Search Legislation

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, Adran 17. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Tramgwyddau a chosbauLL+C

[F117.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i [F2(9)], bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un neu rai ohonynt yn euog o dramgwydd.

(2) [F3Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (3A)] , bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 15 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

[F4(3A) Bydd person sy’n euog o dramgwydd o dan baragraff 1A neu 1B o Atodlen 6 yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.]

(4) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen gyda pharagraff 4 o Bennod IV o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw (swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi eu neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd).

(5) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3A, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

(6) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3B, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

(7) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3C, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo da byw onid yw'r awdurdod cymwys yn caniatáu iddynt beidio â chael lleoedd o'r fath a bod lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).

(8) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3Ch, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6(b) o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo onid oes lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).]

[F5(9) Nid ystyrir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004 nac wedi methu â chydymffurfio â’r Erthygl honno—

(a)yn achos marc iechyd neu farc adnabod—

(i)os dodwyd y marc iechyd neu’r marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a

(ii)os oedd y marc iechyd neu’r marc adnabod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1) fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; neu

(b)os dodir marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, ar neu ar ôl y diwrnod y daeth y Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i rym a chyn [F61 Ionawr 2024], yn unol ag Erthygl 5(1), fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, gan ddefnyddio label, deunydd lapio neu ddeunydd pecynnu ac arno’r marc adnabod hwnnw ac sy’n perthyn i’r gweithredwr busnes bwyd yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources