RHAN IIIGWEINYDDU A GORFODI

Tramgwyddau a chosbauI1F117

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i F4(9), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un neu rai ohonynt yn euog o dramgwydd.

2

F3Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (3A) , bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

a

o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol; neu

b

o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

3

Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 15 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

F23A

Bydd person sy’n euog o dramgwydd o dan baragraff 1A neu 1B o Atodlen 6 yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

4

Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen gyda pharagraff 4 o Bennod IV o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw (swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi eu neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd).

5

Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3A, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

6

Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3B, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

7

Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3C, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo da byw onid yw'r awdurdod cymwys yn caniatáu iddynt beidio â chael lleoedd o'r fath a bod lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).

8

Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3Ch, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6(b) o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo onid oes lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).

F59

Nid ystyrir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004 nac wedi methu â chydymffurfio â’r Erthygl honno—

a

yn achos marc iechyd neu farc adnabod—

i

os dodwyd y marc iechyd neu’r marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a

ii

os oedd y marc iechyd neu’r marc adnabod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1) fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; neu

b

os dodir marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, ar neu ar ôl y diwrnod y daeth y Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i rym a chyn F61 Ionawr 2024, yn unol ag Erthygl 5(1), fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, gan ddefnyddio label, deunydd lapio neu ddeunydd pecynnu ac arno’r marc adnabod hwnnw ac sy’n perthyn i’r gweithredwr busnes bwyd yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.