1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, deuant i rym ar 11 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol, yn rhinwedd rheoliad 5, dros orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid;
ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau'r Gymuned a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(1);
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;
F1...
[F2ystyr “Pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/625”;]
[F3ystyr “Rheoliadau’r Gymuned” (“the Community Regulations”) yw Rheoliad 852/2004, Rheoliad 853/2004, Rheoliad 2073/2005, Rheoliad 2015/1375, Rheoliad 2017/185 [F4, Rheoliad 2017/625 a phecyn Rheoliad 2017/625] i’r graddau y mae ef ac y maent hwy yn gymwys i fwyd;]
ystyr “y Rheoliadau Hylendid” (“the Hygiene Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau'r Gymuned;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau Hylendid.
[F5(1A) Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.]
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf, yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yn ôl y digwydd.
(4) Pan gaiff unrhyw sywddogaethau o dan y Ddeddf eu haseinio—
(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Haint) 1984(2), i awdurdod iechyd porthladd neu
(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(3), i gyd-bwyllgor dros ranbarth unedig;
dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod yr aseiniwyd hwy iddo.
(5) Pan fyddai unrhyw gyfnod o lai na saith niwrnod a bennir yn y Rheoliadau hyn, ar wahân i'r paragraff hwn, yn cynnwys unrhyw ddiwrnod sydd—
(a)yn ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig neu'n ddydd Gwener y Groglith; neu
(b)yn ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4),
hepgorir y diwrnod hwnnw o'r cyfnod.
[F6(6) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw [F7fel y’i diwygir] o bryd i'w gilydd.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1487), rhlau. 1(2), 2(2)(a)(ii)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1487), rhlau. 1(2), 2(2)(a)(iii)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 4(a)(i)
F4Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1487), rhlau. 1(2), 2(2)(a)(i)
F5Rhl. 2(1A) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1487), rhlau. 1(2), 2(2)(b)
F6Rhl. 2(6) wedi ei fewnosod (30.7.2012) gan Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2012 (O.S. 2012/1765), rhlau. 1, 2(3)
F7Geiriau yn rhl. 2(6) wedi ei amnewid (14.12.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 4(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
3.—(1) Mae'r paragraffau canlynol yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid rhagdybio, hyd nes y profir y gwrthwyneb, fod unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl, os yw wedi'i roi ar y farchnad neu wedi'i gynnig, wedi'i arddangos neu wedi'i gadw i'w roi ar y farchnad, wedi cael ei roi ar y farchnad neu, yn ôl y digwydd, y bwriadwyd neu y bwriedir ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl.
(3) Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir y canlynol, sef—
(a)unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre a ddefnyddir ar gyfer paratoi neu storio'r bwyd hwnnw neu ar gyfer ei roi ar y farchnad; a
(b)unrhyw eitem neu sylwedd a ddefnyddir yn gyffredin i weithgynhyrchu bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre a ddefnyddir ar gyfer paratoi neu storio'r bwyd hwnnw neu ar gyfer ei roi ar y farchnad
ar gyfer ei roi ar y farchnad, neu ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd i'w roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl.
(4) Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir unrhyw eitem neu sylwedd y mae modd ei defnyddio neu ei ddefnyddio i fod yn gyfansoddyn unrhyw fwyd neu i baratoi unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre lle mae'r bwyd hwnnw'n cael ei baratoi, ar gyfer defnydd o'r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
4. Yr Asiantaeth yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau'r Gymuned ac eithrio pan fo wedi dirprwyo cymwyseddau fel y darperir ar ei gyfer yn y Rheoliadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
5.—(1) O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 yn gymwys i'w weithrediadau ond nad yw Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddynt—
(a)rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodiad I i Reoliad 852/2004 heblaw'r gweithrediadau cysylltiedig a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) ac (c) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y maent yn ymwneud ag anifeiliaid hela gwyllt; a
(b)rhaid i'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfodi a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).
(2) O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 a Rheoliad 853/2004 ill dau yn gymwys i'w weithrediadau—
(a)rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gweithrediadau mewn perthynas â'r sefydliadau a'r gweithgareddau canlynol—
(i)lladd-dai,
(ii)sefydliadau sy'n trin anifeiliaid hela, neu
(iii)safleoedd torri sy'n rhoi cig ffres ar y farchnad, a
(b)rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfod a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).
(3) O ran—
(a)canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu gelatin a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â, pharagraff 5 o Bennod I Adran XIV o Atodiad III i Reoliad 853/2004; a
(b)canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â, pharagraff 5 o Bennod I Adran XV o Atodiad III i Reoliad 853/2004,
rhaid i'r awdurdod bwyd y lleolir y ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan—
(a)Atodlenni 3 i 5; a
(b)Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl ac eithrio llaeth buchod crai.
(5) Rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl.
[F8(6) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl, ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625;
ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625;
ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i’w rhoi ar y farchnad ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625.]
Diwygiadau Testunol
F8Rhl. 5(6) wedi ei amnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 5
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
6.—(1) Os bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi seiliau rhesymol dros gredu bod gweithredydd busnes bwyd yn methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid, caiff y swyddog drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person hwnnw (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwella hylendid”)—
(a)datgan seiliau'r swyddog dros gredu bod y gweithredydd busnes bwyd yn methu, chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid;
(b)pennu'r materion sy'n golygu bod y gweithredydd busnes bwyd wedi methu, chydymffurfio â'r Rheoliadau Hylendid;
(c)pennu'r mesurau y mae'n rhaid i'r gweithredydd busnes bwyd eu cymryd, ym marn y swyddog, i sicrhau ei fod yn cydymffurfio; ac
(ch)ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredydd busnes bwyd gymryd y mesurau hynny, neu'r mesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn unrhyw gyfnod (heb fod yn llai na 14 diwrnod) a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n methu, chydymffurfio â hysbysiad gwella hylendid yn euog o dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
7.—(1) Os—
(a)y caiff gweithredydd busnes bwyd ei gollfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)y caiff y llys y collfarnwyd y gweithredydd felly ganddo neu ger ei fron ei fodloni bod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran y busnes bwyd o dan sylw,
bydd y llys yn gosod y gwaharddiad priodol drwy orchymyn.
(2) Bodlonir yr amod ynglŷn â risg iechyd mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd os yw unrhyw un o'r canlynol yn cynnwys risg o niwed i iechyd (gan gynnwys unrhyw nam, boed hwnnw'n barhaol neu dros dro), sef—
(a)defnyddio at ddibenion y busnes unrhyw broses neu driniaeth;
(b)adeiladu unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes, neu ddefnyddio at y dibenion hynny unrhyw gyfarpar; ac
(c)sefyllfa neu gyflwr unrhyw fangre neu gyfarpar a ddefnyddir at ddibenion y busnes.
(3) Y gwaharddiad priodol yw—
(a)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a) o baragraff (2), gwaharddiad ar ddefnyddio proses neu driniaeth at ddibenion y busnes;
(b)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar ddefnyddio'r fangre neu'r cyfarpar at ddibenion y busnes neu unrhyw fusnes bwyd arall o'r un dosbarth neu ddisgrifiad; ac
(c)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar ddefnyddio'r fangre neu'r cyfarpar at ddibenion unrhyw fusnes bwyd.
(4) Os—
(a)y bydd gweithredydd busnes bwyd yn cael ei gollfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)y bydd y llys y cafodd y gweithredydd ei gollfarnu felly ganddo neu ger ei fron yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos,
caiff y llys, drwy orchymyn, osod gwaharddiad a fyddai'n atal y gweithredydd busnes bwyd rhag cymryd rhan yng ngwaith rheoli unrhyw fusnes bwyd, neu unrhyw fusnes bwyd o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn.
(5) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) neu (4) (gorchymyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid”), rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(a)cyflwyno copi o'r gorchymyn i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol; a
(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), gosod copi o'r gorchymyn mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd ac y mae'n barnu ei bod yn briodol,
a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i orchymyn o'r fath yn euog o dramgwydd.
(6) Bydd gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol—
(a)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), pan fydd yr awdurdod gorfodi wedi dyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd mesurau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg iechyd yn cael ei fodloni mwyach mewn perthynas â'r busnes bwyd; a
(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (4), pan fydd y llys yn rhoi cyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw.
(7) Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan is-baragraff (a) o baragraff (6) cyn pen tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni yn y modd a grybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw; ac ar gais gan y gweithredydd busnes bwyd am dystysgrif o'r fath, rhaid i'r awdurdod —
(a)penderfynu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod, a yw wedi'i fodloni felly neu beidio; a
(b)os bydd yn penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, rhoi hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(8) Rhaid i'r llys roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (b) o baragraff (6) os yw'r llys, ar ôl cael cais gan y gweithredydd busnes bwyd, yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys yn benodol ymddygiad y gweithredydd busnes bwyd ers gwneud y gorchymyn; ond ni fydd unrhyw gais o'r fath yn cael ei ystyried os yw'n cael ei wneud—
(a)cyn pen chwe mis ar ôl gwneud y gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid; neu
(b)cyn pen tri mis ar ôl i'r gweithredydd busnes bwyd wneud cais blaenorol am gyfarwyddyd o'r fath.
(9) Pan fo llys ynadon yn gwneud gorchymyn o dan baragraff (2) o reoliad 8 mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd, bydd paragraff (1) yn gymwys fel petai'r gweithredydd busnes bwyd wedi'i gollfarnu gan y llys o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(10) Pan fo'r ffaith bod tramgwydd wedi'i gyflawni gan weithredydd busnes bwyd yn arwain at gollfarnu person arall yn unol â rheoliad 10, bydd paragraff (4) yn gymwys o ran y person arall hwnnw yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran y gweithredydd busnes bwyd a dehonglir unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (5) neu (8) at y gweithredydd busnes bwyd yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
8.—(1) Os yw swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi wedi'i fodloni bod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran unrhyw fusnes bwyd, caiff y swyddog osod y gwaharddiad priodol drwy hysbysiad a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid”).
(2) Os yw llys ynadon wedi'i fodloni, ar gais swyddog o'r fath, fod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni o ran unrhyw fusnes bwyd, rhaid i'r llys, drwy orchymyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid”), osod y gwaharddiad priodol.
(3) Ni chaiff swyddog o'r fath wneud cais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid oni bai bod y swyddog, o leiaf un diwrnod cyn dyddiad y cais, wedi cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol o'i fwriad i wneud cais am y gorchymyn.
(4) Bydd paragraffau (2) a (3) o reoliad 7 yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw, ond fel petai'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at risg o niwed i iechyd yn gyfeiriad at risg agos o niwed.
(5) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid, rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi osod copi o'r hysbysiad mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd ag y mae'n barnu ei bod yn briodol; a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r hysbysiad hwnnw yn euog o dramgwydd.
(6) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid, rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi—
(a)cyflwyno copi o'r gorchymyn i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol; a
(b)gosod copi o'r gorchymyn mewn lle amlwg ar unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd y mae'r swyddog yn barnu ei bod yn briodol,
a bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i'r gorchymyn hwnnw yn euog o dramgwydd.
(7) Bydd hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol—
(a)os na wneir unrhyw gais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid o fewn y cyfnod o dri diwrnod gan ddechrau o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw; neu
(b)os gwneir cais o'r fath felly, adeg penderfynu neu ollwng y cais.
(8) Bydd hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid yn peidio â bod yn effeithiol pan fydd yr awdurdod gorfodi yn dyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod wedi'i fodloni bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cymryd mesurau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg iechyd yn cael ei fodloni mwyach o ran y busnes bwyd.
(9) Rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (8) cyn pen tri diwrnod ar ôl iddo gael ei fodloni yn y modd a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw; a phan fydd y gweithredydd busnes bwyd yn cyflwyno cais am dystysgrif o'r fath, rhaid i'r awdurdod—
(a)penderfynu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod a yw wedi'i fodloni felly neu beidio; a
(b)os yw'n penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, rhoi hysbysiad i'r gweithredydd busnes bwyd o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(10) Pan fo hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid yn cael ei gyflwyno i weithredydd busnes bwyd, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredydd am unrhyw golled a gafwyd oherwydd y ffaith bod y gweithredydd wedi cydymffurfio â'r hysbysiad—
(a)oni chaiff cais am orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid ei wneud o fewn y cyfnod o dri diwrnod gan ddechrau ar ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad; a
(b)oni fydd y llys yn datgan ei fod wedi'i fodloni, ar ôl gwrando'r cais, fod yr amod ynglŷn â risg iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas â'r busnes bwyd adeg cyflwyno'r hysbysiad,
a gellir penderfynu drwy gymrodeddu unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
9.—(1) Pan fo'n ymddangos i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi mewn perthynas â sefydliad F9...—
(a)bod unrhyw un o ofynion y Rheoliadau Hylendid yn cael ei dorri; neu
(b)bod arolygiad o dan y Rheoliadau Hylendid yn cael ei lesteirio,
caiff y swyddog, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd (hysbysiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad camau cywiro”)—
(c)gwahardd defnyddio unrhyw gyfarpar neu unrhyw ran o'r sefydliad a bennir yn yr hysbysiad;
(ch)gosod amodau ar gyflawni unrhyw broses neu wahardd cyflawni unrhyw broses;
(d)ei gwneud yn ofynnol i'r gyfradd weithredu gael ei lleihau i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad, neu i gael ei stopio'n gyfan gwbl.
(2) Rhaid cyflwyno hysbysiad camau cywiro cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan nodi'r rheswm pam y mae'n cael ei gyflwyno.
(3) Os yw'n cael ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a), rhaid iddo enwi'r toriad a'r camau y mae eu hangen i'w gywiro.
(4) Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog awdurdodedig yr hysbysiad camau cywiro gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni bod y camau hynny wedi'u cymryd, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi, mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd perthnasol neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw (hysbysiad y cyfeirir ato yn y rheoliad hyn fel “hysbysiad cadw”) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail neu fwyd gael ei gadw at ddibenion archwilio (gan gynnwys cymryd samplau).
(6) Rhaid i swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi y cyflwynodd ei swyddog yr hysbysiad cadw gwreiddiol, cyn gynted ag y caiff ei fodloni nad oes angen cadw'r anifail neu'r bwyd mwyach, dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a gyflwynir i'r gweithredydd busnes bwyd neu'r person a awdurdodwyd yn briodol i gynrychioli'r gweithredydd hwnnw.
(7) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio, hysbysiad camau cywiro neu hysbysiad cadw yn euog o dramgwydd.
Diwygiadau Testunol
F9Geiriau yn rhl. 9(1) wedi eu hepgor (1.5.2012) yn rhinwedd Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012 (O.S. 2012/975), rhlau. 1, 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
10. Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
11.—(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.
(2) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir—
(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b)pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir,
wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
12. Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi—
(a)prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;
(b)cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd—
(i)sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn fwyd neu'n sylwedd y bwriedir ei roi ar y farchnad neu y bwriadwyd ei roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl, neu
(ii)a geir gan swyddog ar neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan neu o dan reoliad 14;
(c)cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, a geir gan y swyddog ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac
(ch)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd a geir gan swyddog ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdani neu amdano fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
13.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 12—
(a)os yw o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi, ei chyflwyno i gael ei dadansoddi—
(i)gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal y cafodd y sampl ei chaffael ynddi, neu
(ii)gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal sydd wedi'i ffurfio o ardal yr awdurdod neu sy'n ei chynnwys;
(b)os yw o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio, ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.
(2) Caiff person, nad yw'n swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—
(a)i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal y prynwyd y bwyd neu'r sylwedd ynddi; neu
(b)i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.
(3) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.
(4) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl y digwydd, anfon y sampl i unrhyw ddadansoddydd bwyd arall neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.
(5) Rhaid i ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—
(a)os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a
(b)os yw'r sampl wedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi,
caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.
(6) Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno drwyddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.
(7) Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.
(8) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—
(a)dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu
(b)dogfen a ddarparwyd iddo gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,
yn dystiolaeth ddigonol i'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw fel tyst.
(9) Yn y rheoliad hwn, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus yn cael eu penodi ar gyfer unrhyw ardal, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal honno fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.
(10) Mae Rheoliadau [F10Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] yn gymwys o ran sampl a gaffaelir gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd o dan reoliad 12 fel pe bai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.
(11) Rhaid i dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff 6 fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 3 i Reoliadau [F10Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] .
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn rhl. 13(10)(11) wedi eu hamnewid (6.4.2013) gan Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/479), rhlau. 1, 11(a) (ynghyd ag ergl. 3, Atod. 1)
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
14.—(1) Mae gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—
(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal, neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau Hylendid yn cael neu wedi cael ei thorri;
(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn neu'r tu allan i ardal neu, yn ôl y digwydd, dosbarth yr awdurdod, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno neu'r dosbarth hwnnw; ac
(c)i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,
ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i ddod i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.
(2) Mae gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn—
(a)darganfod a oes unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau Hylendid yn cael neu wedi cael ei thorri;
(b)darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath; ac
(c)i'r Asiantaeth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,
ond ni chaniateir i'r swyddog fynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod 24 awr o rybudd am y bwriad i ddod i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd.
(3) Os yw ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai—
(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y synhwyrir y caiff ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu
(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.
(4) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.
(6) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu warant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—
(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a
(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.
(7) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (6)—
(a)cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatâu mynd â hwy oddi yno.
(8) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai ei fod wedi'i datgelu wrth gyflawni ei ddyletswydd.
(9) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(5), i fynd i mewn i unrhyw fangre—
(a)lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio ar yr anifail neu'r aderyn hwnnw; a
(b)sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
15.—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau Hylendid ar waith; neu
(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau Hylendid ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau Hylendid,
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (b) o baragraff (1)—
(a)yn darparu gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu
(b)yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,
yn euog o dramgwydd.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
16. Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad o dan y Rheoliadau hyn am dramgwydd y gellir ei gosbi o dan is-baragraff (2) o reoliad 17 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
[F1117.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i [F12(9)], bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un neu rai ohonynt yn euog o dramgwydd.
(2) [F13Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (3A)] , bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol; neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.
(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 15 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
[F14(3A) Bydd person sy’n euog o dramgwydd o dan baragraff 1A neu 1B o Atodlen 6 yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.]
(4) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen gyda pharagraff 4 o Bennod IV o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw (swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi eu neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd).
(5) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3A, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).
(6) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3B, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).
(7) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3C, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo da byw onid yw'r awdurdod cymwys yn caniatáu iddynt beidio â chael lleoedd o'r fath a bod lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).
(8) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3Ch, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6(b) o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo onid oes lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).]
[F15(9) Nid ystyrir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004 nac wedi methu â chydymffurfio â’r Erthygl honno—
(a)yn achos marc iechyd neu farc adnabod—
(i)os dodwyd y marc iechyd neu’r marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a
(ii)os oedd y marc iechyd neu’r marc adnabod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1) fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; neu
(b)os dodir marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, ar neu ar ôl y diwrnod y daeth y Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i rym a chyn [F161 Ionawr 2024], yn unol ag Erthygl 5(1), fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, gan ddefnyddio label, deunydd lapio neu ddeunydd pecynnu ac arno’r marc adnabod hwnnw ac sy’n perthyn i’r gweithredwr busnes bwyd yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]
Diwygiadau Testunol
F11Rhl. 17 wedi ei amnewid (13.4.2010) gan Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/893), rhlau. 1, 2(3)
F12Gair yn rhl. 17(1) wedi ei amnewid (14.4.2021) gan Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/371), rhlau. 1(2), 2(2)(a)
F13Geiriau yn rhl. 17(2) wedi eu hamnewid (13.12.2014) gan Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014 (O.S. 2014/3080), rhlau. 1(2), 2(2)(a)
F14Rhl. 17(3A) wedi ei fewnosod (13.12.2014) gan Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014 (O.S. 2014/3080), rhlau. 1(2), 2(2)(b)
F15Rhl. 17(9) wedi ei fewnosod (14.4.2021) gan Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/371), rhlau. 1(2), 2(2)(b)
F16Geiriau yn rhl. 17(9)(b) wedi eu hamnewid (30.9.2022) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/939), rhlau. 1(2), 2
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
18.—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol, sef—
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,
bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â, hynny.
(2) Yn is-baragraff (a) o baragraff (1) ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
19. Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
20.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan—
(a)penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad gwella hylendid; neu
(b)penderfyniad awdurdod gorfodi i wrthod dyroddi tystysgrif o dan baragraff (6) o reoliad 7 neu baragraff (8) o Reoliad 8; neu
(c)penderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad camau cywiro,
apelio i lys ynadon.
(2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a Deddf Llysoedd Ynadon 1980(6) fydd yn gymwys i'r achos cyfreithiol.
(3) Y cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) yw—
(a)un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person a oedd yn dymuno apelio; neu
(b)yn achos apêl yn erbyn penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwella hylendid, y cyfnod a bennir yn is-baragraff (a) neu, os yw'n fyrrach, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6,
a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
21. Caiff berson a dramgwyddir gan—
(a)y ffaith bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan baragraff (1) o reoliad 20; neu
(b)unrhyw benderfyniad gan y llys hwnnw i wneud gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid,
apelio i Lys y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
22.—(1) Pan apelir yn erbyn hysbysiad gwella hylendid neu hysbysiad camau cywiro, caiff y llys ganslo neu gadarnhau'r hysbysiad, ac os yw'n ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda'r addasiadau y mae'r llys yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau.
(2) Pan fyddai unrhyw gyfnod a bennir mewn hysbysiad gwella hylendid yn unol ag is-baragraff (ch) o baragraff (1) o reoliad 6 yn cynnwys fel arall unrhyw ddiwrnod y mae apêl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw yn yr arfaeth, ni fydd y diwrnod hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cyfnod hwnnw.
(3) Ystyrir bod unrhyw apêl yn yr arfaeth at ddibenion paragraff (2) hyd nes y penderfynir arni yn derfynol, y tynnir hi'n ôl, neu hyd nes y caiff ei dileu oherwydd diffyg erlyniad.
[F17(4) Pan fo llys, ar apêl yn erbyn hysbysiad camau cywiro o dan baragraff (1), yn canslo'r hysbysiad, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredydd busnes bwyd a ddygodd yr apêl mewn cysylltiad ag unrhyw golled a gafwyd oherwydd bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cydymffurfio â'r hysbysiad, a bydd unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw yn cael ei benderfynu drwy gymrodeddu.]
Diwygiadau Testunol
F17Rhl. 22(4) wedi ei ychwanegu (1.5.2012) gan Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012 (O.S. 2012/975), rhlau. 1, 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 22 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
23. Mae adran 9 o'r Ddeddf (arolygu bwyd amheus a chymryd meddiant ohono)(7) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad ei bod yn gymwys o ran swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 23 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
24.—(1) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyroddi codau arferion a argymhellir o ran gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau Hylendid i fod yn ganllawiau i awdurdodau bwyd.
(2) Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.
(3) Drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt gan neu o dan y Rheoliadau Hylendid, rhaid i bob awdurdod bwyd—
(a)rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a
(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â'r cod hwnnw.
(4) Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.
(5) Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).
(6) Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 24 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
25.—(1) Ni fydd swyddog i awdurdod gorfodi yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—
(a)wrth weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Hylendid; a
(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,
os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest fod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Hylendid yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw awdurdod gorfodi rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion awdurdodedig.
(3) Pan fo achos cyfreithiol wedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i awdurdod gorfodi mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog hwnnw—
(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Hylendid; ond
(b)y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,
caiff yr awdurdod indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r awdurdod hwnnw wedi'i fodloni y credodd y swyddog yn onest fod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.
(4) Ymdrinnir â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y swyddog yn benodiad amser-cyfan neu beidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 25 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
26.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff yr Asiantaeth ar unrhyw bryd ddirymu neu atal dros dro—
(a)penodi milfeddyg swyddogol;
(b)dynodi milfeddyg cymeradwy; neu
(c)penodi cynorthwy-ydd swyddogol,
os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth fod y person o dan sylw yn anffit i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r swydd honno o dan y Rheoliadau Hylendid.
(2) Pan fo'r Asiantaeth yn dirymu neu'n atal dros dro ddynodiad neu benodiad o dan baragraff (1), rhaid i'r Asiantaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi i'r person y mae ei ddynodiad neu ei benodiad wedi'i ddirymu neu wedi'i atal dros dro hysbysiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y dirymiad neu'r ataliad dros dro a rhoi i'r person hwnnw gyfle—
(a)i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Asiantaeth yngl^yn â'r dirymiad neu'r ataliad dros dro; neu
(b)i gael gwrandawiad gan berson a enwir gan yr Asiantaeth at y diben yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff (5).
(3) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (2) roi gwybod i'r person y caiff ei roi iddo—
(a)am ei hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig;
(b)ym mha ddull ac o fewn pa amser (heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad) y caniateir i'r sylwadau hynny gael eu cyflwyno;
(c)am ei hawl i gael gwrandawiad; ac
(ch)ym mha ddull ac o fewn pa amser (heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad) y caniateir iddo wneud cais am gyfle i gael gwrandawiad.
(4) Os bydd y person y mae ei ddynodiad neu ei benodiad wedi'i ddirymu neu wedi'i atal dros dro yn cyflwyno unrhyw sylwadau (boed ar lafar neu mewn ysgrifen) o dan baragraff (3), rhaid i'r Asiantaeth ailystyried a yw'r person hwnnw'n anffit i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r swydd y mae'n ei dal o dan y Rheoliadau Hylendid a rhaid iddi ailystyried cyn gynted ag y bo'n ymarferol ei phenderfyniad i ddirymu neu atal dros dro'r dynodiad neu'r penodiad o dan baragraff (1) yng ngoleuni'r sylwadau hynny.
(5) Pan fo person yn gofyn am gyfle i gael gwrandawiad yn unol ag is-baragraff (6) o baragraff (2)—
(a)rhaid i'r Asiantaeth enwi person i benderfynu'r mater o'r rhestr a sefydlwyd o dan baragraff (6);
(b)rhaid i'r person a enwir felly gyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gofyn am gyfle i gael gwrandawiad ac i'r Asiantaeth, yn rhoi gwybod iddynt am amser y gwrandawiad (a'r amser hwnnw heb fod yn llai nag 21 niwrnod o ddyddiad rhoi'r hysbysiad); ac
(c)rhaid i'r person a enwir felly hysbysu o fewn 21 niwrnod i'r gwrandawiad y person sy'n gofyn am gyfle i gael gwrandawiad a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.
(6) Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwi at ddibenion y rheoliad hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli milfeddygon swyddogol, milfeddygon cymeradwy a chynorthwywyr swyddogol gan gynnwys unrhyw berson ar y rhestr.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 26 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
27.—(1) Wrth arolygu unrhyw fwyd, caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi ardystio nad yw wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu nac wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid.
(2) Pan fo unrhyw fwyd yn cael ei ardystio fel a grybwyllwyd ym mharagraff (1), ymdrinnir ag ef at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
(3) Pan fo unrhyw fwyd a ardystiwyd fel a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd o'r un dosbarth neu ddisgrifiad, rhaid i'r holl fwyd yn y swp, y lot neu'r llwyth, hyd nes y profir ei fod wedi'i gynhyrchu, wedi'i brosesu neu wedi'i ddosbarthu yn unol â'r Rheoliadau Hylendid, gael ei drin at ddibenion paragraff (2) fel bwyd sydd wedi'i ardystio felly.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 27 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
28.—(1) Caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i weithredydd busnes bwyd gael ei chyflwyno—
(a)drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;
(b)yn achos cwmni corfforaethol neu gorff corfforaethol, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y cwmni neu'r corff hwnnw, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno; neu
(c)yn achos unrhyw weithredydd busnes bwyd arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at y gweithredydd yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.
(2) Pan fo dogfen i'w chyflwyno i weithredydd busnes bwyd o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo mangre'r gweithredydd busnes bwyd heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y gweithredydd busnes bwyd o dan sylw yn ei swyddogaeth fel meddiannydd y fangre honno (gan ei henwi), ac
(a)drwy ei thraddodi i ryw berson arall yn y fangre; a
(b)os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen, neu gopi ohoni, ar ryw ran amlwg o'r fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 28 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
29. Mae Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr) yn effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 29 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
30. Mae Atodlen 4 (gofynion rheoli tymheredd) yn effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 30 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
31. Mae Atodlen 5 (y modd y mae'r cynhyrchydd yn cyflenwi'n uniongyrchol feintiau bach o gig o ddofednod a lagomorffiaid a gigyddwyd ar y fferm) yn effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Rhl. 31 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
32. Mae Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl) yn effeithiol.]
Diwygiadau Testunol
F18Rhl. 32 wedi ei amnewid (26.7.2018) gan Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 11(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I32Rhl. 32 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
F2032A.] . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F19Rhl. 32A wedi ei fewnosod (30.7.2012) gan Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2012 (O.S. 2012/1765), rhlau. 1, 2(4)
F20Rhl. 32A wedi ei dirymu (8.8.2014) gan Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1858), rhlau. 1(2), 2(2)
F2133. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F21Rhl. 33 wedi ei hepgor (26.7.2018) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/806), rhlau. 1(3), 11(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I33Rhl. 33 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
34.—(1) Dirymir Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Rhl. 34 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Ionawr 2006