “Rheoliad 1021/2008” (“Regulation 1021/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1021/2008 sy'n diwygio Atodiadau I, II a III i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl a Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran molysgiaid deufalf byw, cynhyrchion pysgodfeydd penodol a staff sy'n cynorthwyo â'r rheolaethau swyddogol mewn lladd-dai;

  • Ystyr “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 219/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Dau20;

  • Ystyr “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar21, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1169/2011;

  • Ystyr “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch y cynnydd yn lefel y rheolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n tarddu o anifeiliaid ac yn diwygio Penderfyniad 2006/504/EC22, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1277/2011;

  • F11...23

  • Ystyr “Rheoliad 739/2011” (“Regulation 739/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 739/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl24;

  • Ystyr “Rheoliad 809/2011 (“Regulation 809/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 809/2011 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran dogfennau sy'n mynd gyda mewnforion o gynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi eu rhewi ac sy'n dod yn uniongyrchol o lestr rhewi;

  • Ystyr “Rheoliad 880/2011” (“Regulation 880/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 880/2011 sy'n cywiro Rheoliad (EU) Rhif 208/2011 sy'n diwygio Atodiad VII i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliadau'r Comisiwn (EC) Rhif 180/2008 ac (EC) Rhif 737/2008 o ran rhestrau o labordai cyfeirio UE a'u henwau;

  • Ystyr “Rheoliad 1086/2011” (“Regulation 1086/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1086/2011 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 o ran salmonella mewn cig dofednod ffres;

  • Ystyr “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1109/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005 o ran y dulliau cyfwerth o brofi am Trichinella;

  • Ystyr “Rheoliad 1169/2011” (“Regulation 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;

  • Ystyr “Rheoliad 1223/2011” (“Regulation 1223/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1223/2011 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1688/2005 o ran samplu'r heidiau y mae wyau'n tarddu ohonynt ac archwiliadau microbiolegol o samplau o'r fath a samplau o gig penodol a fwriedir ar gyfer y Ffindir a Sweden;

  • Ystyr “Rheoliad 1277/2011” (“Regulation 1277/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1277/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y lefel uwch o reolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n tarddu o anifeiliaid;

  • Ystyr “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 16/2012 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y gofynion sy'n ymwneud â bwyd wedi ei rewi, sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar ei fwyta gan bobl;

  • Ystyr “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 28/2012 sy'n gosod gofynion ardystio ar gyfer mewnforio cynhyrchion cyfansawdd penodol i'r Undeb, a chludo'r cynhyrchion hynny drwyddo, ac sy'n diwygio Penderfyniad 2007/275/EC a Rheoliad (EC) Rhif 1162/2009.

    F15“ystyr “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 702/2013 ar fesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran achredu labordai swyddogol sy’n cynnal profion swyddogol ar gyfer Trichinella;

    ystyr “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1079/2013 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor..

I85ATODLEN 2DARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG

Rheoliadau 2(1) a 17

Annotations:
Commencement Information
I85

Atod. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amendments (Textual)
F3

Geiriau yn Offeryn wedi eu hamnewid (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10

1. Y Ddarpariaeth yn Rheoliadau'r ymuned

2. Y Pwnc

Erthygl 3 o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod pob cam yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd sydd o dan eu rheolaeth yn bodloni'r gofynion perthnasol o ran hylendid sydd wedi'u nodi yn Rheoliad 852/2004.

Erthygl 4(1) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n gwneud gwaith cynhyrchu sylfaenol a gweithrediadau cysylltiedig penodol yn cydymffurfio â'r darpariaethau hylendid cyffredinol a bennir yn Rhan A o Atodiad I i Reoliad 852/2004 ac unrhyw ofynion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad 853/2004.

Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n cyflawni unrhyw gam yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd ar ôl y camau hynny y mae Erthygl 4(1) yn gymwys iddynt yn cydymffurfio â'r gofynion cyffredinol o ran hylendid a nodir yn Atodiad II i Reoliad 852/2004 ac unrhyw ofynion penodol y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad 853/2004.

Erthygl 4(3) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd, fel y bo'n briodol, yn mabwysiadu rhai mesurau hylendid penodol.

Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sefydlu, gweithredu a chynnal gweithdrefn neu weithdrefnau parhaol ar sail egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).

Erthygl 5(2) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd, pan fo unrhyw addasiad yn cael ei wneud i'r cynnyrch, y broses, neu i unrhyw gam yn y broses, yn adolygu'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 5(1) ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol iddi.

Erthygl 5(4)(a) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn darparu i'r awdurdod cymwys dystiolaeth eu bod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1).

Erthygl 5(4)(b) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod unrhyw ddogfennau sy'n disgrifio'r gweithdrefnau a ddatblygwyd yn unol ag Erthygl 5 yn gyfoes.

Erthygl 5(4)(c) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn dal eu gafael ar ddogfennau a chofnodion am gyfnod priodol.

Erthygl 6(1) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydweithredu â'r awdurdodau cymwys yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth arall y Gymuned neu unrhyw gyfraith genedlaethol arall sy'n gymwys.

Erthygl 6(2), paragraff cyntaf Rheoliad

Gofyniad bod gweithredydd busnes bwyd yn hysbysu'r 852/2004 awdurdod cymwys o bob sefydliad o dan ei reolaeth sy'n cyflawni unrhyw un o'r camau yn y broses o gynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd.

Erthygl 6(2), ail baragraff Rheoliad

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau 852/2004 bod gan yr awdurdod cymwys wybodaeth gyfoes am sefydliadau.

Erthygl 6(3) o Reoliad 852/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod sefydliadau yn cael eu cymeradwyo gan yr awdurdod cymwys pan fo angen cymeradwyaeth.

Erthygl 3(1) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Atodiadau II a III i Reoliad 853/2004.

Erthygl 3(2) o Reoliad 853/2004

Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn defnyddio unrhyw sylwedd heblaw dŵr yfadwy neu, pan fo Rheoliad 852/2004 neu Reoliad 853/2004 yn caniatáu ei ddefnyddio, dŵr glân i dynnu halogiad ar y wyneb oddi ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid, oni bai bod defnyddio'r sylwedd wedi'i gymeradwyo.

Erthygl 4(1) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd ddim ond yn rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac sydd wedi'u gweithgynhyrchu yn F3Yr Undeb Ewropeaidd os ydynt wedi'u paratoi a'u trafod yn y sefydliadau canlynol yn unig—

  1. a

    sefydliadau sy'n bodloni gofynion perthnasol Rheoliad 852/2004, rhai perthnasol Atodiadau II a III i Reoliad 853/2004 a gofynion perthnasol eraill cyfraith bwyd; a

  2. b

    y mae'r awdurdod cymwys wedi'u cofrestru neu, pan fo'n ofynnol yn unol ag Erthygl 4(2), wedi'u cymeradwyo.

Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004

Gofyniad nad yw sefydliadau sy'n trafod y cynhyrchion hynny sy'n tarddu o anifeiliaid, ac y mae Atodiad III i Reoliad 853/2004 yn gosod gofynion ar eu cyfer, yn gweithredu onid yw'r awdurdod cymwys wedi'u cymeradwyo yn unol ag Erthygl 4(3).

Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004

Gofyniad na ddylai sefydliadau sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 4(2) weithredu oni bai bod yr awdurdod cymwys, yn unol â Rheoliad 854/2004—

  1. a

    wedi rhoi cymeradwyaeth i'r sefydliad weithredu yn dilyn ymweliad ar y safle; neu

  2. b

    wedi rhoi cymeradwyaeth amodol i'r sefydliad.

Erthygl 4(4) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cydweithredu â'r awdurdodau cymwys yn unol â Rheoliad 854/2004 gan gynnwys sicrhau bod sefydliad yn peidio â gweithredu os nad yw'n sefydliad cymeradwy mwyach.

Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004

Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn rhoi ar y farchnad gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid ac sydd wedi'i drafod mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 4(2) oni bai—

  1. a

    bod marc iechyd wedi'i ddodi arno yn unol â Rheoliad 854/2004; neu

  2. b

    pan nad yw Rheoliad 854/2004 yn darparu ar gyfer dodi marc iechyd, bod marc adnabod yn cael ei ddodi yn unol ag Adran 1 o Atodiad II Reoliad 853/2004.

Erthygl 5(2) o Reoliad 853/2004

Gofyniad mai dim ond os yw'r cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn unol â Rheoliad 853/2004 mewn sefydliadau sy'n bodloni gofynion Erthygl 4 y dylai gweithredwyr busnes bwyd ddodi marc adnabod ar gynnyrch sy'n tarddu o anifeiliaid.

Erthygl 5(3) o Reoliad 853/2004

Gofyniad nad yw gweithredwyr busnes bwyd yn dileu marc iechyd a ddodwyd yn unol â Rheoliad 854/2004 oddi ar gig oni bai eu bod yn ei dorri neu'n ei brosesu neu'n gweithio arno mewn modd arall.

Erthygl 6(1) a (2) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau mai dim ond pan fydd amodau penodol wedi'u bodloni y dylai mewnforio cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ddigwydd.

Erthygl 6(3) o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid sicrhau—

  1. a

    bod cynhyrchion yn cael eu rhoi ar gael i'w rheoli wrth iddynt gael eu mewnforio yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC33;

  2. b

    bod y mewnforio yn cydymffurfio â gofynion Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC34; ac

  3. c

    bod gweithrediadau o dan eu rheolaeth sy'n digwydd ar ôl y mewnforio yn cael eu cyflawni yn unol â gofynion Atodiad III i Reoliad 853/2004.

Erthygl 6(4) o Reoliad 853/2004

Gofynion bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio bwyd sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n tarddu o blanhigion a chynhyrchion proses sy'n tarddu o anifeiliaid yn sicrhau bod y cynhyrchion proses sy'n tarddu o anifeiliaid yn bodloni gofynion paragraffau (1) i (3) o Erthygl 6.

Erthygl 7 o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn sicrhau bod tystysgrifau neu ddogfennau eraill yn mynd gyda llwythi cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid pan fo'n ofynnol yn unol ag Atodiad II neu III i Reoliad 853/2004.

Erthygl 8 o Reoliad 853/2004

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd sy'n bwriadu rhoi bwydydd penodedig sy'n tarddu o anifeiliaid ar y farchnad yn Sweden neu'r Ffindir yn cydymffurfio â'r rheolau a nodir yn Erthygl 8(2).

Erthygl 7(1) o Reoliad 2073/2005

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd yn cymryd y mesurau a bennir ym mharagraffau (2) i (4) o Erthygl 7 pan fydd y canlyniadau ar ôl profi yn erbyn y meni prawf a osodir yn Atodiad I i Reoliad 2073/2005 (meini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd) yn anfoddhaol

Erthygl 9 o Reoliad 2073/2005

Gofyniad bod gweithredwyr busnes bwyd daliadau y cydnabyddir eu bod yn rhydd o Trichinella yn hysbysu'r awdurdod cymwys o unrhyw ofyniad a bennir ym Mhennod I a II(B) o Atodiad IV i Reoliad 2075/2005 (amodau manwl ar gyfer daliadau sy'n rhydd o Trichinella ac ardaloedd lle mae'r risg o Trichinella yn eithriadol o fach) nad yw bellach yn cael ei gyflawni neu unrhyw newid arall a allai effeithio ar statws daliadau sy'n rhydd o Trichinella.

ATODLEN 3SWMPGLUDO OLEWAU HYLIFOL NEU FRASTERAU HYLIFOL AR LONGAU MORDWYOL A SWMPGLUDO SIWGR CRAI DROS Y MôR

Rheoliad 29

TramgwyddI351

Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I35

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Olewau hylifol neu frasterau hylifol

I362

1

Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol sydd i'w prosesu, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo ar longau mordwyol mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

a

pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc dur gwrthstaen, neu danc sydd wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo, rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunydd bwyd neu'n gargo o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol; a

b

pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc o ddeunyddiau heblaw'r rhai a bennir yn is-baragraff (a), rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd neu'n gargoau o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol.

2

At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol” yw'r rhestr a nodir yn yr Atodiad i F19Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014.

I37I363

Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol nad ydynt i'w prosesu ymhellach, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

a

rhaid i'r tanc fod yn danc dur gwrthstaen neu fod wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo; a

b

rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd.

Annotations:
Commencement Information
I37

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I38I364

Rhaid i gapten llong fordwyol sy'n cludo mewn tanciau swmp o olewau hylifol neu frasterau hylifol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gadw tystiolaeth ddogfennol gywir yngl^yn â'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau o dan sylw, ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I38

Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I39I365

Pan fo'r cargo wedi'u drawslwytho, yn ychwanegol at y dystiolaeth ddogfennol sy'n ofynnol yn rhinwedd paragraff 4, rhaid i gapten y llong sy'n ei dderbyn gadw tystiolaeth ddogfennol gywir bod cludo'r swmp o olew hylifol neu fraster hylifol wedi cydymffurfio â darpariaethau paragraff 2 neu 3 yn ystod y llwyth llong blaenorol ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny ar y llong y cawsant eu trawslwytho ohoni.

Annotations:
Commencement Information
I39

Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I40I366

Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i gapten y llong roi i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol a ddisgrifiwyd ym mharagraffau 4 a 5.

Annotations:
Commencement Information
I40

Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Siwgr crai

I417

Caniateir i siwgr crai na fwriedir ei ddefnyddio fel bwyd neu gynhwysyn bwyd heb broses buro lawn ac effeithiol gael ei swmpgludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer cludo deunyddiau bwyd yn unig.

Annotations:
Commencement Information
I41

Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I42I418

Bydd y daliedyddion, y cynwysyddion neu'r tanceri y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 7 yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

a

cyn llwytho'r siwgr crai, rhaid i'r daliedydd, y cynhwysydd neu'r tancer gael ei lanhau'n effeithiol i waredu gweddillion y cargo blaenorol ac unrhyw faeddu arall a'i arolygu i gadarnhau bod y gweddillion hynny wedi'u gwaredu'n effeithiol; a

b

rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd cyn y siwgr crai beidio â bod wedi bod yn swmp-hylif.

Annotations:
Commencement Information
I42

Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I43I419

Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7 gadw tystiolaeth ddogfennol, gan ddisgrifio'n gywir ac yn fanwl y cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y daliedydd, y cynhwysydd neu'r tancer o dan sylw, a math ac effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd cyn cludo'r siwgr crai.

Annotations:
Commencement Information
I43

Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I44I4110

Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol fynd gyda llwyth siwgr crai yn ystod pob cam yn y broses o'i gludo i'r burfa a rhaid i'r burfa gadw copi o'r dystiolaeth honno. Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol gael ei marcio fel a ganlyn mewn modd sy'n hollol weladwy ac annileadwy mewn un neu ragor o ieithoedd y Gymuned: “This product must be refined before being used for human consumption”.

Annotations:
Commencement Information
I44

Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I45I4111

Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r siwgr crai neu'r broses buro ddarparu i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 9 a 10.

Annotations:
Commencement Information
I45

Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I46I4112

Gwneir i siwgr crai sydd wedi'i gludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, fynd drwy broses buro lawn ac effeithiol cyn iddo gael ei ystyried yn addas i'w ddefnyddio fel bwyd neu fel cynhwysyn bwyd.

Annotations:
Commencement Information
I46

Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I47I4113

Wrth gyflawni'r rhwymedigaethau o dan Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004 (dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol) o ran swmpgludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo neu buro siwgr crai—

a

ystyried y broses lanhau yr ymgymerwyd, hi cyn llwytho'r siwgr i'w gludo dros y môr yn bwynt rheoli critigol yn y modd y cyfeirir at “critical control point” yn Erthygl 5(2)(b) o Reoliad 852/2004; a

b

cymryd i ystyriaeth natur y cargo blaenorol sydd wedi'i gludo mewn unrhyw ddaliedydd, cynhwysydd neu dancer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cludo'r siwgr.

Annotations:
Commencement Information
I47

Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliI4814

1

At ddibenion yr Atodlen hon mae unrhyw eiriau neu ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac unrhyw eiriau neu ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/28/EC yn caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau penodol Cyfarwyddeb 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o siwgr crai dros y môr35 yn dwyn yr un ystyr ag ystyr y geiriau neu'r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn eu tro yn y Cyfarwyddebau hynny.

2

Yn yr Atodlen hon, ystyr “Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC” yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC sy'n caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr36, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/4/EC yn diwygio Cyfarwyddeb 96/3/EC yn caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr37.

Annotations:
Commencement Information
I48

Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

F1ATODLEN 3AGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(5)

Rheoliad 17(5)

Annotations:
Amendments (Textual)

Y gofynion yw—

a

bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 199535;

b

mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o garnolion domestig a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

c

pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy;

ch

pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

i

enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

ii

enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

iii

nifer y carcasau neu'r darnau; a

iv

rhywogaeth yr anifail; a

d

nad oes unrhyw waith prosesu at ddibenion eu bwyta gan bobl yn cael ei wneud ar anifeiliaid buchol y mae'n ofynnol, yn unol â phwynt 2 Rhan I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, eu profi i weld a oes BSE arnynt adeg eu cigydda neu anifeiliaid o deulu'r mochyn (anifeiliaid hela domestig a rhai a ffermir), uncarnolion a rhywogaethau eraill anifeiliaid a allai gael Trichinosis y mae'n ofynnol, o dan Erthygl 5 o Reoliad 854/2004 fel y'i darllenir gyda phwynt 1 Rhan C o Bennod IX Adran IV o Atodiad I i'r Rheoliad hwnnw, eu harchwilio i weld a oes Trichinosis arnynt, yn digwydd yn y lladd-dy.

  • At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “Rheoliad TSE y Gymuned” (“Community TSE Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar rai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy36 fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 220/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar rai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy, o ran y pwerau gweithredu a roddwyd i'r Comisiwn37 ac fel y'i darllenir gyda'r canlynol—

    1. i

      Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad 2005/598/EC38,

    2. ii

      Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC sy'n sefydlu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â'u risg BSE39, a

    3. iii

      Penderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE40 fel y diwygiwyd y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/66/EU sy'n diwygio Penderfyniad 2009/719/EC yn awdurdodi rhai Aelod-wladwriaethau i adolygu eu rhaglenni blynyddol ar gyfer monitro BSE41.

ATODLEN 3BGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(6)

Rheoliad 17(6)

Y gofynion yw—

a

bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 199542;

b

mai dim ond yn anaml y bydd cyflwr cig sy'n tarddu o ddofednod neu lagomorffiaid a gigyddwyd yn y lladd-dy yn ei gwneud yn angenrheidiol dal gafael ar y cig hwnnw ar ôl arolygiad post-mortem er mwyn i'r milfeddyg swyddogol wneud arolygiad pellach ohono;

c

pan fo arolygiad pellach o'r fath yn angenrheidiol ym marn y milfeddyg swyddogol, bod y cig o dan sylw yn cael ei ddifa neu fod gafael yn cael ei ddal arno mewn cyfleuster dal gafael amgen yng nghyffiniau'r lladd-dy; ac

ch

pan fo cig yn cael ei gludo o'r lladd-dy i'r cyfleuster dal gafael amgen y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c), rhaid ei farcio â'r geiriau 'detained meat' a rhaid bod gydag ef ddogfen sydd wedi ei llofnodi gan y milfeddyg swyddogol, sy'n datgan bod y cig yn gig y mae gafael yn cael ei ddal arno ac sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

i

enw a chyfeiriad y lladd-dy gwreiddiol;

ii

enw a chyfeiriad y cyfleuster dal gafael amgen;

iii

nifer y carcasau neu'r darnau; a

iv

rhywogaeth yr anifail.

ATODLEN 3CGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(7)

Rheoliad 17(7)

Y gofynion yw—

a

bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 199543;

b

mai dim ond carnolion domestig sydd wedi eu cludo'n uniongyrchol o'r daliad gwreiddiol neu o farchnad y mae'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn eu derbyn;

c

bod y gweithredwr busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r carnolion domestig yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

ch

bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c) am flwyddyn; a

d

bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.

ATODLEN 3ChGOFYNION Y CYFEIRIR ATYNT YN RHEOLIAD 17(8)

Rheoliad 17(8)

Y gofynion yw—

a

bod y lladd-dy ar 31 Rhagfyr 2005 yn un a drwyddedwyd yn lladd-dy trwybwn isel o dan Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 199544;

b

bod y gweithredwr busnes bwyd yn naliad gwreiddiol y dofednod neu'r lagomorffiaid yn eu cludo o'r daliad hwnnw yn uniongyrchol i'r lladd-dy ac yn rhoi ymgymeriad ysgrifenedig i'r gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy mai ef sydd i sicrhau bod y cyfryngau cludo yn cael eu glanhau ac, os yw'n angenrheidiol, yn cael eu diheintio ar ôl eu gwagio;

c

bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cadw'r ymgymeriad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b) am flwyddyn; ac

ch

bod y gweithredwr busnes bwyd yn y lladd-dy yn cydnabod wrth y milfeddyg swyddogol y gallai fod yn ofynnol iddo o dan reolau iechyd anifeiliaid ymatal rhag gweithredu yn y lladd-dy os byddai clefyd anifeiliaid yn brigo.

ATODLEN 4GOFYNION RHEOLI TYMHEREDD

Rheoliad 30

CwmpasI491

Nid yw'r Atodlen hon yn gymwys o ran—

a

unrhyw weithrediad busnes bwyd y mae Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddo; nac

b

unrhyw weithrediad busnes bwyd sy'n cael ei gyflawni ar long neu awyren.

Annotations:
Commencement Information
I49

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion cadw'n oerI502

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 3, bydd unrhyw berson sy'n cadw unrhyw fwyd—

a

sy'n debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a

b

y mae unrhyw weithrediad masnachol yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag ef,

ar neu mewn mangre bwyd ar dymheredd uwchlaw 8°C yn euog o dramgwydd.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd sy'n cael ei gludo, fel rhan o drafodiad archeb drwy'r post, i'r defnyddiwr olaf.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff 3, ni chaiff neb gyflenwi drwy archeb drwy'r post unrhyw fwyd sydd—

a

yn debygol o gynnal twf micro-organeddau pathogenig neu helpu tocsinau i ffurfio; a

b

wrthi'n cael ei gludo neu sydd wedi'i gludo drwy'r post neu drwy gyfrwng cludwr preifat neu gyffredin i'r defnyddiwr olaf,

ar dymheredd sydd wedi arwain neu sy'n debygol o arwain at risg i iechyd.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Esemptiadau cyffredinol rhag y gofynion cadw'n oerI513

Nid yw is-baragraffau (1) a (3) o baragraff 2 yn gymwys o ran—

a

bwyd—

i

sydd wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo,

ii

sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu, a

iii

y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio;

b

bwyd y caniateir ei gadw, am weddill ei oes silff ar dymereddau amgylchynol heb unrhyw risg i iechyd;

c

bwyd y gwneir neu y gwnaed iddo fynd drwy broses megis dadhydradu neu ganio a fwriedir i atal twf micro-organeddau pathogenig ar dymereddau amgylchynol, ond nid—

i

pan fo'r bwyd, ar ôl neu yn rhinwedd y broses honno, wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd aerglos, a

ii

pan fo'r cynhwysydd hwnnw wedi'i agor;

ch

bwyd y mae'n rhaid ei aeddfedu ar dymereddau amgylchynol, ond nid pan fo'r broses aeddfedu wedi'i chwblhau;

d

bwyd crai a fwriedir ar gyfer prosesu pellach (gan gynnwys coginio) cyn i bobl ei fwyta, ond dim ond os bydd y prosesu hwnnw, os ymgymerir ag ef yn gywir, yn gwneud y bwyd hwnnw'n ffit ar gyfer ei fwyta gan bobl;

dd

bwyd y mae Rheoliad y Cyngor 1906/90 yn gymwys iddo; ac

e

bwyd y mae Rheoliad y Cyngor 1907/90 yn gymwys iddo.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amrywio'r tymheredd o 8ºC ar i fyny gan weithgynhyrchwyr etc.I524

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod busnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu'r bwyd, gan gynnwys, pan fo'n berthnasol, y sawl a gyhuddir, wedi argymell y dylid cadw'r bwyd hwnnw—

i

ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8ºC a'r tymereddau amgylchynol, a

ii

am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig;

b

bod yr argymhelliad hwnnw, onid y sawl a gyhuddir yw'r busnes bwyd hwnnw, wedi'i fynegi i'r sawl a gyhuddir naill ai drwy gyfrwng label ar ddeunydd pecynnu'r bwyd neu drwy gyfrwng rhyw ffurf briodol arall ar gyfarwyddyd ysgrifenedig;

c

nad oedd y bwyd wedi'i gadw gan y sawl a gyhuddir ar dymheredd uwchlaw'r tymheredd penodedig; ac

ch

nad aethpwyd, adeg cyflawni'r tramgwydd honedig, y tu hwnt i'r oes silff benodedig.

2

Rhaid i fusnes bwyd sy'n gyfrifol am weithgynhyrchu, paratoi neu brosesu bwyd beidio ag argymell y dylid cadw unrhyw fwyd—

a

ar neu islaw tymheredd penodedig rhwng 8°C a'r tymereddau amgylchynol; a

b

am gyfnod nad yw'n hwy nag oes silff benodedig,

onid yw'r argymhelliad hwnnw wedi'i ategu gan asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar y tymheredd penodedig.

Annotations:
Commencement Information
I52

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Cyfnodau goddef ar gyfer cadw'n oerI535

1

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod y bwyd ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu;

b

nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac yn cael ei arddangos i'w werthu ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, pan fo argymhelliad wedi'i wneud yn unol ag is-baragraff (1) o baragraff 4, y tymheredd a argymhellwyd; ac

c

wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na phedair awr.

2

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i is-baragraff (1) o baragraff 2, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi bod y bwyd—

a

wrthi'n cael ei drosglwyddo—

i

o fangre lle'r oedd y bwyd yn mynd i gael ei gadw ar dymheredd o 8ºC neu islaw hynny, neu o dan amgylchiadau priodol y tymheredd a argymhellir, i gerbyd a ddefnyddir at ddibenion busnes bwyd, neu

ii

i'r fangre honno o'r cerbyd hwnnw; neu

b

wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau priodol, y tymheredd a argymhellir ar gyfer rheswm anochel, megis—

i

dygymod â materion ymarferol trafod y bwyd wrth ei brosesu neu ei baratoi ac ar ôl hynny,

ii

dadrewi'r cyfarpar, neu

iii

y cyfarpar yn torri i lawr dros dro,

a'i fod wedi'i gadw ar dymheredd uwchlaw 8ºC neu, o dan amgylchiadau arbennig, y tymheredd a argymhellwyd am gyfnod cyfyngedig yn unig a bod y cyfnod hwnnw'n cydweddu â diogelwch bwyd.

Annotations:
Commencement Information
I53

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Gofynion cadw'n dwymI546

Bydd unrhyw berson sydd, wrth gynnal gweithgareddau busnes bwyd, yn cadw mewn mangre bwyd ar dymheredd islaw 63ºC unrhyw fwyd sydd—

a

wedi'i goginio neu wedi'i aildwymo;

b

sydd i'w arlwyo neu sy'n cael ei arddangos i'w werthu; ac

c

y mae angen ei gadw ar dymheredd o 63ºC neu uwchlaw hynny er mwyn rheoli twf micro-organeddau pathogenig neu atal tocsinau rhag ffurfio,

yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Amddiffyniadau cadw'n dwymI557

1

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod asesiad gwyddonol a sail dda iddo o ddiogelwch y bwyd ar dymereddau islaw 63ºC wedi dod i'r casgliad nad oes unrhyw risg i iechyd os, ar ôl ei goginio nei ei aildwymo, y mae'r bwyd yn cael ei gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu—

i

ar dymheredd cadw sydd islaw 63ºC, a

ii

am gyfnod nad yw'n hwy nag unrhyw gyfnod amser a bennir yn yr asesiad gwyddonol hwnnw; a

b

bod y bwyd, ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd honedig, wedi'i gadw mewn modd a oedd yn gyfiawn yng ngoleuni'r asesiad gwyddonol hwnnw.

2

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff 6, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir brofi—

a

bod y bwyd wedi'i gadw ar gyfer ei arlwyo neu'n cael ei arddangos i'w werthu am gyfnod o lai na dwy awr; a

b

nad oedd y bwyd wedi'i gadw o'r blaen ar gyfer ei arlwyo nac wedi'i arddangos i'w werthu gan y person hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I55

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliI568

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “oes silff” (“shelf life”)—

    1. a

      o ran bwyd y mae dangosiad parhauster lleiaf ar ei gyfer yn ofynnol yn unol â rheoliad 20 o Reoliadau Labelu Bwyd 199638 (ffurf ar ddangos parhauster lleiaf), yw'r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad y mae'n ofynnol ei gynnwys yn y dangosiad hwnnw;

    2. b

      o ran bwyd y mae dyddiad “use by” wedi'i neilltuo ar ei gyfer ar y ffurf sy'n ofynnol yn unol â rheoliad 21 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (ffurf ar ddangos dyddiad “use by”), yw'r cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad hwnnw; ac

    3. c

      o ran bwyd nad yw'n ofynnol iddo ddwyn dangosiad parhauster lleiaf na dyddiad “use by”, yw'r cyfnod y gellid disgwyl i'r bwyd aros yn ffit i'w werthu os yw'n cael ei gadw mewn modd sy'n cydweddu â diogelwch bwyd.

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1906/90” (“Council Regulation 1906/90”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1906/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer dofednod39 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1101/98 sy'n diwygio Rheoliad (EEC) Rhif 1906/90 ynghylch safonau marchnata penodol ar gyfer cig dofednod40;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1907/90” (“Council Regulation 1907/90”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1907/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer wyau41 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2052/2003 yn diwygio Rheoliad (EEC) Rhif 1907/90 ar safonau marchnata penodol ar gyfer wyau42;

  • ystyr “tymheredd a argymhellwyd (“recommended temperature”) yw tymheredd penodedig sydd wedi'i argymell yn unol â pharagraff 4(1)(a)(i);

Annotations:
Commencement Information
I56

Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

ATODLEN 5Y MODD Y MAE'R CYNHYRCHYDD YN CYFLENWI'N UNIONGYRCHOL FEINTIAU BACH O GIG O DDOFEDNOD A LAGOMORFFIAID A GIGYDDWYD AR Y FFERM

Rheoliad 31

CwmpasI571

Mae gofynion yr Atodlen hon yn gymwys i'r modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliadau manwerthu lleol sy'n cyflenwi cig o'r fath yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf fel cig ffres.

Annotations:
Commencement Information
I57

Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

GofynionI582

1

Pan fydd cynhyrchydd yn cyflenwi cig yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 1, rhaid iddo sicrhau ei fod yn dwyn label neu farc arall sy'n dangos yn glir enw a chyfeiriad y fferm lle cafodd yr anifail y mae'r cig yn tarddu ohono ei gigydda.

2

Rhaid i'r cynhyrchydd—

a

cadw cofnod ar ffurf ddigonol i ddangos nifer yr adar a nifer y lagomorffiaid sy'n cael eu derbyn i'w fangre, a meintiau'r cig ffres sy'n cael eu hanfon ohoni, yn ystod pob wythnos;

b

cadw'r cofnod am gyfnod o flwyddyn; ac

c

trefnu bod y cofnod ar gael i swyddog awdurdodedig os bydd yn gofyn amdano.

Annotations:
Commencement Information
I58

Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

TramgwyddI593

Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I59

Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

ATODLEN 6CYFYNGIADAU AR WERTHU LLAETH CRAI A FWRIEDIR AR GYFER EI YFED YN UNIONGYRCHOL GAN BOBL

Rheoliad 32

I601

Bydd unrhyw berson sydd, yn groes i baragraff 5, yn gwerthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I60

Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I612

1

Os bydd unrhyw berson heblaw meddiannydd daliad cynhyrchu neu ddosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd.

2

Os bydd meddiannydd daliad cynhyrchu yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 3, bydd yn euog o dramgwydd.

3

Os bydd dosbarthwr yn gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn groes i baragraff 4, bydd yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I61

Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I623

Caiff meddiannydd daliad cynhyrchu ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—

a

ar neu o fangre'r fferm lle mae'r anifeiliaid y cafwyd y llaeth ohonynt yn cael eu cynnal; a

b

i'r canlynol—

i

y defnyddiwr olaf ar gyfer yfed y llaeth hwnnw heblaw ar fangre'r fferm honno,

ii

gwestai dros dro ym mangre'r fferm honno neu ymwelydd dros dro â mangre'r fferm honno fel pryd bwyd neu luniaeth neu fel rhan o bryd bwyd neu luniaeth, neu

iii

dosbarthwr.

Annotations:
Commencement Information
I62

Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I634

Caiff dosbarthwr ddim ond gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl—

a

y mae wedi'i brynu yn unol ag is-baragraff (b)(iii) o baragraff 3;

b

yn y cynwysyddion y mae'n cael y llaeth ynddynt, a rhaid i ffasninau'r cynwysyddion fod heb eu torri;

c

o gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon fel mangre siop; ac

ch

yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf.

Annotations:
Commencement Information
I63

Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I645

Rhaid i'r llaeth crai fodloni'r safonau canlynol:

Cyfrifiad haenau ar 30ºC (cfu fesul ml)

≤ 20,000

Colifformau (cfu fesul ml)

< 100

Annotations:
Commencement Information
I64

Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I656

Mewn achos lle mae mangre fferm yn cael ei defnyddio ar gyfer gwerthu llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff 3, rhaid i'r Asiantaeth gyflawni'r gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio'r llaeth, y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol i sicrhau ei bod yn bodloni'r safonau a bennir ym mharagraff 5.

Annotations:
Commencement Information
I65

Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I667

Mewn unrhyw achos lle mae'r Asiantaeth yn gwneud gwaith samplu, dadansoddi ac archwilio llaeth buchod crai yn unol â pharagraff 6, bydd ffi o £63 yn ddyledus i'r Asiantaeth gan feddiannydd y daliad cynhyrchu sy'n gwerthu'r llaeth, a honno'n ffi sy'n daladwy gan y meddiannydd i'r Asiantaeth pan fydd yr Asiantaeth yn gofyn amdani.

Annotations:
Commencement Information
I66

Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I678

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “daliad cynhyrchu” (“production holding”) yw mangre lle mae buchod sy'n cynhyrchu llaeth yn cael eu cadw;

  • ystyr “dosbarthwr” (“distributor”) yw person sy'n gwerthu llaeth buchod crai sydd wedi'i gynhyrchu ar ddaliad cynhyrchu nad yw'n feddiannydd arno;

  • ystyr “mangre fferm” (“farm premises”) yw fferm a feddiennir gan feddiannydd daliad cynhyrchu fel fferm unigol ac mae'n cynnwys y daliad cynhyrchu ac unrhyw adeilad arall a leolir ar y fferm honno ac a feddiennir gan yr un meddiannydd;

  • ystyr “mangre siop” (“shop premises”) yw mangre y mae unrhyw fwyd yn cael ei werthu ohoni i'r defnyddiwr olaf;

  • ystyr “meddiannydd” (“occupier”) yw unrhyw berson sy'n cynnal busnes cynhyrchu neu drafod llaeth buchod crai neu berson a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r meddiannydd.

Annotations:
Commencement Information
I67

Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

F21ATODLEN 6A

Annotations:
Amendments (Textual)

F21

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

ATODLEN 7DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Rheoliad 33

Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995

I681

Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 199543 yn unol â pharagraff 2.

Annotations:
Commencement Information
I68

Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I69I682

Yn rheoliad 4 (marcio iechyd etc. cig a chynhyrchion cig penodol) yn lle'r geiriau “as provided for in the Fresh Meat (Hygiene and Inspection) Regulations 1995” rhoddir y geiriau “as required by the Food Hygiene (Wales) Regulations 2006”.

Annotations:
Commencement Information
I69

Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995

I703

Diwygir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 199544 fel a ddarperir ym mharagraffau 4 i 11.

Annotations:
Commencement Information
I70

Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I71I704

Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

a

yn lle'r diffiniad o “animal by-products premises” rhoddir y diffiniad canlynol—

  • “animal by-products premises” means premises, other than a cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse, from which animal by-products are despatched to other premises;”;

    1. a

      yn lle'r diffiniad o “cold store” rhoddir y diffiniad canlynol—

  • “cold store” means any premises, not forming part of a cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse, used for the storage, under temperature controlled conditions, of fresh meat intended for sale for human consumption;”;

    1. a

      yn lle'r diffiniad o “cutting premises” rhoddir y diffiniad canlynol—

  • “cutting plant” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;”;

    1. ch

      yn union ar ôl y diffiniad o “farmed game”, rhoddir y diffiniad canlynol—

  • “fresh meat” means meat that has not undergone any preserving process other than chilling, freezing or quick freezing, including meat that is vacuum-wrapped or wrapped in a controlled atmosphere;”;

    1. a

      yn lle'r diffiniad o “game processing facility” rhoddir y diffiniad canlynol—

  • “game-handling establishment” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;”;

    1. dd

      yn lle'r diffiniad “the Hygiene Regulations” rhoddir y diffiniad canlynol—

  • “the Hygiene Regulations” means the Food Hygiene (Wales) Regulations 2006;”;

    1. a

      yn lle'r diffiniad o “occupier” rhoddir y diffiniad canlynol—

  • “occupier” means a person carrying on the business of any cold store, cutting plant, game-handling establishment, slaughterhouse or animal by-products premises, or the duly authorised representative of such a person;”; ac

    1. a

      yn lle'r diffiniad o “slaughterhouse” rhoddir y diffiniad canlynol—

  • “slaughterhouse” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;”.

Annotations:
Commencement Information
I71

Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I72I705

Ym mharagraff (a) o reoliad 4 (rhychwant) yn lle'r geiriau “in accordance with the Poultry Meat, Farmed Game Bird Meat and Rabbit Meat (Hygiene and Inspection) Regulations 1995” rhoddir y geiriau “in accordance with the Hygiene Regulations”.

Annotations:
Commencement Information
I72

Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I73I706

Ym mharagraff (2)(c) o reoliad 5 (esemptiadau) yn lle'r geiriau “cutting premises, slaughterhouse, game processing facility” rhoddir y geiriau “cutting plant, game-handling establishment, slaughterhouse”.

Annotations:
Commencement Information
I73

Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I74I707

Yn lle rheoliad 6 (staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn stordai oer, mangreoedd torri, cyfleusterau prosesu helgig neu ladd-dai) rhoddir y rheoliad a ganlyn—

Staining of animal by-products in cold stores, cutting plants, game-handling establishments and slaughterhouses6

1

Subject to paragraph (2) below, it shall be the duty of the occupier of any cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse to ensure that any animal by-product is stained without undue delay.

2

The duty imposed by paragraph (1) above shall not apply in relation to any animal by-product which—

a

is—

i

immediately moved to accommodation in the relevant cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse,

ii

placed in a suitable, sufficient and lockable receptacle with closely fitting covers that is only used for holding meat rejected as unfit for human consumption and is clearly marked to that effect, and

iii

stained by the operator concerned as soon as practicable after it has been placed in the receptacle; or

b

is immediately moved, in the manner specified in paragraph (4), to an approved rendering plant for rendering there, or to an approved incineration plant which is adequately separated from the cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse concerned for incineration there.

3

The occupier of any cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse shall ensure that any animal by-product which is placed in a receptacle in accordance with paragraph (2) above is stained and removed from the relevant cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse as soon as is reasonably practicable.

4

The manner is that the animal by-product is moved through a sealed and leak-proof pipe which connects the cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse concerned directly with the relevant approved rendering plant or, as the case may be, approved incineration plant.

Annotations:
Commencement Information
I74

Atod. 7 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I75I708

Yn lle rheoliad 8 (rhewi sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unrhyw fangre sgil-gynhyrchion anifeiliaid, stordy oer, mangre dorri, cyfleuster prosesu helgig neu ladd-dy) rhoddir y rheoliad a ganlyn—

Freezing of animal by-products in any animal by-products premises, cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse8

1

Subject to paragraph (2) below, no person shall freeze any animal by-product in any animal by-products premises, cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse unless it has been stained in accordance with these Regulations.

2

Paragraph (1) above shall not apply in the case of any animal by-product which is intended to be removed from the relevant animal by-products premises, cold store, cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse in accordance with regulation 10(2)

Annotations:
Commencement Information
I75

Atod. 7 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I76I709

Yn rheoliad 9 (storio a phacio sgil-gynhyrchion anifeiliaid)—

a

yn lle paragraff (2) rhoddir y paragraff a ganlyn—

2

The prohibition contained in paragraph (1) above shall not apply in relation to an animal by-product which is stored in a suitable, sufficient and lockable receptacle with closely fitting covers that is only used for holding meat rejected as unfit for human consumption and is clearly marked to that effect.

b

ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau “cutting premises, game processing facility” rhoddir y geiriau “cutting plant, game-handling establishment”.

Annotations:
Commencement Information
I76

Atod. 7 para. 9 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I77I7010

Yn rheoliad 10 (cyfyngu ar symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid)—

a

ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau “cutting premises, game processing facility” rhoddir y geiriau “cutting plant, game-handling establishment”; a

b

ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau “cutting premises, game processing facility” rhoddir y geiriau “cutting plant, game-handling establishment”.

Annotations:
Commencement Information
I77

Atod. 7 para. 10 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I78I7011

Ym mharagraff (1) o reoliad 12 (gorfodi)—

a

yn is-baragraff (a) yn lle'r geiriau “in relation to premises licensed under the Hygiene Regulations” rhoddir y geiriau “in relation to any cutting plant, game-handling establishment or slaughterhouse”; a

b

yn lle is-baragraff (b) rhoddir yr is-baragraff a ganlyn—

b

in relation to any other premises, by the Agency or the food authority within whose area the premises are situated.

Annotations:
Commencement Information
I78

Atod. 7 para. 11 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

I7912

Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 199645 yn unol â pharagraffau 13 a 14.

Annotations:
Commencement Information
I79

Atod. 7 para. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I80I7913

Yn Atodlen 3 (enwau generig mewn rhestri cynhwysion) yn y cofnod yng ngholofn 2 o Ran 1 (cyffredinol) gyferbyn â'r cofnod yng ngholofn 1 ar gyfer ““Meat” and the name of the animal species from which it comes, or a word which describes the meat by reference to the animal species from which it comes” yn lle'r geiriau “(g) any products covered by the definition of “mechanically recovered meat” in Article 2(c) of Council Directive 64/433/EEC on health conditions for the production and marketing of fresh meat, as last amended by Council Directive 95/23/EC.” rhoddir y geiriau a bennir ym mharagraff 13.

Annotations:
Commencement Information
I80

Atod. 7 para. 13 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I81I7914

Dyma'r geiriau “(g) the product obtained by removing the meat from flesh-bearing bones after boning or from carcases of farmed birds (including birds that are not considered as domestic but which are farmed as domestic animals, but not including ratites) using mechanical means resulting in the loss or modification of the muscle fibre structure.”.

Annotations:
Commencement Information
I81

Atod. 7 para. 14 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 1997

I8215

Diwygir Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 199746 yn unol, â'r darpariaethau ym mharagraffau 16 a 17.

Annotations:
Commencement Information
I82

Atod. 7 para. 15 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I83I8216

Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

a

yn union ar ôl y diffiniad o “carcase” rhoddir y diffiniad a ganlyn—

  • “cutting plant” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;”;

    1. a

      yn union ar ôl y diffiniad o “fresh meat” rhoddir y diffiniadau a ganlyn—

  • “game-handling establishment” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;

  • “the Hygiene Regulations” means the Food Hygiene (Wales) Regulations 2006;”; ac

    1. a

      yn union ar ôl y diffiniad o “occupier” rhoddir y diffiniadau canlynol—

  • “official veterinarian” means a veterinarian who is qualified in accordance with Regulation 854/2004 to act in such a capacity and is appointed by the Agency;

  • “Regulation 854/2004” has the meaning that it bears in Schedule 1 to the Hygiene Regulations; and

  • “slaughterhouse” has the meaning that it bears in regulation 5(6) of the Hygiene Regulations;”.

Annotations:
Commencement Information
I83

Atod. 7 para. 16 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

I84I8217

Yn rheoliad 12 (gorfodi)—

a

yn lle paragraff (1) rhodder y paragraff a ganlyn—

1

These Regulations shall be enforced—

a

by the Agency in relation to any cutting-plant, game-handling establishment or slaughterhouse; a

b

in relation to any other premises, by the Agency or the food authority within whose area the premises are situated.

  • ac ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau “an official veterinary surgeon (designated as such under regulation 8(1) of the Fresh Meat (Hygiene and Inspection) Regulations 1995)” rhoddir y geiriau “an official veterinarian”.

Annotations:
Commencement Information
I84

Atod. 7 para. 17 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3292 (Cy.252)).

2

Yr oedd Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru offerynnau penodol y Gymuned, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “Rheoliadau'r Gymuned”. Offerynnau'r Gymuned sydd o dan sylw yw'r rheini a bennir yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff 4 isod. Drwy estyn y diffiniad o'r ymadrodd “Rheoliadau'r Gymuned” yn y Rheoliadau hyn i gynnwys offerynnau'r Gymuned a bennir yn is-baragraffau (ch) a (d) o baragraff 4 isod, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru holl offerynnau'r Gymuned a bennir yn y paragraff hwnnw.

3

Diffinnir offerynnau'r Gymuned a bennir ym mharagraff 4 isod yn Atodlen 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diweddaru'r diffiniadau o offerynnau'r Gymuned a bennir yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff 4 isod er mwyn cymryd i ystyriaeth Reoliadau penodol y Comisiwn sydd yn dod i rym ac yn dod yn gymwys ar 11 Ionawr 2006. Mae Rheoliadau'r Comisiwn yn diwygio offerynnau hynny y Gymuned neu yn ôl y digwydd yn effeithio ar y dull y darllenir hwy.

4

Dyma Offerynnau'r Gymuned—

a

Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1); mae testun diwygiedig y Rheoliad hwn wedi'i osod bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3);

b

Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwn wedi'i osod bellach mewn Corigendwm OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22);

c

Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwn wedi'i osod bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83);

ch

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbioloegol ar gyfer bwydydd (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1); a

d

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60).

5

Y prif newidiau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn yw—

a

bod y trefniadau gorfodi blaenorol yn cael eu newid; a

b

bod rychwant Atodlen 5 (y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm) yn cael ei hymestyn yng ngoleuni Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 (OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83).

6

Mae'r Rheoliadau hyn—

a

yn creu rhagdybiaethau penodol y bwriedir bwyd penodedig, at ddibenion y Rheoliadau hyn, ar gyfer ei fwyta gan bobl (rheoliad 3);

b

yn darparu mai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau'r Gymuned ac eithrio pan fo ganddi gymwyseddau dirprwyedig (rheoliad 4);

c

yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau'r Gymuned (rheoliad 5);

ch

yn darparu bod y mesurau gorfodi canlynol ar gael mewn perthynas â gweithredydd busnes bwyd —

i

hysbysiadau gwella hylendid (rheoliad 6);

ii

gorchmynion gwahardd at ddibenion hylendid (rheoliad 7);

iii

hysbysiadau a gorchmynion gwahardd brys at ddibenion hylendid (rheoliad 8); a

iv

hysbysiadau camau cywiro a hysbysiadau cadw (rheoliad 9);

d

yn darparu, pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, fod y person arall hwnnw'n euog o'r tramgwydd (rheoliad 10);

dd

yn darparu ei bod yn amddiffyniad mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd (rheoliad 11);

e

yn darparu ar gyfer caffael a dadansoddi samplau (rheoliadau 12 a 13 yn y drefn honno);

f

yn darparu pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdod gorfodi; (rheoliad 14);

ff

yn darparu ar gyfer tramgwydd o rwystro swyddog (rheoliad 15);

g

yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau (rheoliad 16);

ng

yn darparu y bydd person sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad 852/2004 neu Reoliad 853/2004 neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd (rheoliad 17(1));

h

yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 17(2) a (3));

i

yn darparu na fernir bod person wedi mynd yn groes i ddarpariaeth benodedig yn Rheoliad (EC) 852/2004, neu wedi methu â chydymffurfio â hi, (gofyniad bod swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi'u neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd) ar yr amod bod gofynion Atodlen 3 yn cael eu bodloni (rheoliad 17 (4));

j

yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu'r person hwnnw, y bydd y swyddog neu'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 18);

l

os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y partner hwnnw, y bydd y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn cael ei gyfrif yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 19);

ll

yn darparu hawl i apelio ynglŷn â—

i

cyflwyno hysbysiad gwella hylendid neu hysbysiad cymryd camau adfer,

ii

gwrthodiad gan awdurdod gorfodi i ddyroddi tystysgrif o dan ddarpariaethau penodol i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd camau i sicrhau nad yw'r amod o risg iechyd bellach wedi'i gyflawni o ran y busnes bwyd sydd o dan sylw, a

iii

gwneud gorchymyn gwahardd hylendid neu orchymyn gwahardd hylendid brys (rheoliadau 20 i 22);

m

yn darparu ar gyfer cymhwyso adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) (rheoliad 23);

n

yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dyroddi i awdurdodau bwyd godau arferion a argymhellir (rheoliad 24);

o

yn darparu ar gyfer diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 25);

p

yn darparu ar gyfer dirymu neu atal dros dro ddynodiad neu, yn ô l y digwydd, penodiad swyddogion penodedig (rheoliad 26);

ph

yn darparu bod rhaid i unrhyw fwyd y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi ardystio nad yw'r bwyd hwnnw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid, gael ei drin at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd (rheoliad 27);

r

yn darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau (rheoliad 28);

rh

yn darparu bod y gofynion a nodir yn yr Atodlenni canlynol yn effeithiol—

i

Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr) (rheoliad 29);

ii

Atodlen 4 (gofynion rheoli tymheredd) (rheoliad 30);

iii

Atodlen 5 (y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm) (rheoliad 31); a

iv

Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl (rheoliad 32);

s

yn gwneud diwygiadau canlyniadol i offerynnau penodedig (rheoliad 33); a

t

yn dirymu Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 (rheoliad 34).

7

Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.