Search Legislation

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

Newidiadau dros amser i: RHAN I

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 30/07/2012

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/04/2010.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, RHAN I. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN ILL+CMATERION RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, deuant i rym ar 11 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol, yn rhinwedd rheoliad 5, dros orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid;

ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau'r Gymuned a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(1);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;

[F1Mae i'r ymadroddion “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”), “Penderfyniad 2009/951” (“Decision 2009/951”), “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”), “Rheoliad 1662/2006” (“Regulation 1662/2006”), “Rheoliad 1663/2006” (“Regulation 1663/2006”), “Rheoliad 1664/2006” (“Regulation 1664/2006”), “Rheoliad 1666/2006” (“Regulation 1666/2006”), “Rheoliad 1791/2006” (“Regulation 1791/2006”), “Rheoliad 479/2007” (“Regulation 479/2007”), “Rheoliad 1243/2007” (“Regulation 1243/2007”), “Rheoliad 1244/2007” (“Regulation 1244/2007”), “Rheoliad 1245/2007” (“Regulation 1245/2007”), “Rheoliad 1246/2007” (“Regulation 1246/2007”), “Rheoliad 1441/2007” (“Regulation 1441/2007”), “Rheoliad 439/2008” (“Regulation 439/2008”), “Rheoliad 1250/2008” (“Regulation 1250/2008”), “Rheoliad 146/2009” (“Regulation 146/2009”), “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”), “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”), a “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;]

ystyr “y Rheoliadau Hylendid” (“the Hygiene Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau'r Gymuned;

ystyr “Rheoliadau'r Gymuned” (“the Community Regulations”) yw Rheoliad 852/2004, Rheoliad 853/2004, Rheoliad 854/2004, Rheoliad 2073/2005 a Rheoliad 2075/2005; ac

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau Hylendid.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf, yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu Reoliadau'r Gymuned yn ôl y digwydd.

(4Pan gaiff unrhyw sywddogaethau o dan y Ddeddf eu haseinio—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Haint) 1984(2), i awdurdod iechyd porthladd neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(3), i gyd-bwyllgor dros ranbarth unedig;

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod yr aseiniwyd hwy iddo.

(5Pan fyddai unrhyw gyfnod o lai na saith niwrnod a bennir yn y Rheoliadau hyn, ar wahân i'r paragraff hwn, yn cynnwys unrhyw ddiwrnod sydd—

(a)yn ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig neu'n ddydd Gwener y Groglith; neu

(b)yn ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4),

hepgorir y diwrnod hwnnw o'r cyfnod.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan boblLL+C

3.—(1Mae'r paragraffau canlynol yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid rhagdybio, hyd nes y profir y gwrthwyneb, fod unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl, os yw wedi'i roi ar y farchnad neu wedi'i gynnig, wedi'i arddangos neu wedi'i gadw i'w roi ar y farchnad, wedi cael ei roi ar y farchnad neu, yn ôl y digwydd, y bwriadwyd neu y bwriedir ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl.

(3Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir y canlynol, sef—

(a)unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre a ddefnyddir ar gyfer paratoi neu storio'r bwyd hwnnw neu ar gyfer ei roi ar y farchnad; a

(b)unrhyw eitem neu sylwedd a ddefnyddir yn gyffredin i weithgynhyrchu bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre a ddefnyddir ar gyfer paratoi neu storio'r bwyd hwnnw neu ar gyfer ei roi ar y farchnad

ar gyfer ei roi ar y farchnad, neu ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd i'w roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan bobl.

(4Rhagdybir, hyd nes y profir y gwrthwyneb, y bwriedir unrhyw eitem neu sylwedd y mae modd ei defnyddio neu ei ddefnyddio i fod yn gyfansoddyn unrhyw fwyd neu i baratoi unrhyw fwyd a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ei fwyta gan bobl ac a geir ar fangre lle mae'r bwyd hwnnw'n cael ei baratoi, ar gyfer defnydd o'r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

Yr awdurdod cymwysLL+C

4.  Yr Asiantaeth yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau'r Gymuned ac eithrio pan fo wedi dirprwyo cymwyseddau fel y darperir ar ei gyfer yn y Rheoliadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

GorfodiLL+C

5.—(1O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 yn gymwys i'w weithrediadau ond nad yw Rheoliad 853/2004 yn gymwys iddynt—

(a)rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodiad I i Reoliad 852/2004 heblaw'r gweithrediadau cysylltiedig a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) ac (c) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y maent yn ymwneud ag anifeiliaid hela gwyllt; a

(b)rhaid i'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfodi a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).

(2O ran unrhyw weithredydd busnes bwyd y mae Rheoliad 852/2004 a Rheoliad 853/2004 ill dau yn gymwys i'w weithrediadau—

(a)rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gweithrediadau mewn perthynas â'r sefydliadau a'r gweithgareddau canlynol—

(i)lladd-dai,

(ii)sefydliadau sy'n trin anifeiliaid hela, neu

(iii)safleoedd torri sy'n rhoi cig ffres ar y farchnad, a

(b)rhaid i'r Asiantaeth neu'r awdurdod bwyd y mae'r gweithredydd busnes bwyd yn cyflawni ei weithrediadau yn ardal yr awdurdod bwyd hwnnw orfodi a gweithredu'r Rheoliadau Hylendid i'r graddau y mae'r gweithredydd o dan sylw yn cyflawni gwaith cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau nad ydynt yn cael eu gorfod a'u gweithredu gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (a).

(3O ran—

(a)canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu gelatin a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â, pharagraff 5 o Bennod I Adran XIV o Atodiad III i Reoliad 853/2004; a

(b)canolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir ar gyfer ei fwyta gan bobl yn unol â, pharagraff 5 o Bennod I Adran XV o Atodiad III i Reoliad 853/2004,

rhaid i'r awdurdod bwyd y lleolir y ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw yn ei ardal orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan—

(a)Atodlenni 3 i 5; a

(b)Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl ac eithrio llaeth buchod crai.

(5Rhaid i'r Asiantaeth orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r materion a reoleiddir gan Atodlen 6 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â llaeth buchod crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

(b)

a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(5) neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995(6);

ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

(b)

(er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster prosesu anifeiliaid hela gwyllt trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu 1995(7); ac

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl ac—

(a)

sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu

(b)

(er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(3) o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1

(2)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd (1990 p.16).

(3)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(5)

O.S. 1995/539, a ddirymir gan y Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 1995/540, a ddirymir gan y Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 1995/2148, a ddirymir gan y Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources